Plymwr

Cyflwyniad
Mae plymwyr yn gosod sustemau ac offer dŵr, draenio, carth, gwresogi a nwy mewn tai ac adeiladau cyhoeddus.  Gallen nhw weithio mewn amryw adrannau yn y cyngor megis adran cynnal a chadw adeiladau, gwasanaethau eiddo, tai neu'r amgylchedd.  Fel arfer, byddan nhw'n gweithio mewn timau o grefftwyr o dan adain goruchwyliwr gwasanaethau adeiladu.

Amgylchiadau'r gwaith
Bydd y rhan fwyaf o'r gwaith yn digwydd o dan do - yng nghartrefi pobl, yn aml.  Fe allai fod angen gweithio yn yr awyr agored i gyflawni gorchwylion megis atgyweirio sustemau glaw a draenio, fodd bynnag.  Gallai fod angen gweithio ar fannau uchel, hefyd - naill ai ar ysgol neu sgaffaldiau - yn ogystal â gweithio mewn mannau cul megis toeau ac ystafelloedd ymolchi.  37 awr yw'r wythnos safonol, a rhaid bod yn fodlon gweithio oriau ychwanegol ac ymateb i argyfyngau y tu allan i oriau gwaith.

Gweithgareddau beunyddiol
Mae plymwyr yn cyflawni amryw orchwylion yn ôl natur y gwaith neu'r adran maen nhw'n perthyn iddi.  Dyma rai nodweddiadol:

  • gosod pibellau a sustemau draenio yn ôl cynlluniau;
  • gosod pibellau, toiledau, rheiddiaduron, tanciau dŵr oer, cyfarpar cegin ac ystafell ymolchi, sustemau gwresogi canolog, unedau cael gwared ar wastraff ac ati;
  • chwilio am achos problemau a dadansoddi gwallau;
  • pennu'r deunyddiau a'r dulliau mwyaf priodol ym mhob sefyllfa;
  • atgyweirio neu amnewid pibellau a falfiau sy'n colli dŵr, ac agor pibellau a draeniau sy'n orlawn;
  • defnyddio amryw arfau llaw a thrydan i dorri, plygu a chysylltu (naill ai trwy eu weldio neu eu sodro) pibellau metel a phlastig;
  • gwirio a phrofi'r gwaith i gyd i ofalu ei fod wedi'i wneud yn ôl y rheoliadau;
  • atgyweirio sustemau yn ôl yr angen, gan ymateb i argyfyngau weithiau;
  • gofalu eich bod yn ymateb i alwadau yn brydlon;
  • cyflawni gorchwylion gwaith papur a gofalu bod dalenni gwaith a dogfennau eraill yn cael eu cyflwyno'n gywir ac yn brydlon.

Medrau a diddordebau
Mae angen y canlynol:

  • natur ymarferol a dwylo medrus;
  • gallu gweithio yn ôl cynlluniau;
  • bod yn gryf ac yn heini;
  • gonestrwydd a chwrteisi, yn arbennig wrth weithio yng nghartrefi pobl;
  • hyblygrwydd a'r gallu i weithio mewn tîm ac o'ch pen a'ch pastwn eich hun;
  • trwydded yrru;
  • ymwybodol o reoliadau iechyd a diogelwch;
  • gallu blaenoriaethu gorchwylion a gweithio yn ôl amserlenni.

Meini prawf derbyn
Yn aml, bydd angen cymwysterau megis Tystysgrif Sefydliad y Ddinas a'r Urddau neu Gymhwyster Galwedigaethol Cenedlaethol.  Gallai fod angen peth profiad o weithio mewn gwasanaethau adeiladu, hefyd.  At hynny, efallai y bydd angen tystysgrifau TGAU neu gymhwyster cyfwerth mewn pynciau megis mathemateg a thechnoleg.  Mae rhai cynghorau'n mynnu achrediad gan Gyngor y Gosodwyr Nwy Cofrestredig (CORGI).  Bydd angen trwydded yrru, yn ôl pob tebyg.  Mae rhai cynghorau'n cyflogi gweithwyr dan hyfforddiant neu brentisiaid.  Efallai y bydd cyfle i astudio ar gyfer Cymhwyster Galwedigaethol Cenedlaethol, hefyd.

Gobeithion a chyfleoedd yn y dyfodol
Gall plymwyr profiadol fynd yn oruchwylwyr neu'n rheolwyr yn y gwasanaethau adeiladu.  Ar ôl hyfforddiant, gallai fod modd symud i faes peirianneg, hefyd.

Rhagor o wybodaeth a gwasanaethau
Cyngor Cyflogwyr Plymwyr Prydain: www.bpec.org.uk
Sefydliad Breiniol y Peirianwyr Plymwaith a Gwresogi: www.ciphe.org.uk
Medrau Adeiladu: www.citb.co.uk
Cofrestr Diogelwch Nwy: www.gassaferegister.co.uk
SummitSkills www.summitskills.org.uk

Mae Gyrfa Cymru wedi cynhyrchu erthygl Sbotolau ar yrfaoedd ym maes adeiladu: https://www.careerswales.com/cy/golwg-ar-adeiladu/

Cewch chi ragor o wybodaeth am y maes hwn trwy gysylltu â Gyrfaoedd Cymru (www.careerswales.com/), y llyfrgell gyhoeddus, swyddfa'r gyrfaoedd neu lyfrgell gyrfaoedd eich ysgol.

Related Links