Cyflwyniad
 Mae cyfrifiaduron yn bwysig iawn ynglŷn â chadw a chanfod
gwybodaeth ym mhob un o adrannau'r cynghorau lleol.  Mae
technoleg gwybodaeth yn helpu'r cynghorau i gadw trefn ar yr holl
ddata y bydd eu hangen arnyn nhw i gynnig gwasanaethau yn
effeithlon.  Un swyddogaeth mae angen data cywir ar ei chyfer
yw paratoi ceisiadau am arian cronfeydd.  Diben swyddog y
rheoli data yw cydlynu, casglu a dadansoddi data penodol a
defnyddio sustemau priodol ar gyfer eu cadw ar ran uned sy'n llunio
ceisiadau'r cyngor.  Bydd yn cynghori clientiaid am ddod o hyd
i ddata a ffynonellau arian perthnasol wrth baratoi ceisiadau a
datblygu prosiectau gan ofalu y bydd pob prosiect yn cyd-fynd â'r
arian sydd ar gael.  Mae'r rôl yn y rhan fwyaf o
gynghorau.
Amgylchiadau'r gwaith
 Mae swyddogion rheoli data'n gweithio'n rhan o dîm ac ynddo
bennaeth yr uned, rheolwyr datblygu ariannu a rheolwyr
prosiectau.  At hynny, maen nhw'n ymwneud yn fynych â phrif
swyddogion, uwch swyddogion ym mhob adran a staff TG megis y rhai
sy'n goruchwylio gwaith paratoi data.  Rhaid meithrin
cysylltiadau allanol hefyd â gweision gwladol, partneriaethau
rhanbarthol a lleol a'r rhai sy'n rhoi grantiau.  Yn y swyddfa
y byddwch chi'n gweithio er bod angen ymweld ag amryw wasanaethau'r
cyngor a mynd i gyfarfodydd allanol yn ôl yr angen.  37 awr
yw'r wythnos safonol, a bydd angen gweithio gyda'r nos a thros y
Sul weithiau, hefyd.  Bydd angen gweithio o dan lawer o bwysau
yn y swydd hon.
Gweithgareddau beunyddiol
 Dyma'r prif orchwylion:
- datblygu a chynnal cronfa ddata gynhwysfawr gan roi ffynonellau
ynghyd â phartneriaid mewnol ac allanol;
 
- sefydlu a chynnal cronfa ddata i fonitro hynt ceisiadau a modd
eu gweithredu;
 
- rheoli ymholiadau'r rhai sy'n chwilio am arian trwy gronfa
ddata Grantfinder i ddod o hyd i ffynonellau arian ar gyfer
partneriaid mewnol ac allanol;
 
- gofalu bod gwefannau'r Rhyngrwyd a'r Mewnrwyd yn gyfoes;
 
- meithrin cysylltiadau â swyddogion ymchwil a gwybodaeth eraill
yn adrannau'r cyngor ac asiantaethau allanol megis y GIG;
 
- dadansoddi elfennau economaidd a chymdeithasol cyfnewidiol
allai effeithio ar ariannu gwladol;
 
- rheoli a gweinyddu cronfa partneriaethau'r cyngor gan gysylltu
â chynghorwyr, adrannau a'r cyhoedd;
 
- sefydlu gweithdrefnau archwilio a chael gafael ar arian
cyfatebol;
 
- trefnu a chynnal cyfarfodydd a seminarau am weithdrefnau
cyflwyno cais;
 
- cynghori clientiaid am ddiwyg ac ehangder gweithdrefnau o'r
fath ynglŷn â'r arian sydd ar gael;
 
- helpu partneriaid i ddefnyddio cronfeydd data priodol i gadw
llygad ar geisiadau a hynt prosiectau;
 
- cynrychioli'r uned a'r cyngor mewn rhwydweithiau gwybodaeth
mewnol ac allanol;
 
- llunio protocolau rhannu data a gofalu bod gwaith yr uned yn
cyd-fynd â gofynion Deddf Diogelu Data. 
 
Medrau a diddordebau
 Dyma'r rhai hanfodol:
- gallu gweithio o dan bwysau yn ôl targedau ac amserlenni;
 
- medrau cyfathrebu effeithiol ar lafar ac ar bapur fel ei
gilydd;
 
- brwdfrydedd a chymhelliant cryf;
 
- hyder;
 
- medrau da ym maes technoleg gwybodaeth;
 
- gallu cyd-dynnu â phobl o sawl lliw a llun;
 
- gallu defnyddio cyfrifiadur am o leiaf 12 awr yr wythnos.
 
Meini prawf derbyn
 Bydd gradd neu gymhwyster cyfwerth yn hanfodol (economeg neu
ystadegau fyddai orau).  Ar ben hynny, bydd angen o leiaf dair
blynedd o brofiad ynglŷn â rheoli data a chynnal ymchwil
berthnasol.
Gobeithion a chyfleoedd ar gyfer y
dyfodol
 Mae modd cael dyrchafiad yn rheolwr datblygu ariannu a rheolwr
prosiectau (mentrau cymunedol ac ariannu allanol) yn yr uned. 
Mae modd cael dyrchafiad yn rheolwr sustemau technoleg gwybodaeth a
gweinyddu cronfeydd data yn ogystal â symud i feysydd eraill sy'n
ymwneud â rheoli data ac arian.
Rhagor o wybodaeth a gwasanaethau
 Sefydliad Breiniol Archwilwyr Allanol: www.iia.org.uk
 e-skills UK www.e-skills.com
 Cymdeithas Rheoli Technoleg Gwybodaeth: www.socitm.gov.uk
 Sefydliad Breiniol Technoleg Gwybodaeth: www.bcs.org.uk
 Sefydliad Rheoli Sustemau Gwybodaeth: www.imis.org.uk
Gallai fod rhagor o wybodaeth ar wefan Gyrfaoedd Cymru
(www.careerswales.com/), yn llyfrgell eich bro neu
swyddfa/llyfrgell gyrfaoedd eich ysgol.
       
      
          Related Links