Cyflwyniad
Gall sawl peth fynd o chwith mewn sustem gyfrifiadurol ac mae galw
mawr am bobl sy'n gallu rhoi cymorth arbenigol. Efallai mai
trwy ddatrys problemau y cewch chi'r boddhad mwyaf yn y swydd, ond
mae'n ymwneud â llawer mwy na thrwsio cyflym.
Nod y swydd yw cydlynu cymorth gweinyddol a chorfforaethol fel y
caiff cwsmeriaid mewnol (gweithwyr y cyngor) wasanaeth effeithlon
ym maes technoleg gwybodaeth a chyfathrebu.
Mae rhai awdurdodau'n galw cydlynydd desg cymorth TG yn swyddog
desg cymorth TG neu'n swyddog desg gwasanaeth TG. Gallai fod
yn rhan o waith y bydd swyddog perfformiad ac ansawdd yn ei
gyflawni yn ôl y disgrifiad o'i swydd. Mae cymorth o'r fath
ar gael mewn cynghorau lleol o bob math.
Amgylchiadau'r gwaith
Mewn swyddfeydd y bydd y rhan fwyaf o'r gwaith, er y bydd angen
teithio i ambell gyfarfod. 37 awr yw'r wythnos safonol, heb
shifftiau nac oriau anghymdeithasol.
Gweithgareddau beunyddiol
Rhaid i gydlynwyr gyflawni dau fath o orchwylion bob dydd.
Mae modd didoli eu cyfrifoldebau yn ôl dau gategori, sef cydlynu
cymorth a thrin a thrafod data am y cymorth hwnnw i ddibenion
rheoli perfformiad.
Desg cymorth technoleg gwybodaeth:
- rheoli a goruchwylio cymorth ym maes technoleg gwybodaeth;
- cynnal a chydlynu desg y cymorth/gwasanaeth;
- defnyddio gweithdrefnau a sustemau ar gyfer cofnodi gwybodaeth
sy'n hanfodol i fonitro perfformiad;
- cadw cofrestr o asedion a meddalwedd TGCh;
- cynrychioli'r gwasanaeth mewn gweithgorau a chyfarfodydd;
- paratoi adroddiadau am yr hyn mae'r gwasanaeth wedi'i
gyflawni.
Byddan nhw'n defnyddio amryw sustemau meddalwedd i gofnodi
galwadau, llunio adroddiadau a rheoli data am berfformiad.
Rhaid trin a thrafod pobl yn ogystal â pheiriannau, wrth gwrs, ac
mae'r cydlynwyr ar ddyletswydd drwy'r amser i helpu gweithwyr
eraill y cyngor.
Medrau a diddordebau
Dyma'r rhai pwysicaf:
- gallu ymarferol;
- manwl gywirdeb;
- gallu rheoli prosiectau;
- gallu trin a thrafod ffigurau;
- hyder;
- medrau cyfathrebu ar lafar ac ar bapur;
- dawn gofalu am gwsmeriaid;
- gallu rheoli staff;
- medrau dadansoddi;
- medrau da ynglŷn â thrin a thrafod pobl;
- gwybodaeth eang am raglenni Microsoft, sustemau gweithredu a
meddalwedd arall mae'r cyngor yn ei defnyddio.
Meini prawf derbyn
Fel arfer, bydd angen profiad o oruchwylio staff, materion gwerth
arian a gofalu am gwsmeriaid. Bydd o leiaf 4 TGAU (gan
gynnwys mathemateg a Saesneg) a phrofiad ym maes technoleg
gwybodaeth yn hanfodol. Gallai cymwysterau ehangach mewn
meysydd megis tai, gweinyddu neu gyllid o gymorth, hefyd.
Efallai y bydd cyfleon i fanteisio ar hyfforddiant yn y gwaith
megis cyrsiau rheoli gwasanaethau technoleg gwybodaeth, er nad yw
hynny'n hanfodol.
Gobeithion a chyfleoedd yn y dyfodol
Mae'r gobeithion yn dda i bawb a chanddo brofiad helaeth o
dechnoleg gwybodaeth. Y cam nesaf ar y llwybr yw rheolwr
perfformiad ac ansawdd. Y swydd uchaf yw rheolwr TG ac mae
sawl cyfle i gael swyddi tebyg yn y sectorau gwladol a
phreifat.
Rhagor o wybodaeth a gwasanaethau
Gwybodaeth am brentisiaethau: www.apprenticeships.org.uk
Computeach www.computeach.co.uk
Computer Weekly www.computerweekly.com
Computing www.computing.co.uk
E-skills UK www.e-skills.com
Sefydliad Rheoli Sustemau Gwybodaeth: www.imis.org.uk
Cymdeithas Rheolwyr TG: www.socitm.gov.uk
Sefydliad Breiniol TG: www.bcs.org
Cewch chi ragor o wybodaeth am y maes hwn trwy gysylltu â
Gyrfaoedd Cymru (www.careerswales.com/), y
llyfrgell gyhoeddus, swyddfa'r gyrfaoedd neu lyfrgell gyrfaoedd
eich ysgol.