Swyddog technegol, rheolaeth bwyd

Cyflwyniad
Mae bod yn heini ac iach yn golygu mwy na gwneud ymarferion aerobig a bwyta diet synhwyrol. Fel y gwyddom yn sgil yr amryw o straeon brawychus a glywyd yn ddiweddar am glefyd y gwartheg gwallgof (CJD), gwenwyn salmonela ac achosion tebyg, waeth pa mor ofalus y byddwn, ni allwn reoli popeth sydd yn mynd i mewn i'n hystumog. Bydd swyddogion technegol a chanddynt friff arbennig rheolaeth bwyd yn darparu cymorth arbenigol mewn tîm sydd yn uniongyrchol atebol i brif swyddog. Nod y tîm yw cynnal, gwella a hyrwyddo amodau iach a diogel drwy'r holl ardal leol ar gyfer byw, gweithio a masnachu. Mae hyn yn cynnwys helpu i addysgu'r gymuned am hylendid a diogelwch bwyd a chynnal arolygiadau i ganfod clefydau heintus. Bydd swyddogion yn helpu gydag arolygiadau, cwynion, samplu, casglu tystiolaeth a datganiadau gan dystion i'w defnyddio ar gyfer achosion gorfodi ffurfiol ac anffurfiol yn y llysoedd. Er hynny, mae eu rôl yn gadarnhaol a'r swydd yn talu ar ei chanfed. Bydd llawer o'u cleientiaid yn croesawu'r gefnogaeth a'r elfen o ddiogelwch y gall swyddogion eu cynnig. 

Amgylchedd Gwaith
Mae amgylcheddau gwaith swyddogion technegol yn cynnwys siopau, tafarndai, bwytai, gwestai a ffatrïoedd - yn wir, unrhyw fusnes bwyd. Mae hynny'n golygu bod angen teithio rhywfaint o fewn yr ardal leol. Weithiau gall yr amodau fod yn anodd a'r amgylchedd yn fudr ac yn llawn plâu. Ond unwaith eto, mae'n bosib nad mynd ar drywydd problem, ond yn hytrach helpu i'w hateb, y bydd swyddogion wrth ymweld. Efallai hefyd y bydd angen gweithio oriau anghymdeithasol, er na cheir unrhyw shifftiau ar yr amserlen.

Gweithgareddau Dyddiol
Bob dydd, bydd angen cynnal arolygiadau diogelwch bwyd, ymchwilio i gwynion a  chymryd samplau, gan roi cefnogaeth fanwl a thechnegol i'r gwasanaeth. Mae hyn yn golygu ymweld â busnesau sydd wedi'u cynnwys yn y categori lle ceir risg yn ôl y meini prawf a osodwyd yn y Cod Ymarfer Cyfraith Bwyd, ac archwilio, monitro a gwerthuso peryglon. Gwneir hyn er mwyn sicrhau bod perchnogion wedi nodi agweddau sy'n hollbwysig ar gyfer sicrhau diogelwch bwyd, a'r anghenion priodol o ran hyfforddiant i'r staff. Cymerir samplau er mwyn canfod a oes risg sylweddol bod bwyd wedi'i halogi gan e.coli, botwliaeth neu fath arall o facteria. Ar gyfer hyn, mae'n rhaid bod yn hyddysg mewn deddfwriaeth gyfredol.

O dro i dro, bydd swyddogion yn rhan o dîm prosiect sy'n gweithio i godi ymwybyddiaeth o faterion diogelwch bwyd drwy seminarau, "Wythnosau Diogelwch Bwyd', deunyddiau darllen a chyrsiau hyfforddi. Dyma agwedd ar waith tîm iechyd yr amgylchedd sydd yn rhoi boddhad mawr, lle bydd y tîm yn teimlo ei fod yn gwneud gwahaniaeth yn y gymuned yng nghyswllt maeth a diogelwch bwyd. Felly, mae'n rhaid gweithio at derfynau amser, er enghraifft cyrraedd y labordy gyda samplau mewn pryd. Gan amlaf, fodd bynnag, bydd swyddogion technegol yn gweithio'n unol ag amserlen sydd yn seiliedig ar anghenion y tîm a'r unigolyn. Rhan o'r gwaith hwn fydd cysylltu ag amrywiaeth o asiantaethau allanol fel Adran yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig (DEFRA) a'r Adran Iechyd, a chysylltu â'r cyhoedd a pherchnogion busnesau.

Sgiliau a Diddordebau
Er mwyn cyflawni'r swydd hon yn dda, byddai angen i chi:

  • allu trin cyfrifiadur; 
  • bod yn agored ac yn hyblyg; 
  • bod yn barod i weithredu mewn argyfwng; 
  • gallu trin ffigurau'n dda; 
  • bod yn hyderus.

Byddai angen i chi hefyd:

  • feddu ar sgìl ymarferol a sgìl technegol/gwyddonol penodol; 
  • rhoi sylw i fanylion; 
  • bod o natur ofalgar; 
  • gallu cyd-dynnu â phobl o wahanol gefndiroedd; 
  • meddu ar sgiliau cyfathrebu da yn gyffredinol.

Gofynion Mynediad
BTEC Iechyd yr Amgylchedd neu Dystysgrif Arolygu Eiddo Bwyd.  Bydd profiad perthnasol blaenorol yn ddefnyddiol iawn, ee gwaith mewn labordy, yn y busnes bwyd ei hun, ee gyda chwmni cynhyrchu cig, neu fel Technolegydd Bwyd.  Ar lefel Swyddog Technegol mae derbyn hyfforddiant yn y gwaith er mwyn ennill Tystysgrif Arolygu Eiddo Bwyd yn ofyniad hanfodol, ond gall parhau i dderbyn datblygiad proffesiynol parhaus drwy'r Sefydliad Gwyddor a Thechnoleg Bwyd fod yn ddefnyddiol.

Rhagolygon a chyfleoedd i'r dyfodol
Bydd y tebygolrwydd o gael dyrchafiad yn dibynnu a yw swyddog yn dymuno hyfforddi i fod yn Swyddog Iechyd yr Amgylchedd (EHO) gan nad oes amrywiaeth eang iawn o gyfleoedd i'w cael. Bydd y cyflog a'r rhagolygon yn amrywio rhwng y naill awdurdod a'r llall. Fodd bynnag, ceir cyfleoedd yn y diwydiant bwyd y tu allan i awdurdodau lleol - fel Archwilwyr, Ymgynghorwyr a Thechnolegwyr Bwyd er enghraifft.

Swyddi Cysylltiedig
Dilynwch y ddolen hon er mwyn gweld rhestr o swyddi cysylltiedig yn Amddiffyn Eich Cymuned.  Fel arall, dilynwch y ddolen hon i weld yr holl broffiliau gyrfa sydd yn yr un maes swyddi.

Gwybodaeth a Gwasanaethau Pellach
Cyfnodolyn The New Scientist  www.newscientist.com
Amgylcheddol Genedlaethol Cymdeithas Iechyd www.neha.org
Sefydliad Gwyddor a Thechnoleg Bwyd www.ifst.org
 
Mae modd cael rhagor o wybodaeth am y maes hwn trwy wefan Gyrfaoedd Cymru (www.careerswales.com/), y llyfrgell leol, swyddfa gyrfaoedd eich bro neu lyfrgell eich ysgol.

Mae Gyrfa Cymru wedi cynhyrchu Sbotolau erthygl ar yrfaoedd mewn STEM (gwyddoniaeth, technoleg, peirianneg a mathemateg): https://www.careerswales.com/cy/golwg-ar-stem/ ac mewn bwyd a ffermio: https://www.careerswales.com/cy/golwg-ar-fwyd-a-ffermio/   

Related Links