Cyflwyniad
 Un o eiriau pwysicaf llywodraeth leol dros y ddau ddegawd diwethaf
yw 'gwella', ac mae'n rhan annatod o iaith y cynghorau lleol
bellach.  Yn ôl Rhaglen Gwella Cymru, rhaid i bob awdurdod
lleol anelu at y gwerth gorau gan geisio gwella'n barhaus fel y
gall gyflawni ei swyddogaethau'n effeithlon.
Mae gan bob awdurdod lleol swyddogion sy'n gyfrifol am hyrwyddo
materion gwella ac annog pawb i ddefnyddio'r arferion gorau. 
Mae rôl allweddol i reolwr swyddfa'r prif weithredwr ynglŷn â
hwyluso'r broses honno ar lefel uwch.  Yn wir, mae sawl
rheolwr wedi bod yn swyddog materion gwella cyn symud i rôl fwy
strategol yn sgîl dyrchafiad.  Wrth drefnu a rheoli'r
ymrwymiad corfforaethol i wella'n barhaus, bydd rheolwyr o'r fath
yn helpu'r gyfadran i gyflawni ei chyfrifoldebau statudol.  Fe
fydd rheolwr swyddfa'r prif weithredwr wrth wraidd mentrau gwella
ym mhob cyngor lleol.
Amgylchiadau'r gwaith
 Ym mhencadlys y cyngor lleol y byddwch chi'n gweithio, gan gydlynu
gwaith pob un o'r cyfadrannau.  Mewn rhai cynghorau lleol, mae
rheolwr swyddfa'r prif weithredwr yn perthyn i gyfadran yr
adnoddau.
Bydd angen teithio i adrannau eraill yn ardal y cyngor ac i
seminarau/rhwydweithiau rhanbarthol, hefyd.  35 awr yw'r
wythnos safonol er y gallai fod rhaid gweithio llawer mwy pan fo
cyfarfodydd gyda'r nos a gorchwylion dros y Sul i gadw at
amserlenni.
Gweithgareddau beunyddiol
 Fe fydd rheolwr swyddfa'r prif weithredwr yn treulio'r rhan fwyaf
o'i amser mewn cyfarfodydd gan gydweithio â strategwyr a grwpiau
craidd i lunio polisïau'r cyngor a'u rhoi nhw ar waith yn ôl yr
egwyddorion a'r arferion gorau.  Wrth wneud hynny, rhaid
cysylltu â rheolwyr y gwasanaethau eraill - megis addysg a hamdden
- i gasglu peth gwybodaeth am sut maen nhw'n gweithredu a pha
drefniadau sydd wedi'u sefydlu i'w helpu i weithio yn ôl delfryd a
blaenoriaethau'r cyngor.  Yn ystod diwrnod arferol, gallai fod
angen cynnal ymchwil, hel data, llunio adroddiad, rhoi adborth ar
lafar neu ddadansoddi a gwerthuso gwybodaeth.  Bydd cynnyrch
hynny i gyd gerbron cyfarfod wedyn i'w drafod a'i ddefnyddio. 
Mae marchnata a chysylltiadau cyhoeddus yn rhan bwysig o'r swydd,
hefyd.  Mae rheolwr swyddfa'r prif weithredwr yn adnodd
hanfodol yn ymdrech yr awdurdod i wella a chynnal safon ei
wasanaethau.  I'r perwyl hwnnw, rhaid ymgymryd â sawl prosiect
penodol megis:
- cynllun cyflawni;
 
- fframwaith rheoli cyflawniad;
 
- mentrau strategol hybu ansawdd megis ymgeisio am nod
rhagoriaeth;
 
- cynllun cynhwysiant cymdeithasol a chydraddoldeb y
gyfadran;
 
- adolygu materion gwella;
 
- rheoli a chyfathrebu ynglŷn â marchnata'n strategol;
 
- trefniadau cyfathrebu mewnol.
 
Dyma swydd lle mae angen craffter gweithredol a gwleidyddol am
fod angen gweithio ar y cyd â sawl swyddog a chynghorydd ynglŷn â
holl waith y cyngor.
Medrau a diddordebau
 Dyma'r rhai hanfodol:
- craffu'n gyflym ar syniadau newydd;
 
- ysgrifennu'n greadigol ac yn rhesymegol yn ôl yr wybodaeth sydd
wrth law;
 
- meddwl yn ochrol i adnabod pethau nad ydyn nhw amlwg, o
bosibl;
 
- dyfeisio ffyrdd o fodloni meini prawf delfryd craidd y
cyngor;
 
- cyd-dynnu â phobl o bob lliw a llun;
 
- gweithredu'n effeithiol mewn pwyllgorau;
 
- medrau negodi da;
 
- medrau da ynglŷn â marchnata a chysylltiadau cyhoeddus.
 
Meini prawf derbyn
 Gradd prifysgol, cymhwyster ar ôl graddio, profiad sylweddol a
hanes o lwyddiant - mae'r rhain i gyd yn hanfodol.
Gobeithion a chyfleoedd yn y dyfodol
 Dyma faes sydd ar gynnydd ac mae amrywiaeth helaeth o
gyfleoedd.  Mae'r galw yn drech na'r cyflenwad ar hyn o bryd
am fod cynghorau lleol yn fwy atebol i'r cyhoedd bellach. 
Gallech chi gael eich dyrchafu'n bennaeth polisïau lle byddai
rhagor fyth o gyfrifoldebau strategol.  Prif weithredwr neu
gyfarwyddwr rheoli yw'r swydd uchaf.  Mae cyfleoedd y tu allan
i faes llywodraeth leol gyda phartneriaid y cynghorau lleol,
sefydliadau eraill y sector cyhoeddus a chwmnïau masnachol.
Rhagor o wybodaeth a gwasanaethau
 Sefydliad Breiniol Rheoli Gweinyddol: www.instam.org
 Sefydliad Breiniol Marchnata: www.cim.co.uk
 Sefydliad Breiniol Cysylltiadau Cyhoeddus: www.cipr.co.uk
 Sefydliad Breiniol Rheoli: www.managers.org.uk
 Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru: www.wlga.gov.uk/cymraeg
Gallai fod rhagor o wybodaeth ar wefan Gyrfaoedd Cymru
(www.careerswales.com/), yn llyfrgell eich bro neu yn
swyddfa/llyfrgell gyrfaoedd eich ysgol.