Swyddog technegol, tai

Cyflwyniad
Dywedodd Cervantes, awdur mawr o Sbaen - " Rwyt yn frenin ar dy aelwyd dy hun, yn gymaint ag unrhyw frenin ar ei orsedd." Mae lle i fyw yn un o anghenion sylfaenol bywyd ac mae'r rhan fwyaf ohonom yn hoffi gwneud ein cartrefi mor gyfforddus ag y bo modd.  Ond nid oes modd i lawer o bobl gyflawni hyn bob amser, fel arfer oherwydd nad ydyn nhw'n gallu ei fforddio.  Helpu'r bobl hyn yn y tai mwyaf dinod yw'r peth gorau efallai ynglŷn â'r gwaith mae'r swyddog technegol yn ei wneud;  gwella ansawdd tai nad ydyn nhw'n cyrraedd y safon.  Gallai hyn olygu weithiau defnyddio gweithdrefnau gorfodi o dan ddeddfwriaeth tai i gyflawni'r canlyniad iawn.     

Amgylchedd Gwaith
Y swyddfa yw canolfan y gwaith: cysylltu â chydweithwyr, cynllunio, ysgrifennu ac astudio adroddiadau.  Ond yn aml mae'n digwydd ar safle, mewn tai amlfeddiannaeth lle mae safonau diogelwch yn cael eu torri a lle mae gwaith adeiladu gyda baw, sŵn a thywydd gwael.  Mae'r swyddogion yn gwisgo dillad twt a hetiau diogelwch ond yn cludo gyda nhw, pa un a ydyn nhw'n sefyll neu ddringo grisiau, tâp digidol, profwr electronig a mesurydd lleithder.   Maen nhw'n gweithio ychydig mwy nag awr yr wythnos, ond nid yw hyn yn cynnwys oriau gwrthgymdeithasol na shifftiau.  

Gweithgareddau o Ddydd i Ddydd
Mae'r swyddog yn treulio llawer o'r amser yn ymweld â thai lle mae problemau - a allai olygu gorfod wynebu landlordiaid nad ydyn nhw'n cydweithredu - yn archwilio gwaith sy'n digwydd neu'n helpu landlordiaid gyda cheisiadau am grantiau er mwyn i bob cartref gyflawni'r safonau diogelwch.  Mae cyfle hefyd i weithio ar brosiectau arbennig ar y cyd â swyddogion iechyd yr amgylchedd; er enghraifft er mwyn sefydlu a gweithredu cynlluniau rheoli gydag amserlen a dyddiadau cwblhau ar gyfer gwella tai.  Mae'r swyddogion yn dod i gysylltiad bob dydd â gwasanaethau eraill y cyngor fel tai a'r gwasanaethau cymdeithasol ac amrywiaeth fawr o gwsmeriaid sy'n gyfle iddyn nhw weithio ar eu liwt eu hunain yn ogystal â gweithio mewn tîm.  Gall y gwaith roi llawer o foddhad ac mae'n cynnig amrywiaeth o heriau.  Yr hyn sy'n dda yw bod llawer o gleientiaid yn croesawu'r hyn y mae gweithwyr yr adran dai yn gallu ei wneud i wella cyflwr y tai.  Mae pobl mewn sefyllfa fregus yn dibynnu arnyn nhw i helpu i ddatrys eu problemau.  Maen nhw'n gallu dylanwadu'n sylweddol iawn ar ansawdd bywyd y gymuned.   

Sgiliau a Diddordebau
I wneud y gwaith yn dda byddai'n rhaid i chi fod:

  • yn dda efo ffigyrau; 
  • hyderus; 
  • medru tynnu ymlaen efo pobl o wahanol gefndiroedd ethnig a statws cymdeithasol ac addysgol.

Er mai'r elfen sy'n ymwneud â phobl yw'r mwyaf pwysig efallai, byddai'n gymorth hefyd pe byddai gennych:  

  • allu ymarferol; 
  • sylw i fanylion; 
  • natur ofalgar; 
  • y gallu i reoli prosiect; 
  • diddordeb mewn tai.

Gofynion Mynediad
Ar gyfer y swydd hon, neu hyfforddiant ar ei chyfer, byddai arnoch chi angen, yn nodweddiadol, HND mewn Adeiladu neu gymhwyster agos iawn ato.  
Mae profiad o waith adfer neu efo safonau tai, er enghraifft, yn ddefnyddiol ac weithiau'n hanfodol.  Nid yw datblygiad proffesiynol parhaus yn ofyn gorfodol. 

Rhagolygon a chyfleoedd ar gyfer y dyfodol
Mae hwn yn faes gwaith cyfyng ac weithiau mae'n rhaid i bobl symud i adran neu gyngor arall i gael dyrchafiad, neu ennill cymhwyster uwch, er bod cyfleoedd gwerth chweil i symud 'at yr ochr' sy'n cynnig mwy o gyfleoedd i ddod ymlaen.  

Mwy o Wybodaeth a Gwasanaethau
Y Sefydliad Diogelwch ac Iechyd Galwedigaethol www.iosh.co.uk
Y Sefydliad Adeiladu Siartredig www.ciob.org.uk
Sefydliad Siartredig Iechyd yr Amgylchedd www.cieh.org
Y Sefydliad Tai Siartredig www.cih.org
Sgiliau Asedau www.assetskills.org

Mae modd cael rhagor o wybodaeth am y maes hwn trwy wefan Gyrfaoedd Cymru (www.careerswales.com/), y llyfrgell leol, swyddfa gyrfaoedd eich bro neu lyfrgell eich ysgol.

Mae Gyrfa Cymru wedi cynhyrchu Sbotolau erthygl ar yrfaoedd mewn STEM (gwyddoniaeth, technoleg, peirianneg a mathemateg): https://www.careerswales.com/cy/golwg-ar-stem/

Related Links