Adeiladu'ch cymuned
Cyflwyniad
 Mae seiri coed cynghorau lleol yn ymwneud â chodi, cynnal a chadw
adeiladau megis tai, ysgolion a neuaddau.  Rôl saer coed yw
paratoi a gosod pob darn pren o adeilad newydd megis trawstiau'r
llawr, y to a fframiau'r drysau yn ogystal â chynnal a chadw
adeiladau cyfredol.
Amgylchiadau'r gwaith
 Mae seiri coed yn gweithio y tu mewn a'r tu allan i adeiladau ac,
fel arfer mae rhaid iddyn nhw wisgo hetiau caled, esgidiau blaenau
dur a dillad diogelu ychwanegol megis sbectol, menig, masgiau a
phlygiau clustiau.  Mae'r gwaith yn gorfforol iawn ei natur a
gallai fod angen codi pethau trwm.  Yn aml, rhaid gweithio
mewn mannau uchel ar ysgol neu sgaffaldwaith.  37 awr fyddai'r
wythnos safonol fel arfer, er bod tuedd i ddechrau ben bore
(7.30-8.00) yn ôl faint o oriau golau dydd sydd ar gael. 
Efallai y bydd gofyn ichi fod ar gael pe bai argyfwng ar ôl oriau
gwaith, hefyd.
Gweithgareddau beunyddiol
 Mae seiri coed yn gweithio yn ôl cynlluniau penseiri a
pheirianwyr.  Byddan nhw'n pennu trefn y gwaith a faint o bob
deunydd y bydd ei angen arnyn nhw.  Byddan nhw'n mesur y coed
ac yn nodi ble mae angen ei dorri neu ei gysylltu.  Yna,
byddan nhw'n defnyddio arfau megis llif, cŷn a phlaen i dorri a
ffurfio'r coed.  Fe fydd seiri coed yn defnyddio amryw
ddulliau i gysylltu darnau â'i gilydd.  Efallai y byddan nhw'n
defnyddio morthwyl neu ordd bren i daro darnau at ei gilydd cyn eu
gosod â hoelion, sgriwiau neu lud.  Bydd rhai darnau'n
cyrraedd o'r ffatri yn barod i'w gosod.
Yn ystod camau cynnar adeiladu, bydd seiri coed yn gosod yr
adeiladwaith sylfaenol megis y to, trawstiau'r llawr, paredau rhwng
ystafelloedd a'r grisiau.  Wedyn, byddan nhw'n ymwneud â
gwaith ceinach megis gwneud a gosod fframiau drysau a ffenestri,
drysau, silffoedd ffenestri, bordiau waliau, rheiliau lluniau,
cypyrddau, silffoedd ac ati.  I orffen yr adeilad, rhaid gosod
pethau megis dolenni a chloeau.  Yn ogystal â helpu i godi
adeiladau newydd, bydd seiri coed yn ymwneud ag addasu ac adnewyddu
rhai cyfredol, hefyd.
Medrau a diddordebau
 Dyma'r rhai hanfodol:
- holliach a heini, a gallu cydlynu'r dwylo a'r llygaid;
 
- dwylo medrus;
 
- medrau sylfaenol mathemateg megis mesur, a thrin a thrafod
symiau;
 
- ymwybodol o ddiogelwch;
 
- cwrtais wrth weithio yng nghartrefi a gweithleoedd pobl.
 
Meini prawf derbyn
 Er nad oes meini prawf penodol, gallai fod angen TGAU mewn pynciau
megis iaith, mathemateg a thechnoleg neu gymwysterau galwedigaethol
cyfwerth.  Efallai y bydd rhai cynghorau lleol yn mynnu
profiad o weithio ym maes adeiladu.  Bydd cynlluniau hyfforddi
seiri coed yn gyfuniad o feithrin profiad yn y gwaith ac astudio
mewn coleg, yn aml.  Gallai fod modd astudio ar gyfer
cymwysterau galwedigaethol cenedlaethol ym maes saer coed a
chelfi.  Mae prentisiaethau a phrentisiaethau uwch ym maes
adeiladu ar gael, hefyd.
Gobeithion a chyfleoedd ar gyfer y
dyfodol
 Ar ôl profiad a rhagor o hyfforddiant, gallai fod modd i saer coed
symud ymlaen i rôl oruchwyliol neu swydd rheolwr ym maes
adeiladu.  Gallai fod yn bosibl symud i rolau perthynol eraill
megis rheoli adeiladu a pheirianneg cynnal a chadw adeiladau,
hefyd.
Rhagor o wybodaeth a gwasanaethau
 Gwybodaeth am brentisiaethau: www.apprenticeships.org.uk
 Cymdeithas y Meistri ar eu Crefft: http://joiners.amtuk.com/
 Gwefan gyrfaoedd Bwrdd Hyfforddi Diwydiant yr Adeiladu:
www.bconstructive.co.uk
 Ffederasiwn Gwaith Coed Prydain: www.bwf.org.uk
 Cyngor Diwydiant Adeiladu: www.cic.org.uk
 Bwrdd Hyfforddi Diwydiant Adeiladu: www.citb.co.uk
Mae Gyrfa Cymru wedi cynhyrchu erthygl Sbotolau ar yrfaoedd ym
maes adeiladu: https://www.careerswales.com/cy/golwg-ar-adeiladu/
Efallai bod rhagor am hyn ar wefan Gyrfaoedd Cymru
(www.careerswales.com/), yn llyfrgell eich bro neu yn
swyddfa/llyfrgell gyrfaoedd eich ysgol.