Cyflwynydd
Os ydych yn credu yng ngrym cyfrifiaduron, wrth eich bodd yn creu
trefn o anhrefn ac yn gallu cael digon o ddylanwad i sicrhau bod y
drefn yr ydych wedi'i gosod yn cael ei chynnal, dyma'r lle i
chi. Mae'r swydd hon yn rhoi cymorth angenrheidiol i wahanol
rannau o'r sector amgylcheddol a gwasanaethau eraill cynghorau
amrywiol - hyd yn oed cynghorau sir er na fydd y rheiny'n gyfrifol
yn benodol am faterion amgylcheddol. Gwaith rheoli systemau
technoleg gwybodaeth a staff yw hwn yn bennaf, er y bydd pob math o
swyddogaethau gweinyddol i'w cyflawni hefyd.
Amgylchedd Gwaith
Bydd aelodau o'r uned hon yn gweithio am ychydig dros 36 awr yr
wythnos ac ni fydd gwaith sifftiau nac oriau anghymdeithasol.
Byddant yn gwneud eu holl waith yn y swyddfa neu wrth y dderbynfa,
a bydd disgwyl iddynt deithio i fannau lleol yn awr ac yn y man ar
gyfer cyfarfodydd.
Gweithgareddau Dyddiol
Rheoli'r tîm sy'n rhoi cymorth gweinyddol i swyddogion adran
amddiffyn y cyhoedd yw pwrpas y swydd hon. Mae'n gofyn am
grynhoi adroddiadau, gwybodaeth ariannol a materion recriwtio a
staffio ar gyfer personél a chadw golwg gyffredinol ar y gronfa
ddata gyfrifiadurol. Bydd yr arweinydd tîm nid yn unig yn
goruchwylio staff swyddfa a derbynfa'r uned, ond hefyd glanhawyr a
gofalwyr sy'n helpu i gynnal yr adeilad. Y nod yw sicrhau bod yr
holl adnoddau dynol a thechnolegol yn gweithio. Mae'n rhaid
sicrhau bod systemau'n gallu rhoi gwybodaeth ddefnyddiol, yn
brydlon, i bawb sy'n ei cheisio, gan gynnwys cyrff allanol fel yr
Awdurdod Gwasanaethau Ariannol. Mae hyn yn golygu cysylltu'n
rheolaidd â staff proffesiynol, technegol a gweinyddol, y cyhoedd
yn gyffredinol, aelodau awdurdodau lleol, contractwyr a phobl
fusnes.
Er y bydd swyddogion ran fynychaf yn gaeth i amserlenni sy'n
cael eu hysgogi gan anghenion pobl eraill, bydd cyfle o hyd i'r
arweinydd weithio o'i ben a'i bastwn ei hun a defnyddio ei sgiliau
cyd-drafod. Mae'r gwaith yn gofyn am fentro gweithredu'n
ogystal ag ymateb, a bydd cyfle hefyd i'r arweinydd weithio ar
brosiectau arbennig o bryd i'w gilydd megis ffurfweddu'r gronfa
ddata gyfrifiadurol ar gyfer cymhwysiad newydd, er
enghraifft. Y cyfrifiadur, wrth reswm sy'n ganolog i'r
swydd.
Sgiliau a Diddordebau
Er mwyn cyflawni'r swydd hon yn dda, bydd yn rhaid i chi:
- allu gweithio'n fanwl;
- allu trafod rhifau'n dda;
- fod yn fedrus wrth drin cyfrifiadur;
- allu cyd-dynnu'n dda â phobl o gefndir gwahanol;
- fod yn hyderus;
- allu rheoli prosiectau'n dda.
Am fod angen gwybodaeth ar reolwyr yn gyson, y mae'n rhaid i'r
rhai sy'n gweithio yn yr uned gymorth allu ymateb yn gyflym, deall
blaenoriaethau, dirprwyo a bod yn agored i'r newid yn y
dyletswyddau cyffredinol sydd ynghlwm wrth arwain tîm bychan.
Mae hefyd yn bwysig iawn i'r arweinydd allu deall cryfderau a
gwendidau pobl, a bod yn amyneddgar, nid yn unig wrth drafod
cwsmeriaid sydd wedi digio, ond wrth ymateb i ofynion mewnol.
Gofynion Derbyn
Er nad oes angen unrhyw gymwysterau ffurfiol arnoch ar gyfer eich
cyflogi, byddwn yn eich annog i weithio ar gyfer cymwysterau fel
Diploma Cenedlaethol Uwch mewn Gweinyddiaeth Gyhoeddus a Diploma
mewn Astudiaethau Rheoli tra eich bod yn y swydd. Serch
hynny, dylai fod gennych brofiad blaenorol o waith sy'n gofyn am
sgiliau cyfrifiadur.
Rhagolygon a Chyfleoedd
Maes ar ei brifiant yw hwn. Wrth i effeithiolrwydd ac
ymarfer da ddod yn bwysicach, ac i bobl ofyn am fwy gan eu cyngor
nag erioed o'r blaen mewn cyfnod o brinder adnoddau, y mae'n
bwysicach nag erioed i systemau cyfrifiadurol weithio'n effeithiol.
Mae gwefannau sy'n helpu'r cyhoedd i gael gwybodaeth ac ymateb gan
y cyngor, a threfniadau sy'n hwyluso cyfathrebu'r tu fewn i'r
cyngor, yn hanfodol i awdurdod allu darparu gwasanaethau ar gyfer y
gymuned. Mae hynny'r un mor ni waeth beth fo dan sylw boed
cwyn ynteu cwestiwn syml am oriau cau swyddfeydd. Bydd tipyn
o ysgogiad yn y swydd hon i bobl ennill cymwysterau proffesiynol a
symud ymlaen i swyddi gweinyddol eraill.
Rhagor o wybodaeth a Gwasanaethau
Cylchgronau TG arbenigol
Computing.co.uk www.computing.co.uk
Cymdeithas Rheolwyr TG www.socitm.gov.uk
E-sgiliau www.e-skills.com
Sefydliad Rheoli Systemau Gwybodaeth www.imis.org.uk
Cewch ragor o wybodaeth am y maes hwn drwy gysylltu â Gyrfa
Cymru (www.careerswales.com/),
eich llyfrgell leol, eich swyddfa yrfaoedd neu lyfrgell yrfaoedd
eich ysgol.