Cyflwyniad
 Mae rheolwyr gweinyddu'n helpu i roi gwasanaethau cynorthwyol
hyblyg ac ymatebol gan ofalu bod sustemau ar gyfer amrywiaeth
helaeth o wasanaethau mewn meysydd megis gofal cymdeithasol, tai,
cynllunio a chyllid.  Gall dyletswyddau gynnwys rheoli
cyllidebau, rheoli rhestrau gweithio cymhleth, rheoli gwasanaethau
i glientiaid, cadw cofnodion, casglu/dadansoddi data, paratoi
ystadegau a rhoi adroddiadau am waith.
Amgylchiadau'r gwaith
 Mewn swyddfa y byddwch chi'n gweithio fel arfer, er y bydd modd
gweithio ymhlith amryw broffesiynolion megis gweithwyr
cymdeithasol, hefyd.  37 awr yw'r wythnos safonol i weithwyr
amser llawn.
Gweithgareddau beunyddiol
 Bydd y dyletswyddau'n amrywio yn ôl y gwasanaeth.  Dyma rai
nodweddiadol:
- Trefnu a goruchwylio sustemau gweinyddu gwasanaethau.
 
- Helpu i gynllunio, datblygu a monitro gwasanaethau.
 
- Rheoli staff cynorthwyol gan gynnwys cydlynu a dirprwyo
gweithgareddau.
 
- Cynllunio, datblygu, llunio, trefnu a monitro sustemau,
gweithdrefnau a pholisïau i wella gwasanaethau'n barhaus.
 
- Ysgwyddo cyfrifoldebau rheolwr staff lle bo'n briodol.
 
- Ymgynghori â'r rhai sy'n defnyddio gwasanaethau i ddeall eu
hanghenion a'u hoffterau, gan eu cymryd i ystyriaeth wrth gynllunio
ar gyfer gwasanaethau.
 
- Gofalu bod cofnodion yn cael eu cadw.
 
- Datblygu a chynnal sustemau ar gyfer cofnodion a
gwybodaeth.
 
- Dadansoddi a gwerthuso data'n fanwl a pharatoi gwybodaeth ac
adroddiadau manwl yn ôl yr angen.
 
- Pennu blaenoriaethau ac amcanion staff clercaidd a
gweinyddol.
 
- Trin a thrafod gohebiaeth gymhleth.
 
- Rhoi cymorth ar gyfer cyfarfodydd gan gynnwys eu mynychu, eu
hwyluso a'u cofnodi.
 
- Rheoli gweithdrefnau gweinyddu cymhleth.
 
- Llenwi ffurflenni cymhleth a'u cyflwyno nhw i gyrff allanol
megis Llywodraeth Cymru.
 
- Rheoli trefniadau gweinyddu sustemau technoleg gwybodaeth.
 
- Dewis a rheoli adnoddau gan gynnwys rheoli cyllideb ac
archwilio adnoddau'n fynych.
 
- Rheoli cytundebau ar gyfer gwasanaethau a chytundebau lefel
gwasanaeth.
 
- Rheoli cyfleusterau gan gynnwys adeiladau.
 
- Cynllunio, monitro a gwerthuso cyllidebau.
 
Medrau a diddordebau
- Medrau rheoli prosiectau.
 
- Medrau da ym maes technoleg gwybodaeth a chyfathrebu.
 
- Medrau rhagorol ynglŷn â thrin a thrafod pobl.
 
- Gallu cyfathrebu'n effeithiol ar lafar ac ar bapur fel ei
gilydd.
 
- Cynllunio, amseru a threfnu gweithgareddau i gyflawni
amcanion.
 
- Meithrin perthynas dda â chydweithwyr a staff eraill.
 
- Dadansoddi data a nodi materion allweddol.
 
- Datrys problemau a sefyllfaoedd syml a chymhleth.
 
- Gallu rheoli cyllidebau mawr a chymhleth.
 
- Gallu arwain a rheoli staff i roi gwasanaethau o safon.
 
Meini prawf derbyn
 Gallai fod angen cymwysterau megis Cymhwyster Galwedigaethol
Cenedlaethol (lefel 3) ym maes busnes a gweinyddu, Uwch
Dystysgrif/Ddiploma Genedlaethol ym maes busnes, tystysgrifau
proffesiynol megis CIMA, AAT a CPP, Cymhwyster Galwedigaethol
Cenedlaethol (lefel 3) ym maes caffael a Thrwydded Defnyddio
Cyfrifiaduron Ewrop.
Gobeithion a chyfleoedd yn y dyfodol
 Mae amrywiaeth helaeth o gyfleoedd yn adrannau'r awdurdodau
lleol.  Ar ôl cael rhagor o gymwysterau a phrofiad ynglŷn â
gweinyddu, arwain/rheoli timau a rheoli sustemau cymhleth, mae modd
cael dyrchafiad ar y trywydd at swyddi uwch megis pennaeth
gwasanaethau gweinyddu.
Rhagor o wybodaeth a gwasanaethau
 Sefydliad Breiniol Personél a Datblygu: www.cipd.co.uk
 Sefydliad Breiniol Rheoli: www.managers.org.uk
 Sefydliad Rheoli Gweinyddol: www.instam.org
 Skills CFA: www.cfa.uk.com
Cewch chi ragor o wybodaeth am y maes hwn trwy gysylltu â
Gyrfaoedd Cymru (www.careerswales.com/), y
llyfrgell gyhoeddus, swyddfa'r gyrfaoedd neu lyfrgell gyrfaoedd
eich ysgol.