Cyflwyniad
Mae rhai pobl yn ei chael yn anodd siarad am nifer o resymau boed
swildod, ofn, nam ar y corff neu afiechyd. Diben therapyddion
lleferydd ac iaith a'u cynorthwywyr yw helpu oedolion a phlant fel
ei gilydd i gyfathrebu ar lafar. Mae'r swydd hon ym mhob math
o awdurdodau ar wahân i gynghorau dosbarth. Er ei bod yn rhan
o addysg, mae cryn dipyn o orgyffwrdd â'r gwasanaethau cymdeithasol
a'r GIG.
Amgylchiadau'r gwaith
Gallai fod angen gweithio mewn sawl lle megis ysbytai, clinigau,
cartrefi'r clientiaid a chanolfannau cymunedol y cyngor. Fe
fydd llawer o deithio, fel arfer. 37 awr yw'r wythnos safonol
ond mae angen gweithio oriau ychwanegol, yn aml. Efallai y
bydd therapydd yn defnyddio tapiau sain fel y gall clientiaid
wrando ar eu lleisiau.
Gweithgareddau beunyddiol
Mae therapyddion yn cydweithio'n agos â nyrsys, meddygon,
gweithwyr cymdeithasol a theuluoedd clientiaid. Maen nhw'n
gweithio mewn timau gofal cymunedol, yn aml. Y cam cyntaf yw
asesu anghenion y client a phennu triniaeth addas. Mae rhaid
trin a thrafod amryw broblemau o achos anableddau dysgu neu nam ar
y corff. Mae llawer o'r gwaith yn ymwneud â phlant - atal
dweud, taflod hollt neu anableddau dysgu o ganlyniad i nam ar y
meddwl neu esgeulustod cymdeithasol/addysgol.
Mae gwaith gydag oedolion yn ymwneud ag adsefydlu ar ôl damwain
neu anaf, yn aml. Er enghraifft, efallai y bydd rhaid i rywun
mae ci wedi brathu ei geg yn ffyrnig neu rywun sydd wedi cael
trawiad ar yr ymennydd ddysgu i siarad eto. Mewn rhai
achosion prin, mae trawiad ar yr ymennydd wedi peri i bobl siarad
yn wahanol. Er enghraifft, dechreuodd menyw oedd wedi ynganu
Saesneg yn y modd safonol gynt siarad ag acen Albanaidd gref.
Roedd hi am gael ei llais naturiol yn ôl, wrth gwrs, a gofynnodd i
therapydd lleferydd ac iaith ei helpu. Mae meddygon, ymwelwyr
iechyd, athrawon a phroffesiynolion eraill yn anfon clientiaid at y
therapydd. Yn y rhan fwyaf o achosion, bydd angen gweithio'r
client dros hyn a hyn o amser.
Medrau a diddordebau
Dyma'r rhai hanfodol:
- gallu cyd-dynnu â phobl o bob lliw a llun;
- amynedd;
- dealltwriaeth;
- gallu ennill hyder clientiaid;
- lleferydd eglur a medrau gwrando da;
- natur feddylgar;
- diddordeb yn y gwyddorau ieithyddol.
Gan y gallai cynnydd clientiaid fod yn araf, mae agwedd
gadarnhaol yn hanfodol. Ar ben hynny, mae angen medrau trefnu
triniaeth ac amserlenni.
Meini prawf derbyn
Mae angen gradd. I astudio ar gyfer gradd, mae angen 5 TGAU
a 2 Safon Uwch er bod gan y rhan fwyaf o ymgeiswyr lawer mwy na
hynny achos bod tipyn o gystadlu am y lleoedd sydd ar gael.
Mae angen tystysgrifau Safon Uwch yn y gwyddorau ar gyfer rhai
cyrsiau. Does dim terfyn oedran - mae modd i oedolyn a
chanddo'r holl gymwysterau priodol gael ei dderbyn i astudio ar
gyfer gradd. I fod yn therapydd, mae angen tystysgrif Coleg
Brenhinol y Therapyddion Lleferydd ac Iaith. Mae dwy ffordd
o'i chael:
- ennill gradd gydnabyddedig mewn pwnc megis therapi lleferydd ac
iaith neu astudiaethau cyfathrebu clinigol sy'n cynnwys anatomeg,
ffisioleg, niwroleg, seineg, llais ac ieitheg;
- ennill gradd mewn pwnc cysylltiedig megis ieitheg neu seicoleg
a dilyn cwrs dwy flynedd i ôl-raddedigion wedyn.
Yn ogystal ag astudio damcaniaethol, bydd profiad gwaith o dan
adain therapydd cymwysedig.
Gobeithion a chyfleoedd yn y dyfodol
Mae cyfleoedd i gael dyrchafiad yn uwch therapydd a chael swyddi
ac iddyn nhw ragor o gyfrifoldebau mewn sefydliadau meddygol
preifat neu fod yn ymgynghorydd preifat. Ar ôl cael rhagor o
gymwysterau a phrofiad, bydd swyddi yn y prifysgolion a
chanolfannau anableddau niwrolegol ar gael.
Rhagor o wybodaeth a gwasanaethau
Sefydliad Breiniol yr Ieithegwyr: www.iol.org.uk
Sefydliad Cynghori am Yrfaoedd: www.icg-uk.org
Coleg Brenhinol y Therapyddion Lleferydd ac Iaith: www.rcslt.org
Cewch chi ragor o wybodaeth am y maes hwn trwy gysylltu â
Gyrfaoedd Cymru (www.careerswales.com/), y
llyfrgell gyhoeddus, swyddfa'r gyrfaoedd neu lyfrgell gyrfaoedd
eich ysgol.