Diogelu'ch cymuned trwy wasanaethau amgylcheddol y
cynghorau lleol
Cyflwyniad
Mae swyddog coed cyngor lleol yn gyfrifol am drin a thrafod y coed
mae'r cyngor yn berchen arnyn nhw - yn y coetir cyhoeddus, y
parciau gwledig a'r mannau hamdden trefol ac wrth ymyl y
ffyrdd. Maen nhw'n gweithio yn y rhan fwyaf o gynghorau
lleol, ac mae amryw enwau ar y swydd megis technegydd coedyddiaeth,
swyddog coetir a swyddog coedwigaeth.
Amgylchiadau'r gwaith
Swyddfeydd y cyngor yw canolfan swyddog coed er y bydd yn treulio
llawer o amser yn yr awyr agored gan ymweld â safleoedd ac
archwilio coed. Wrth wneud hynny, rhaid gwisgo dillad
diogelu, esgidiau addas a het galed. 37 awr yw'r wythnos
safonol er y gallai fod angen oriau ychwanegol i awdurdodi gwaith
mewn argyfwng (yn ystod stormydd, er enghraifft).
Gweithgareddau beunyddiol
Mae swyddog coed mewn cyngor lleol yn gyfrifol am gynnal a chadw
coed y cyngor mewn modd diogel ac effeithlon. Rhaid
cyflawni'r cyfrifoldebau statudol o ran coed.
Dyma ddyletswyddau y gallai swyddog coed eu cyflawni:
- pob agwedd ar gynnal a chadw coed gan gynnwys dringo coed a
defnyddio llif gadwyn ac offer eraill i dorri canghennau;
- cynnal arolygon i gofnodi nifer a chyflwr y coed a chynllunio
ar gyfer unrhyw orchmynion cadw coed;
- cofnodi'r data yn sustem rheoli coed y cyngor;
- asesu a phrosesu ceisiadau o ran coed, megis gofalu nad oes
gorchymyn cadw coeden mae rhywun am ei thorri;
- ymateb i ymholiadau'r cyhoedd am goed peryglus, torri coed heb
ganiatâd, coed sy'n cwtogi ar olau neu goed sydd wedi cwympo;
- archwilio safleoedd lle mae coed wedi'u plannu;
- llunio adroddiadau am faterion coed megis iechyd coed, plannu
coed a rhaglenni amnewid coed;
- cadw golwg ar newidiadau yn y gyfraith ynglŷn â choed;
- casglu a rhoi tystiolaeth gerbron llys ynglŷn â thrin a thrafod
coed heb ganiatâd;
- cynghori adrannau eraill y cyngor, mewn meysydd megis cynllunio
a rheoli adeiladu, ynglŷn ag effaith prosiectau arfaethedig ar goed
yr ardal;
- llunio adroddiadau ar gyfer peirianwyr, cyfreithwyr a chwmnïau
yswirio (ynglŷn â cheisiadau am iawndal pe bai gwreiddiau coed yn
tanseilio adeilad, er enghraifft).
Bydd rhai cynghorau yn penodi cwmni preifat i gyflawni'r gwaith
ar eu rhan. Os felly, efallai y bydd swyddog coed yn ymwneud
â phroses gaffael i bennu contractwr addas.
Medrau a diddordebau
Dyma'r rhai hanfodol:
- gwybodaeth dda am goed;
- diddordeb yn yr amgylchedd a chadwraeth;
- gallu ymarferol (wrth ddefnyddio llif gadwyn yn ddiogel, er
enghraifft);
- gallu cofnodi data yn gywir;
- medrau da ynglŷn â dadansoddi data a llunio adroddiadau;
- gallu trin a thrafod y cyhoedd mewn modd moesgar ac
effeithlon.
Meini prawf derbyn
Bydd y rhan fwyaf o gynghorau lleol yn disgwyl cymhwyster
cydnabyddedig megis uwch ddiploma genedlaethol, uwch dystysgrif
genedlaethol neu radd ym maes coedyddiaeth, rheoli
coedwigoedd/coetir neu bwnc perthnasol arall. Gallai fod
angen profiad o weithio gyda choed, hefyd. Gallai fod modd
dechrau yn gynorthwywr neu'n dechnegydd ac astudio yn y gwaith ar
gyfer cymhwyster galwedigaethol cenedlaethol (lefelau 2 a 3),
ennill tystysgrif technegydd ym maes coedyddiaeth (a gydnabyddir
gan Gymdeithas y Goedyddiaeth) neu fwrw prentisiaeth ym maes coed a
phren. At hynny, mae Cymdeithas y Goedyddiaeth yn cynnig
hyfforddiant (yn arbennig ar gyfer swyddogion coed cynghorau lleol)
sy'n arwain at achredu proffesiynol.
Gobeithion a chyfleoedd yn y dyfodol
Dyma amryw gamau llwybr gyrfa fel arfer: cynorthwywr, technegydd,
swyddog coed, goruchwyliwr/rheolwr coedyddiaeth. Gallai fod
modd datblygu eich gyrfa yn rhai o wasanaethau eraill y cyngor
megis cyflwr y strydoedd, cynnal a chadw meysydd chwarae, parciau
neu gynllunio. Gallai fod cyfle i fod yn goedwigwr neu'n
warden ym maes rheoli cefn gwlad, hefyd.
Rhagor o wybodaeth a gwasanaethau
Cymdeithas Coedyddiaeth: www.trees.org.uk
Comisiwn Coedwigaeth: www.forestry.gov.uk
Lantra: www.lantra.co.uk
Cymdeithas Frenhinol Coedwigaeth: www.rfs.org.uk
Gallai fod rhagor o wybodaeth ar wefan Gyrfaoedd Cymru
(www.careerswales.com/), yn llyfrgell eich bro neu yn
swyddfa/llyfrgell gyrfaoedd eich ysgol.