Rheolwr gwasanaethau gwybodaeth gweinyddol a chorfforaethol

Cyflwyniad
Dyma swydd i'w hystyried ar ôl cael digon o brofiad ym maes TG gan gynnwys rheoli data, llunio gwefannau a sustemau gwybodaeth.  Mewn rhai awdurdodau lleol, mae'r swydd yn ymwneud â rheoli mwyafrif y swyddogaethau hynny'n gyffredinol.  Felly, y cam nesaf ar ôl rheolwr gwybodaeth yw hi.  Mae'r swydd hon i'w chael mewn sawl adran ac awdurdod ond, gan amlaf, yn swyddfa'r prif weithredwr.  Mae technoleg gwybodaeth yn berthnasol i bob gweithiwr a'r cyngor yn ei gyfanrwydd.

Mae gan bob cyngor wefan i roi gwybod i bobl y fro am ei wasanaethau yn ôl meini prawf effeithlonrwydd a darbodaeth.  Mae gofyn statudol i wasanaethau'r cyngor i gyd fod ar gael trwy'r we.  I gael gwybod pa fudd-daliadau mae modd i'w mynnu, fe gewch chi ddod o hyd i'r wybodaeth honno trwy gyfrifiadur bellach.  Cyn bwysiced â hynny yw'r sustem gyfathrebu fewnol - y mewnrwyd - a rheolwr y gwasanaethau gwybodaeth sy'n bennaf cyfrifol am honno.

Amgylchiadau'r gwaith
Mewn swyddfa y byddwch chi'n gweithio er y bydd angen teithio i adrannau eraill o'r cyngor ac, weithiau, i swyddfeydd cynghorau eraill.  37 awr yw'r wythnos safonol heb angen gweithio shifftiau.  Efallai y byddwch chi'n gweithio y tu allan i'r oriau arferol er nad oes gofyn swyddogol i wneud hynny.

Gweithgareddau beunyddiol
Diben y swydd hon yw rheoli gwasanaethau technegol, gwasanaethau i gwsmeriaid a gwasanaethau gwybodaeth fel a ganlyn:

  • cyfarwyddo technoleg gwybodaeth a chyfathrebu yn ôl polisïau'r cyngor;
  • llunio sustemau i alluogi'r cyngor i gyfathrebu'n well â phawb sy'n ymwneud ag e megis pobl y fro, cyflenwyr nwyddau a gwasanaethau, Asiantaeth yr Amgylchedd, yr heddlu a mudiadau gwirfoddol - gan gynnwys trin a thrafod galwadau ffôn ac adlunio prosesau gweinyddu cysylltiedig;
  • llunio gwefannau'r rhyngrwyd a'r mewnrwyd.

Yn ei gyfrifoldebau bob dydd, bydd rheolwr gwasanaethau gwybodaeth gweinyddol a chorfforaethol yn ymwneud â chydlynu a datblygu trefn rheoli gwybodaeth.  Hanfod hynny yw cyfarwyddo'r rhai sy'n llunio tudalennau ar gyfer y rhyngrwyd/mewnrwyd, trefnu gweithgareddau hyfforddi a chynghori staff y cyngor a phenderfynu ar ffyrdd o ddatrys problemau i alluogi'r cyngor i gyfathrebu'n well â phartneriaid a thrigolion ei ardal.  Rhaid cadw golwg ar ddatblygiadau technolegol a helpu i lunio strategaeth y cyngor ynglŷn â gwasanaethau electronig.  Ar y cyfan, y swyddogaeth allweddol yw rheoli'r rhai sy'n gyfrifol am gynnig gwasanaethau gwybodaeth eu hadrannau i staff y cyngor a'r cyhoedd fel ei gilydd.  Bydd rheolwr gwasanaethau gwybodaeth yn cynnal cysylltiadau â'r cynghorau lleol eraill, cyrff rhanbarthol a gwladol a chwmnïau preifat ar draws holl gyfrifoldebau'r cyngor: gwasanaethau cymdeithasol, adeiladu ac eiddo, iechyd amgylcheddol, trafnidiaeth, addysg a hamdden.
 
Medrau a diddordebau
Bydd angen y canlynol arnoch chi:

  • gallu gweithio o'ch pen a'ch pastwn eich hun;
  • gallu rheoli prosiectau;
  • medrau ymarferol;
  • manwl gywirdeb;
  • medrau rhagorol ym maes technoleg gwybodaeth;
  • gallu trin a thrafod ffigurau;
  • hyder;
  • gallu cyd-dynnu â phobl o sawl cefndir;
  • medrau rhagorol ym maes rheoli;
  • medrau rhagorol ym maes cyfathrebu - ar lafar ac ar bapur fel ei gilydd.

Meini prawf derbyn
Mae angen gradd neu gymhwyster cyfatebol.  Y pynciau hanfodol yw astudiaethau busnes a gwyddorau technoleg gwybodaeth.  Tybir y bydd gyda chi brofiad helaeth o sustemau cyfrifiadurol.  Mae profiad ynghylch technoleg gwybodaeth, hyfforddiant rhyngweithiol am gyfrifiaduron a llunio gwefannau yn ddefnyddiol, hefyd.

Gobeithion a chyfleoedd yn y dyfodol
Bydd cyfleoedd yn dibynnu ar faint o bwysigrwydd mae'r cyngor yn ei roi i'r swydd.  Daw dyrchafiad yn ôl eich gallu ac mae gobeithion rhesymol o ran datblygu'ch gyrfa.  Prif weithredwr yw'r swydd uchaf.  Mae cyfleoedd y tu allan i faes llywodraeth leol, hefyd.

Rhagor o wybodaeth a gwasanaethau
Computing Magazine: www.computing.co.uk
Computer Weekly: www.computerweekly.com
Cymdeithas Rheoli TG: www.socitm.net
Cymdeithas Cyfrifiaduron Prydain: www.bcs.org.uk
e-skills UK www.e-skills.com
Sefydliad Rheoli Sustemau Gwybodaeth: www.imis.org.uk

Cewch chi ragor o wybodaeth am y maes hwn trwy gysylltu â Gyrfaoedd Cymru (www.careerswales.com/), y llyfrgell gyhoeddus, swyddfa'r gyrfaoedd neu lyfrgell gyrfaoedd eich ysgol.

Related Links