Warden cŵn

Cyflwyniad
Mae Cynghorau'n cyflogi wardeiniaid i ddelio â chŵn strae neu gŵn peryglus.  Hefyd, mae ganddynt y pŵer dan Ddeddf Cŵn (Baeddu Tir) 1996 i ddynodi ardaloedd yn 'ardaloedd dim baeddu', lle mae'n rhaid i berchnogion lanhau ar ôl eu hanifeiliaid anwes.  Mae rhai cynghorau hefyd yn cyflogi swyddogion gorfodi i sicrhau bod pobl yn gwneud hyn.  Mewn cyngor bach, gellir cyfuno'r ddwy swydd.  Hefyd, mae gan Gynghorau gyfrifoldeb i archwilio a thrwyddedu safleoedd lle mae cŵn yn cael eu bridio neu eu gofalu amdanynt.  Os oes sefydliadau o'r fath yn yr ardal, bydd swyddogion gorfodi yn ymweld â hwy'n rheolaidd i wneud hynny.

Amgylchedd Gwaith
Mae wardeiniaid cŵn yn gweithio yn yr awyr agored boed law neu hindda. Gallant orfod gweithio mewn lleoliadau brwnt ac annymunol.  Mae ganddynt wisg arbennig ar gyfer y swydd, ac wrth drin cŵn peryglus byddant yn gwisgo dillad diogelwch, menig trwchus a mwgwd.

Gweithgareddau Dyddiol
Mae wardeiniaid cŵn yn cynnal patrolau rheolaidd ac yn ymateb i alwadau ffôn neu lythyrau gan drigolion lleol.  Os byddant yn dod o hyd i gi strae neu'n clywed am un, byddant yn mynd i'w gasglu mewn fan arbennig â gril i gadw'r ci yn ddiogel yn y cefn.  Os oes gan y ci dag enw, byddant yn ei ddychwelyd i'w berchennog ac yn esbonio na ddylid gadael i'r ci grwydro.  Yn ddiweddarach byddant yn anfon llythyr yn cynnwys argymhellion ar gadw ci.  Os na ellir dod o hyd i berchennog y ci, caiff ei gludo i ganolfan lles anifeiliaid neu gartref cŵn.

Maent hefyd yn casglu cŵn peryglus neu gŵn sydd wedi'u gadael, gan weithio'n aml â'r heddlu neu swyddogion yr RSPCA y mae angen cymorth arbenigol arnynt.  Gallai'r achosion hyn gynnwys cŵn y mae eu perchnogion wedi marw neu sydd wedi cael eu troi allan o'u cartrefi.  Gall y cŵn fod wedi cynhyrfu - ac ni fyddant yn deall bod y warden yn ceisio helpu!  Gallant ymosod yn ffyrnig, a bydd angen eu trin yn ofalus iawn.  Yn y gorffennol mae wardeiniaid wedi dod o hyd i ddaeargwn tarw (sy'n anghyfreithlon) mewn fflatiau gwag.  Gallai fod yn rhaid iddynt ddal y ci, gan ddefnyddio rhwyd neu declyn arbennig o'r enw 'cydiwr' - polyn metel cadarn â magl ar y pen.  Gallant wthio'r ci i mewn i'r fan ar hyd braich a rhyddhau'r magl cyn cau'r drws.

O bryd i'w gilydd bydd angen iddynt drefnu i gŵn gael eu lladd yn ddyngar.
Mae swyddogion gorfodi yn cynnal patrolau rheolaidd hefyd.  Pan fyddant yn gweld perchennog yn osgoi glanhau ar ôl ei gi, gallant roi rhybudd llafar neu gyflwyno dirwy.  Byddant fel arfer yn ceisio addysgu'r perchennog yn gyntaf gan ddefnyddio dirwyon ar ôl hynny os oes angen.  Maent hefyd yn ymweld ag ardaloedd penodol ar ôl cwynion cyson am faw cŵn.  Gallent wybod pwy yw'r perchennog, ond rhaid iddynt weld y drosedd yn digwydd eu hunain.  Maent hefyd yn ysgrifennu llythyrau at berchnogion cŵn ac yn cadw cofnodion o achosion.

Maent hefyd yn ymweld â chytiau cŵn, sefydliadau bridio a siopau anifeiliaid anwes unwaith y flwyddyn i archwilio amodau a'r ffordd y mae cŵn yn cael eu trin.  Os nad ydynt yn fodlon, gallant ohirio trwydded ac ni fydd y safle'n gallu masnachu nes iddo gyrraedd y safon ofynnol.  Gallant gynnal ymweliadau dilynol os cânt gwynion am sefydliad gan aelod o'r cyhoedd.  Mae rhai wardeiniaid cŵn yn llunio taflenni hyrwyddo ac yn siarad mewn ysgolion a chlybiau i annog pobl i edrych ar ôl cŵn yn gyfrifol.

Sgiliau a Galluoedd
Rhaid i wardeiniaid cŵn a swyddogion gorfodi feddu ar y canlynol:

  • hoffter at gŵn a'r gallu i'w trin; 
  • dealltwriaeth o ymddygiad cŵn;
  • sgiliau cyfathrebu gwych a sensitifrwydd - gan fod llawer o'r gwaith yn cynnwys addysgu perchnogion anifeiliaid (rhaid iddynt hefyd wybod pryd i fod yn llym);
  • y gallu i gydnabod cyflyrau cyffredin fel clafr y cŵn neu glefyd y cŵn a gwybod sut i drin cŵn sy'n dioddef o'r rhain;
  • ffitrwydd ac ystwythder corfforol.

Gofynion Mynediad
Nid oes cymwysterau penodol. Fodd bynnag, mae'n rhaid cael trwydded yrru.  Mae cynghorau'n recriwtio pobl sydd â phrofiad priodol o weithio gydag anifeiliaid.  Mae llawer wedi gweithio fel hyfforddwyr ufudd-dod cŵn neu swyddogion cŵn yn yr heddlu neu'r lluoedd arfog.  Mae rhai wedi hyfforddi cŵn ar gyfer rolau eraill - cŵn adar neu gŵn tywys er enghraifft.  Gallai pobl sydd â phrofiad o ymchwiliadau eraill neu waith gorfodi ym maes lles anifeiliaid gael eu derbyn.

Cyfleoedd yn y Dyfodol
Gallai cyngor bach gyflogi un warden cŵn/swyddog gorfodi.  Mewn cyngor mawr gallai fod dwy swydd wahanol.

Rhagor o Wybodaeth a Gwasanaethau
Wardeiniaid Anifeiliaid www.animalwardens.co.uk
Cymdeithas Genedlaethol y Wardeiniaid Cŵn www.ndwa.co.uk

Gallwch gael rhagor o wybodaeth am y maes gwaith hwn drwy Yrfa Cymru (www.gyrfacymru.com) neu yn eich llyfrgell leol, swyddfa gyrfaoedd neu lyfrgell gyrfaoedd eich ysgol.

Related Links