Cyflwyniad
Gall fod yn anodd mynd i mewn i adeiladau/cerbydau a dringo
grisiau, hyd yn oed i bobl heini. Os oes unrhyw anableddau
arnoch chi, gall fod yn hunllef. Mae gan awdurdodau o bob
math (ar wahân i'r cynghorau sirol) swyddogion mynediad/trefn
mynediad/materion anableddau bellach i ysgwyddo cyfrifoldeb am
ofalu bod adeiladwyr a phenseiri'n cadw at safonau mynediad ym mhob
un o adeiladau a ffyrdd y cyngor fel y gall pawb fynd a dod yn
hawdd. Nid dim ond pobl anabl sy'n elwa ar hynny. Gall
palmantau anwastad, ymylon dwfn a lleoedd parcio clôs fod yn
beryglus i bawb - hen bobl, pobl afiach, y rhai nad ydyn nhw'n
edrych ble maen nhw'n troedio ac ati. Gan fod y swydd yn
ymwneud â chynghorion adeiladu, gallai fod yn adran y gwasanaethau
eiddo neu - mewn rhai achosion - yn adran y gwasanaethau
cymdeithasol.
Amgylchiadau'r gwaith
Byddwch chi'n gweithio yn y swyddfa a'r tu allan fel ei
gilydd. Rhaid mynd i gyfarfodydd ac ymweld â safleoedd ar
gyfer - er enghraifft - gwirio manylion ceisiadau am ganiatâd
cynllunio a goruchwylio gwaith tirlunio ac adeiladu fyrdd, yn
ogystal â theithio i adrannau eraill o'r cyngor ac asiantaethau
allanol. Gallai fod gofyn ichi weithio o bryd i'w gilydd ar
safle unrhyw wasanaeth. Efallai y bydd angen gwisgo dillad
diogelu weithiau a gallai sŵn, mannau brwnt a thywydd gwael fod yn
ystyriaethau, hefyd. 36 awr yw'r wythnos safonol er bod angen
gweithio shifftiau anghymdeithasol ar adegau i gwrdd â grwpiau
cymunedol a mudiadau gwirfoddol. Mae rhai awdurdodau yn
cynnig trefniadau amser hyblyg.
Gweithgareddau beunyddiol
Mae trefnu rhaglenni gwella mynediad i adeiladau'r cyngor yn ôl
canllawiau mewnol a Deddf 'Gwahaniaethu ar sail Anabledd' yn amcan
hirdymor lle mae angen cydweithio â chynghorwyr, rheolwyr,
swyddogion eraill, mudiadau gwirfoddol (grwpiau cynhalwyr, Swyddfa
'Cyngor ar Bopeth', Age Concern, Access Alliance ac ati) a'r
cyhoedd. At hynny, rhaid cwrdd â phenseiri, syrfewyr,
adeiladwyr, dylunwyr, contractwyr, staff gwasanaethau adeiladu a
swyddogion iechyd a diogelwch i'w cynghori a thrafod telerau.
Mae swyddog mynediad yn hanfodol ynglŷn â llunio a hybu polisi
mynediad y cyngor gan gynnwys rhoi hyfforddiant i'r staff, llunio
canllawiau a phennu safonau. Dyma'r prif ddyletswyddau:
- cadw cronfa ddata am ddylunwyr, adrannau ac archwiliadau
gwladol;
- cynnal arolygon, astudio dichonoldeb, paratoi cynlluniau, pennu
gofynion, llunio cytundebau a goruchwylio modd eu defnyddio;
- cael dyfynbrisiau ar gyfer cytundebau sydd ar gynnig;
- llunio rhaglenni addasu, gan gynnwys pennu cyllidebau, a
monitro'r cynnydd;
- cyflwyno adroddiadau i reolwyr a chynghorwyr;
- ymateb i geisiadau, sylwadau a chwynion gan bawb sy'n ymwneud â
mynediad i bobl anabl;
- ysgwyddo cyfrifoldeb am gynghori pobl ar faterion technegol a
chyfreithiol;
- llunio a diweddaru canllawiau mynediad trwy raglenni cyhoeddi
cyfrifiadurol;
- hybu polisïau mynediad y cyngor trwy daflenni, erthyglau,
cyfarfodydd, lluniau, y we, y fewnrwyd a sesiynau hyfforddi;
- sefydlu trefniadau i ofalu bod pawb yn gweithio yn ôl yr
arferion gorau yn unol ag anghenion defnyddwyr a mudiadau
gwirfoddol lleol a chenedlaethol;
- monitro ceisiadau am ganiatâd cynllunio a chynghori swyddogion
rheoli adeiladu ar ofynion y gyfraith ynglŷn â mynediad;
- rhoi cynghorion ar fynediad ynglŷn â chludiant, pafinau, ymylon
y ffyrdd (lle maen nhw wedi'u niweidio), croesfannau, cynlluniau
priffyrdd, arafu trafnidiaeth, parcio a dodrefn y strydoedd;
- defnyddio grantiau mynediad er lles grwpiau cymunedol ac
ymgeiswyr caniatâd cynllunio.
Medrau a diddordebau
Dyma'r rhai hanfodol:
- medrau cyfathrebu da;
- gallu trin a thrafod cyfrifiaduron (gan gynnwys rhaglenni
dylunio);
- gallu cydweithio a negodi ar amryw lefelau yn y cyngor;
- gallu gweithio o'ch pen a'ch pastwn eich hun ac yn rhan o
dîm;
- gallu deall anghenion amryfal pobl sy'n profi anawsterau
mynediad o achos anabledd neu resymau eraill, a chydymdeimlo â
nhw;
- gallu cadw cofnodion eglur a diweddaru cronfeydd data;
- gwybod Deddf 'Gwahaniaethu ar sail Anabledd' yn dda;
- gwybod sut mae grwpiau mynediad a mudiadau gwirfoddol eraill yn
gweithio.
Bydd profiad o drefnu seminarau a hyfforddiant a llunio deunydd
cyhoeddusrwydd o fantais, hefyd.
Meini prawf derbyn
Bydd angen gradd neu gymhwyster cyfwerth ynglŷn â phensaernïaeth,
tirfesur neu faes cysylltiedig, fel arfer. Byddai
hyfforddiant am faterion mynediad o gryn fantais, ac mae'r profiad
canlynol yn hanfodol:
- o leiaf tair blynedd ym maes pensaernïaeth, tirfesur neu waith
adeiladu arall;
- dylunio safleoedd hygyrch;
- cynnal arolygon o fynediad;
- rheoli prosiectau a'u cwblhau yn ôl eu cyllidebau a'u
hamserlenni;
- paratoi cynlluniau pensaernïol a phennu gofynion;
- goruchwylio gwaith ar safleoedd adeiladu.
At hynny, gallai profiad personol o anawsterau mynediad o achos
anabledd neu resymau eraill, yn ogystal â phrofiad o reoli
cyllidebau, fod o fantais.
Gobeithion a chyfleoedd yn y dyfodol
Gan fod y gymdeithas yn rhoi mwy a mwy o sylw i gyfleoedd cyfartal
a hawliau mynediad, dyma faes sydd ar gynnydd. Mae sawl
awdurdod lleol wedi arwain materion mynediad i bobl anabl ac mae
hynny wedi'i adlewyrchu yn y gwelliannau mewn cyfleusterau preifat
- swyddfeydd, dociau, meysydd awyr, canolfannau hamdden, atyniadau
gwyliau ac ati. Gan fod y wladwriaeth ac Undeb Ewrop yn
cyflwyno mwy a mwy o ddeddfau yn y maes hwn, mae'n debygol y bydd
llawer mwy o gyfleoedd i ddatblygu gyrfa ynddo. Mae digon o
gyfleoedd yn nhimau eraill y gwasanaethau adeiladu ac eiddo,
hefyd.
Rhagor o wybodaeth a gwasanaethau
Sefydliad Breiniol y Technegwyr Pensaernïol: www.ciat.org.uk
Medrau Adeiladu: www.citb.co.uk
Sefydliad Diogelwch ac Iechyd Galwedigaethol: www.iosh.co.uk
Cymdeithas Mynediad: www.accessassociation.co.uk
Sefydliad Breiniol Adeiladu: www.ciob.org.uk
Sefydliad Brenhinol y Syrfewyr Breiniol: www.rics.org
Cewch chi ragor o wybodaeth am y maes hwn trwy gysylltu â
Gyrfaoedd Cymru (www.careerswales.com/), y
llyfrgell gyhoeddus, swyddfa'r gyrfaoedd neu lyfrgell gyrfaoedd
eich ysgol.