Cyflwyniad
Mae cynorthwywyr yn helpu i gyflawni pob gorchwyl ynglŷn â chynnal
amgueddfa. Mae amgueddfeydd o sawl math yn helpu i ddogfennu,
cofnodi a chadw treftadaeth ddiwylliannol helaeth Cymru. Trwy
amgueddfeydd, arddangosfeydd a gwaith estyn braich, mae
gwasanaethau amgueddfeydd yn ceisio dathlu'n lle ni yn hanes y byd
ers dyddiau Celtiaid Oes yr Haearn gan gynnwys y Chwyldro
Diwydiannol, sefydlu Undeb Rygbi Cymru, dyfeisio radar yn ystod yr
Ail Ryfel Byd ac amryw ddigwyddiadau eraill hyd heddiw. Mae
gwasanaethau amgueddfeydd yn cydweithio'n agos â'r ysgolion, cyrff
treftadaeth, cylchoedd hanes lleol a phartneriaid i alluogi
trigolion ac ymwelwyr i ddysgu am hanes mewn modd
rhagweithredol.
Amgylchiadau'r gwaith
Gall cynorthwywr weithio mewn unrhyw ran o amgueddfa. Fel
arfer, fe fydd angen gweithio'n hyblyg dros chwe diwrnod yr wythnos
a allai gynnwys gweithio ar ddydd Sadwrn deirgwaith y mis ac ar
ddydd Sul ddwywaith y mis. Gallai fod rhaid gweithio gyda'r
nos, hefyd. 37 awr yw'r wythnos safonol, ond mae sawl
cytundeb ac iddo 12-16 awr yr wythnos. Bydd rhai amgueddfeydd
yn rhoi gwisg unffurf.
Gweithgareddau beunyddiol
Bydd gweithgareddau'n amrywio. Mae cynorthwywyr yn gweithio
wrth y dderbynfa gan groesawu ymwelwyr ac ateb ymholiadau.
Maen nhw'n gweithio yn y siop hefyd, gan werthu cardiau, llyfrau a
phethau eraill. At hynny, rhaid cerdded trwy fannau cyhoeddus
yr amgueddfa i ofalu bod y casgliadau a'r arddangosfeydd yn ddiogel
a helpu i'w cynnal a'u cadw.
Byddan nhw'n helpu i gynnal achlysuron arbennig megis
arddangosfeydd thematig - 'Oes yr Haearn' ac ati - neu stondinau
sy'n dangos beth roedd pobl yn ei wisgo a sut roedd cartrefi yn y
1950au, er enghraifft. Mae gofyn i gynorthwywyr helpu i
drefnu ystafelloedd cyfarfod i ddibenion megis darlithoedd ac
ymweliadau ysgolion, hefyd.
Er eu bod yn gyfrifol am gadw'r amgueddfa'n ddiogel, mae disgwyl
i'r cynorthwywyr ymddiddori mewn llawer mwy na hynny. Fe
ddylen nhw helpu i hybu gwasanaeth yr amgueddfeydd a bod yn
frwdfrydig wrth wneud hynny. Bydd angen ymdopi â rhyw
sefyllfa anodd weithiau megis ymwelydd trafferthus, hefyd.
Yn ogystal â chydweithio â staff eraill yr amgueddfa drwy'r
amser, bydd cynorthwywr yn cwrdd ag amrywiaeth helaeth o bobl megis
ymwelwyr o dramor a rhai cylchoedd addysgol. Bydd llawer yn
gofyn cwestiynau ac, felly, rhaid gwybod ychydig am yr hyn sydd
yno.
Medrau a diddordebau
Bydd angen y canlynol:
- peth profiad o weithio gyda'r cyhoedd;
- gwir ddiddordeb yng ngwasanaeth yr amgueddfeydd;
- gallu cyfathrebu'n effeithiol â phobl o sawl lliw a llun;
- medrau gweinyddu da;
- gallu gweinyddu trafodion arian a chardiau credyd;
- diddordeb mewn hanes;
- gallu gweithio mewn tîm;
- gallu ymaddasu yn ôl blaenoriaethau cyfnewidiol.
Meini prawf derbyn
Byddai disgwyl bod gyda chi o leiaf bedair TGAU neu gymhwyster
cyfwerth gan gynnwys mathemateg a Saesneg.
Fe fyddai o fantais pe baech chi'n gwybod ychydig am hanes y fro
neu hanes sy'n berthnasol i amgueddfa benodol. Gallai fod
angen gwybodaeth am arferion diogelu a gweithdrefnau cloi adeilad
cyhoeddus. Mae rhai awdurdodau lleol yn mynnu profiad o
weithio gyda'r cyhoedd ym maes manwerthu, arlwyo ac ati neu brofiad
o weithio mewn derbynfa, yn ôl natur y swydd.
Gobeithion a chyfleoedd yn y dyfodol
O ymgymhwyso ym maes astudiaethau amgueddfa, mae modd cael eich
dyrchafu'n swyddog amgueddfa er mai dod yn uwch gynorthwywr yw'r
cam nesaf, fel arfer.
Rhagor o wybodaeth a gwasanaethau
Cymdeithas Haneswyr Celf: www.aah.org.uk
Diwydiannau Creadigol a Diwylliannol: www.cciskills.org.uk
Cymdeithas yr Amgueddfeydd: www.museumsassociation.org
Cewch chi ragor o wybodaeth am y maes hwn trwy gysylltu â
Gyrfaoedd Cymru (www.careerswales.com/), y
llyfrgell gyhoeddus, swyddfa'r gyrfaoedd neu lyfrgell gyrfaoedd
eich ysgol.