Cyflwyniad
 Dyma swydd graidd sydd ym mhob math o awdurdodau lleol.  Mae
angen ymchwil ym mhob un o gyfadrannau'r gwasanaethau lleol. 
Mae'r enghraifft hon yn disgrifio gwaith swyddog ymchwil sy'n
ymwneud â sustem wybodaeth ddaearyddol y gwasanaethau tai a
chymdeithasol, ac mae swyddi cyffelyb yn adrannau eraill pob cyngor
lleol.  Mae swyddog ymchwil yn rhan allweddol o staff datblygu
gwasanaethau tai a phreswyl.  Ei rôl yw cynnal ymchwil a
chynnig gwybodaeth i helpu'r adran i gyflawni ei gorchwyl er bod
rôl ehangach ganddo, hefyd.
Amgylchiadau'r gwaith
 Byddwch chi'n treulio'r rhan fwyaf o'ch amser mewn swyddfa, ond
nid wrth eich desg, o reidrwydd.  Ar adegau, bydd angen cynnal
ymchwil megis arolygon yn ogystal â rhoi cyflwyniadau gerbron
cynulleidfa.  Y prif orchwylion yw holi pobl dros y ffôn a
chwilio'r amryw ffynonellau gwybodaeth megis llyfrgelloedd,
archifau, gwefannau, holiaduron a chanlyniadau arsylwi
personol.  37 awr yw'r wythnos safonol, a bydd rhywfaint o
oriau ychwanegol.  Mae modd bwrw cyfnod yn y swydd neu ei
rhannu, hefyd.
Gweithgareddau beunyddiol
 Yn ogystal â chynnal ymchwil, byddwch chi'n ymwneud â llunio a
defnyddio sustem yr wybodaeth ddaearyddol.  Dyma ddyletswyddau
a chyfrifoldebau nodweddiadol:
- cynnal ymchwil ac arolygon gwyddonol eang ynglŷn â strategaeth
materion tai'r cyngor lleol;
 
- llunio a defnyddio sustem yr wybodaeth ddaearyddol ar gyfer
dadansoddi a chyfleu anghenion sy'n berthnasol i bolisïau tai;
 
- nodi, asesu ac archwilio data sy'n berthnasol i'r nodau
uchod;
 
- cynghori pobl ynglŷn â pha mor ddibynadwy yw data
ystadegol;
 
- cynghori pobl am ddewis meddalwedd sy'n gweddu i'r
cyfrifoldebau uchod;
 
- cynnig gwasanaeth gwybodaeth i swyddogion adrannau ynglŷn ag
arolygon perthnasol o dai, ystadegau ac ati ar gyfer eu ceisiadau -
a rhoi adroddiadau iddyn nhw wedyn;
 
- helpu i hyfforddi gweithwyr eraill ynglŷn ag ymchwil
gyffredinol a sustem yr wybodaeth ddaearyddol;
 
- cysylltu ag adrannau eraill y cyngor ac asiantaethau allanol
(cymdeithasau tai ac ati) i ledaenu gwybodaeth ac osgoi ei
dyblygu;
 
- cyflwyno canlyniadau dadansoddi mewn modd eglur a chryno - ar
lafar, ar bapur a thrwy luniau;
 
- helpu i drosglwyddo data o asiantaethau allanol ac anfon data
iddyn nhw;
 
- paratoi adroddiadau ar gyfer uwch reolwyr a phwyllgorau priodol
y cyngor.
   
Medrau a diddordebau
 Dyma'r rhai hanfodol o ran swyddog ymchwil sustem wybodaeth
ddaearyddol adran y gwasanaethau cymdeithasol a thai:
- dros ddwy flynedd o brofiad ynglŷn ag ymchwil i faterion tai a
chynllunio;
 
- o leiaf dwy flynedd o brofiad ynglŷn â defnyddio un neu ragor
o'r sustemau gwybodaeth ddaearyddol;
 
- gwybod y canlynol yn drylwyr: (a) dulliau ymchwil y sector
cyhoeddus, yn arbennig ym meysydd tai a chynllunio; (b) ffynonellau
gwybodaeth am y gymdeithas a'r boblogaeth; (c) Microsoft
Windows;
 
- gallu rheoli gwybodaeth, yn arbennig dadansoddi data ystadegol
(megis y Cyfrifiad Gwladol) yn ofodol;
 
- gallu dehongli gwybodaeth ystadegol;
 
- gallu hyfforddi gweithwyr nad ydyn nhw'n arbenigwyr;
 
- gallu llunio cyflwyniadau eglur a chryno i'w rhoi gerbron
cynulleidfa;
 
- gallu gweithio heb lawer o oruchwyliaeth;
 
- medrau cyfathrebu da ar lafar ac ar bapur;
 
- gallu gweithio yn ôl polisïau corfforaethol a gofynion
cyfleoedd cyfartal.
 
Yn ddelfrydol, bydd gyda chi brofiad o lunio a defnyddio
arolygon a holiaduron a byddwch chi'n gyfarwydd â pholisïau tai a
gweithdrefnau ariannu materion tai adrannau gwladol a chynghorau
lleol.  At hynny, dylech chi allu gydweithio'n dda â
chynrychiolwyr amrywiaeth helaeth o sefydliadau.
Meini prawf derbyn
 Fe fydd angen gradd mewn pwnc perthnasol megis daearyddiaeth,
astudiaethau gwybodaeth ar gyfer cynllunio neu'r gwyddorau
cymdeithasol.  Byddai gradd meistr o gymorth mawr, hefyd.
Gobeithion a chyfleoedd yn y dyfodol
 Mae modd datblygu'ch gyrfa trwy anelu at swyddi uwch megis
cynlluniwr trefi neu reolwr hyfforddi yn y maes hwn.  Bydd
angen cynnal ymchwil wyddonol ym mhob gwasanaeth.
Rhagor o wybodaeth a gwasanaethau
 Sefydliad Breiniol Technoleg Gwybodaeth: www.bcs.org
 Sefydliad Rheoli Sustemau Gwybodaeth: www.imis.org.uk
 Cymdeithas yr Ymchwil i Farchnadoedd: www.mrs.org.uk
 Swyddfa'r Ystadegau Gwladol: www.statistics.gov.uk
Efallai bod rhagor am hyn ar wefan Gyrfaoedd Cymru
(www.careerswales.com/), yn llyfrgell eich bro neu yn
swyddfa/llyfrgell gyrfaoedd eich ysgol.