Arweinydd tîm, goruchwylydd paratoi data

Cyflwyniad
Mae cyfrifiaduron yn chwarae rôl flaenllaw o ran storio ac adalw data mewn pob adran awdurdodau lleol.  Mae technoleg gwybodaeth yn helpu cynghorau i reoli'r data sydd ei angen arnynt i ddarparu gwasanaethau'n effeithlon.  Gall fod yn wybodaeth am gynlluniau traffig, safleoedd gwaredu gwastraff, cyfraddau treth gyngor newydd, risgiau llygredd, budd-daliadau neu geisiadau cynllunio, er enghraifft.

Mae goruchwylwyr paratoi data'n gweithio fel rhan o'r Tîm Cynhyrchu Technoleg Gwybodaeth mewn gwasanaethau corfforaethol.  Prif nod y swydd yw mewnbynnu data: Sef mewnbynnu a dilysu gwybodaeth ar gyfer y brif system.

Amgylchedd Gwaith
Mae'r swydd wedi'i lleoli mewn swyddfa, gan symud rhwng gwasanaethau amrywiol y cyngor ar gyfer cyfarfodydd ynghylch prosiectau newydd a phrosiectau parhaus.  Gall fod sŵn a gwaith cario, ond mae'r swydd yn bendant yn cynnwys cyfnodau hir o eistedd o flaen sgrîn cyfrifiadur.

Gweithgareddau Dyddiol
Mae goruchwylio'r gwaith o baratoi data'n cynnwys gweithio ar gyfer y swyddog rheoli data a chyda chydweithwyr yn yr adran, megis technegwyr y we, gweinyddwyr y gronfa ddata, rhaglenwyr systemau ac eraill mewn swyddi TG, y bydd rhai ohonynt yn rhan o dîm y goruchwylydd.  Y prif dasg yw mewnbynnu a dilysu data'n gywir, ei drosglwyddo i'r brif system, a bod yn gyfrifol am reoli'r ddesg.  Gall arweinydd tîm dreulio llawer o amser yn mewnbynnu system rota ar gyfer swyddi, er enghraifft.


Yn ogystal â chysylltu â rheolwyr gwasanaeth amrywiol, bydd y goruchwylydd paratoi data'n cwrdd ag aelodau o dimau golygu'r we neu swyddogion adrannau eraill sy'n ymdrin â gwaith dylunio a data a datblygu'r we.  Cyfrifoldeb y goruchwylydd yw darparu gwybodaeth ar gyfer y gwasanaeth electronig y mae'r cyngor yn ei ddarparu i'r cyhoedd.  Gall pobl sydd am gael rhagor o wybodaeth am gynlluniau goleuo stryd, budd-daliadau neu swyddi gwag - fel yr un yma, er enghraifft - gamu i mewn i'r bwth a gwasgu botwm i weld y data perthnasol.  Mae angen data ar gyfer y Fewnrwyd hefyd, sef system gyfathrebu fewnol y cyngor.

Sgiliau a Diddordebau
I fod yn dda yn y swydd bydd angen y canlynol arnoch:

  • y gallu i fod yn fanwl gywir 
  • y gallu i reoli prosiectau  
  • sgiliau rhifedd a'r gallu i weithio gyda rhifau a thaflenni data 
  • y gallu i feithrin cydberthnasau da gyda phobl o gefndiroedd gwahanol 
  • y gallu i ddefnyddio bysellfwrdd i fewnbynnu gwybodaeth 
  • y gallu i brosesu geiriau i lunio adroddiadau

Bwysicaf oll, rhaid i chi ddangos y gallu i reoli pobl a rhedeg tîm yn effeithiol.

Gofynion Mynediad
Gallai profiad perthnasol fod yn bwysicach na chymwysterau academaidd, ond efallai byddai disgwyl i chi feddu ar gymhwyster mewn Mathemateg a Saesneg.  Rhaid i chi gael sgiliau bysellfwrdd o'r dechrau.  Gallai profiad rheoli blaenorol - o safle ar y fewnrwyd, er enghraifft - fod yn ddefnyddiol iawn.

Gyda hyfforddiant mewn swydd, gallech symud o fod yn hyfforddai i mewn i swydd oruchwylio gyda chymwysterau a phrofiad galwedigaethol pellach.  Gallai fod cyfleoedd i weithio tuag at S/NVQ. Gall prentisiaethau fod ar gael.

Cyfleoedd yn y dyfodol
Mae hwn yn faes gwaith cul, ac mae'r cyfleoedd o gael dyrchafiad yn fach oherwydd mae mwy a mwy o ddata'n cael ei baratoi ar-lein.  Mae'r cyfleoedd gorau mewn adrannau eraill neu agweddau eraill ar waith TG lle mae profiad paratoi data'n berthnasol: e.e. timau rheoli perfformiad, cyllid, y gyflogres ac AD.

Rhagor o Wybodaeth a Gwasanaethau
Computeach www.computeach.co.uk
Computer Weekly www.computerweekly.com
Computing www.computing.co.uk
Cymdeithas Cyfrifiaduron Prydain www.bcs.org
E-skills UK www.e-skills.com
Gwybodaeth am brentisiaeth www.apprenticeships.org.uk
Institute for the Management of Information Systems www.imis.org.uk
Y Gymdeithas Rheoli TG www.socitm.gov.uk
 
Mae modd cael rhagor o wybodaeth am y maes hwn trwy wefan Gyrfaoedd Cymru (www.careerswales.com/) y llyfrgell leol, swyddfa gyrfaoedd eich bro neu lyfrgell eich ysgol.

Related Links