Bodloni'ch cymuned trwy reoli parciau byd llywodraeth
leol
Cyflwyniad
 Mae swyddogion parciau llywodraeth leol yn goruchwylio gwaith
cynnal, cadw, rheoli a datblygu parciau a mannau agored y cynghorau
lleol.  Eu cyfrifoldeb nhw yw gofalu bod parciau a mannau
agored yn diwallu anghenion cymunedau - yn ogystal â rhoi pob sylw
i ystyriaethau amgylcheddol.
Amgylchiadau'r gwaith
 Er bod swyddogion parciau llywodraeth leol yn gweithio mewn
swyddfa gan amlaf, maen nhw'n treulio llawer o amser yn ymweld â
pharciau a mannau agored.
Gweithgareddau beunyddiol
 Mae swyddogion parciau llywodraeth leol yn rheoli ac yn monitro
gwaith cynnal a chadw parciau a mannau agored.  Maen nhw'n
paratoi cynlluniau gwella cyfleusterau parciau ac yn annog pobl i
ddefnyddio mannau agored er hamdden, hefyd.  Dyma
enghreifftiau o'u dyletswyddau:
- monitro rhaglen cynnal a chadw parciau'r cyngor - gan gynnwys,
o bosibl, rheoli staff y cyngor neu oruchwylio contractwyr i'r
perwyl hwnnw;
 
- gofalu bod gwaith cynnal a chadw parciau'n cael ei gyflawni yn
ôl y safonau uchaf yn ôl yr amserlenni a'r cyllidebau
perthnasol;
 
- cydweithio â staff cynnal a chadw'r parciau a phenseiri
tirlunio i adfywio a datblygu nodweddion garddwrol (megis gwelyau
planhigion) a chyfleusterau (megis mannau chwarae);
 
- ymgynghori â phobl sy'n defnyddio parciau a'r rhai sy'n byw o'u
hamgylch ynglŷn â defnyddio parciau a mannau agored ar hyn o bryd
ac yn y dyfodol;
 
- paratoi cynlluniau strategol ar gyfer gwella parciau a mannau
agored yn ôl canlyniadau'r ymgynghori â'r cyhoedd;
 
- annog pobl i ddefnyddio parciau a mannau agored a llunio
gweithgareddau i'r perwyl hwnnw;
 
- gweithio ar y cyd â staff diogelwch cymunedol y cynghorau a'r
heddlu i wella diogelwch y cyhoedd mewn parciau a mannau
agored;
 
- ymateb i ymholiadau a chwynion y cyhoedd, ac ysgrifennu
adroddiadau;
 
- rheoli trefniadau iechyd a diogelwch gweithwyr ac
amwynderau.
 
Medrau a diddordebau
 Dyma'r rhai hanfodol:
- medrau cyfathrebu ardderchog, medrau da ynglŷn â thrin a
thrafod pobl;
 
- gwybod am gadwraeth a garddwriaeth;
 
- medrau da ynglŷn â rheoli cytundebau, cyllidebau a
phrosiectau;
 
- medrau dadansoddi da;
 
- gallu datrys problemau mewn modd ymarferol ac arloesol;
 
- gallu llunio adroddiadau.
 
Meini prawf derbyn
 Fel arfer, y disgwyl yw y bydd gan swyddogion parciau llywodraeth
leol brofiad a chymwysterau perthnasol megis Diploma Cenedlaethol
Uwch ym maes garddwriaeth, garddwriaeth amwynderau, rheoli cefn
gwlad/tirweddau neu faes cysylltiedig arall.  Dylai fod
cymhwyster IOSH gyda nhw, hefyd.  Mae adrannau parciau rhai
cynghorau yn gyfrifol am offer cyfleusterau chwarae yn unol â BS EN
1176/1177, ac mae angen Diploma Safonau Diogelwch Ewrop ar eu staff
nhw.  Mae angen cymhwyster ym maes rheoli/goruchwylio,
hefyd.  Gallech chi ddechrau'ch gyrfa'n arddwr neu'n aelod o
staff cynnal a chadw'r parciau, gan gyrraedd y brig bob yn
dipyn.  Efallai y bydd modd astudio ar gyfer Cymhwyster
Galwedigaethol Cenedlaethol ym maes garddwriaeth amwynderau yn y
gwaith neu fwrw prentisiaeth.  Mae'r Gymdeithas Arddwriaethol
Frenhinol yn cynnig nifer o gyrsiau hyfforddi.  Bydd angen
trwydded yrru gyflawn, yn ôl pob tebyg, hefyd.
Gobeithion a chyfleoedd yn y dyfodol
 Gallai fod cyfleoedd i gael eich dyrchafu'n rheolwr yn adran
parciau a mannau agored y cyngor.  Efallai y bydd modd mynd yn
rheolwr mewn maes arall megis rheoli cefn gwlad, chwaraeon a
hamdden neu gyflwr y strydoedd, hefyd.
Rhagor o wybodaeth a gwasanaethau
 Sefydliad Breiniol Chwaraeon a Gweithgarwch Corfforol: www.cimspa.co.uk
 Lantra: www.lantra.co.uk
 Y Gymdeithas Arddwriaethol Frenhinol: www.rhs.org.uk
Mae rhagor o wybodaeth gan Gyrfaoedd Cymru (www.careerswales.com/), y
llyfrgell gyhoeddus, swyddfa gyrfaoedd eich bro neu lyfrgell
gyrfaoedd eich ysgol.