Cyflwyniad
Mae arbed adnoddau ynni yn eu hadeiladau eu hunain yn flaenoriaeth
i bob cyngor. Mae gan bob awdurdod lleol bolisïau amgylcheddol - a
staff/ adrannau rheolaeth amgylcheddol neu ynni i sicrhau bod y
rhain yn cael eu rhoi ar waith a'u monitro.
Mae rheolwyr ynni yn gyfrifol am waith tîm o staff technegol
sy'n gwneud yn siŵr bod y mesurau effeithlonrwydd ynni (a
chadwraeth dŵr) gorau posibl yn cael eu defnyddio yn adeiladau'r
cyngor.
Amgylchedd Gwaith
Mae rheolwyr ynni yn gweithio o swyddfeydd yn adeiladau'r cyngor.
Fodd bynnag, maent yn treulio rhan o'u hamser yn ymweld â safleoedd
eraill y cyngor. Maent hefyd yn mynychu cyfarfodydd y cyngor i
adrodd i'r cynghorwyr etholedig ar is-bwyllgorau ynni. Caiff y rhan
fwyaf eu cynnal gyda'r nos.
Gweithgareddau dyddiol
Mae rheolwyr ynni archwilio eiddo i sefydlu lefelau defnydd ynni a
dŵr gwahanol adeiladau. Maent wedyn yn asesu ffyrdd o ostwng y
rhain, drwy osod targedau ar gyfer lleihau defnydd a chyflwyno
ymgyrch gyhoeddusrwydd i annog staff i fod yn llai gwastraffus.
Gallant argymell addasiadau ar raddfa fawr i strwythur yr
adeiladau. Gallant argymell cyflwyno mesurau inswleiddio newydd neu
adnewyddu systemau cyflenwi dŵr. Un flaenoriaeth fawr i lawer o
gynghorau yw disodli'r defnydd o danwydd solid gan danwydd sy'n
cynhyrchu llai o allyriadau carbon deuocsid. Mae'n rhaid i reolwyr
ynni ymchwilio i effeithlonrwydd a chostau defnyddio tanwydd a geir
o adnoddau cynaliadwy.
Maent yn llunio cynllun ar gyfer asesu gwahanol eiddo'r cyngor
dros gyfnod o amser y cytunwyd arno gyda rheolwr gwasanaethau
eiddo'r cyngor. Maent fel arfer yn chwarae rhan lawn yn y gwaith o
adeiladu adeiladau newydd ac yn gweithio'n agos gyda phenseiri a
pheirianwyr gwasanaeth adeiladu i argymell systemau arbed ynni yn
ystod y cam dylunio. Maent yn gyfrifol am neilltuo staff i weithio
ar wahanol brosiectau - a gwneud yn siŵr eu bod yn cael adroddiadau
rheolaidd ganddynt ar wahanol adegau. Y rheolwr ynni sydd â'r
cyfrifoldeb terfynol am baratoi amcangyfrifon o waith sydd ei angen
a'r costau, gan gadw'r rhain o fewn cyllideb yr adran.
Ar ddiwedd pob blwyddyn, mae'r rheolwr ynni yn ysgrifennu
adroddiad ar gyfer cynghorwyr ac uwch reolwyr, yn dangos faint o
gynnydd a wnaed.
Sgiliau a Diddordebau
- Mae sgiliau cyfathrebu da yn ysgrifenedig ac ar lafar yn
hanfodol. Rhaid i reolwyr ynni allu cynhyrchu adroddiadau clir a
chryno, ac i gyflwyno adroddiadau i gyfarfodydd â swyddogion eraill
y cyngor neu aelodau'r cyngor (cynghorwyr etholedig).
- Rhaid iddynt hefyd allu gweithio gyda chydweithwyr o wahanol
adrannau - a phan fyddant ar ymweliadau safle - gyda chontractwyr
a'u gweithwyr.
- Mae rheolwyr ynni yn gyfrifol am gyllidebau mawr a rhaid iddynt
allu asesu blaenoriaethau wrth ddyrannu cyllid i brosiectau.
- Rhaid iddynt allu cymell ac arwain tîm o gydweithwyr.
Gofynion Mynediad
Fel arfer, gofynnir am radd mewn rheoli ynni/ gwyddoniaeth/
technoleg neu bwnc cysylltiedig megis peirianneg. Gall
aelodaeth o un o'r sefydliadau proffesiynol a restrir isod fod o
fantais. Weithiau mae BTEC/ diploma cenedlaethol uwch SQA yn
ddewis derbyniol arall. Mae'r Athrofa Ynni yn datblygu S/NVQ 4
newydd mewn Rheoli Ynni.
Rhagolygon a chyfleoedd y dyfodol
Gallai cyngor bach gyflogi un rheolwr ynni. Mewn cyngor mawr,
efallai bod un rheolwr ynni uwch ac un neu ddau o reolwyr
cynorthwyol.
Mae rhagolygon i gael dyrchafiad fel rheolwr gwasanaethau eiddo
neu reolwr gwasanaethau amgylcheddol.
Mwy o Wybodaeth a Gwasanaethau
Sefydliad Peirianwyr Trydanol www.theiet.org
Sefydliad Siartredig Peirianwyr Gwasanaethau Adeiladu www.cibse.org
Sefydliad Ynni www.energyinst.org
Sgiliau Ynni a Gwasanaethau www.euskills.co.uk
Mae modd cael rhagor o wybodaeth am y maes hwn trwy wefan
Gyrfaoedd Cymru (www.careerswales.com/) y
llyfrgell leol, swyddfa gyrfaoedd eich bro neu lyfrgell eich
ysgol.