Cydlynydd anableddau

Cyflwyniad
Mae mwy a mwy o gydnabyddiaeth bod arnon ni gyfrifoldeb am bobl sydd heb allu ymdopi â bywyd arferol o achos nam ar y corff neu'r synhwyrau.  Derbynnir bod gan bawb hawl i fyw'n fodlon yn y gymuned beth bynnag fo'i anfantais.  Mae hynny'n berthnasol i hen bobl, pobl anabl, y rhai sy'n ei chael yn anodd symud, y rhai ac arnyn nhw anableddau dysgu a'r rhai sy'n dioddef trwy nam ar y clyw neu'r golwg.

At hynny mae gan bobl eraill megis ffoaduriaid a'r rhai sy'n gofyn am loches hawl i fynnu i'r gwasanaethau cymdeithasol eu helpu i ymaddasu i fywyd ym Mhrydain.  Mae uwch reolwyr a chydlynwyr yn gyfrifol am weinyddu trefniadau cymorth sy'n diwallu anghenion pob math o bobl sydd o dan anfantais.

Amgylchiadau'r gwaith
Byddwch chi'n gweithio mewn swyddfa gan amlaf er bod angen teithio i gyfarfodydd a chynadleddau lleol, rhanbarthol a gwladol weithiau.  37 awr yw'r wythnos safonol gan gynnwys oriau anghymdeithasol.  Rhaid treulio tipyn o amser wrth gyfrifiadur.

Gweithgareddau beunyddiol
Diben y swydd yw gofalu bod gofal cymdeithasol priodol ac amserol ar gael i bawb a chanddo nam ar y corff neu'r synhwyrau.  Rôl rheolwr y gwasanaeth yw gofalu bod hynny'n digwydd ar y cyd â gweithwyr cymdeithasol, proffesiynolion iechyd, rheolwyr gwasanaethau eraill a mudiadau megis Age Concern a Chyngor y Ffoaduriaid.  Bydd cydlynydd anableddau'n gwneud y canlynol bob dydd:

  • goruchwylio rheolwyr timau'r gwasanaeth;
  • pennu trywydd strategol y gwasanaeth a llunio polisïau;
  • gofalu bod trefn asesu a rheoli gofal;
  • paratoi a monitro cyllidebau;
  • ysgrifennu adroddiadau;
  • paratoi cytundebau;
  • llywio cyfarfodydd;
  • monitro cynnydd y gwasanaeth.

Wrth ddatblygu'r gwasanaeth, bydd y rheolwr yn ysgwyddo cyfrifoldeb am faterion o bwys megis:

  • cynlluniau iechyd a lles i ffoaduriaid (tai a budd-daliadau, er enghraifft);
  • prosiectau hyfforddi a chyflogi pobl anabl.

Bydd cydlynydd yn gweithio trwy gyfrwng timau rheoli anableddau a gwasanaethau ac o'i ben ei bastwn ei hun.  Mae'n waith ymestynnol sy'n rhoi tipyn o foddhad serch hynny.
 
Medrau a diddordebau
Mae angen y canlynol:

  • agwedd dringar;
  • gallu rheoli prosiectau;
  • gallu trin a thrafod ffigurau;
  • hyder;
  • gallu cyd-dynnu â phobl o sawl cefndir;
  • medrau cyfathrebu da - ar lafar ac ar bapur fel ei gilydd;
  • gallu dadansoddi deunydd cymhleth.

Meini prawf derbyn
Mae cymhwyster ym maes gwaith cymdeithasol megis diploma neu radd yn hanfodol.  Bydd angen rhai blynyddoedd o brofiad yn weithiwr cymdeithasol ac yn rheolwr tîm, hefyd.  Bydd hyfforddiant yn y gwaith yn rhan o'r datblygu proffesiynol parhaus.

Gobeithion a chyfleoedd yn y dyfodol
Dyma faes eithaf cyfyng heb lawer o lwybrau dyrchafu.  Ar ôl rhagor o hyfforddiant a chymwysterau, fodd bynnag, mae modd cael dyrchafiad yn bennaeth gwasanaethau i oedolion, cyfarwyddwr cynorthwyol gwasanaethau cymdeithasol a chyfarwyddwr.  At hynny, mae cyfleoedd i weithio mewn prosiectau arbenigol fyddai'n arwain at y math o brofiad sy'n angenrheidiol ar gyfer dyrchafu.  Y tu allan i faes llywodraeth leol, mae cyfleoedd yn y sector gwirfoddol.

Rhagor o wybodaeth a gwasanaethau
Age Cymru: www.ageuk.org.uk/cymru
Cyngor Gofal Cymru: www.ccwales.org.uk
Gofal Cymunedol: www.communitycare.co.uk
Gwirfoddolwyr Gwasanaeth Cymunedol: www.csv.org.uk/socialhealthcare
Adran Iechyd San Steffan: www.dh.gov.uk
Hawliau Pobl Anabl y Deyrnas Gyfunol: http://disabilityrightsuk.org/
Cyngor Galwedigaethau Iechyd a Gofal: www.hpc-uk.org
Asiantaeth Cartrefi a Chymunedau: www.homesandcommunities.co.uk
Medrau er Gofal: www.skillsforcare.org.uk
Cymdeithas Gofal Cymdeithasol: www.socialcareassociation.co.uk
Cyngor Pobl Anabl y Deyrnas Gyfunol: www.ukdpc.net/site
Cyngor Ffoaduriaid Cymru: http://welshrefugeecouncil.org.uk

Mae rhagor o wybodaeth gan Gyrfaoedd Cymru (www.careerswales.com/), y llyfrgell leol a swyddfa/llyfrgell materion gyrfaoedd eich ysgol.

Related Links