Swyddog rheoli datblygu

Cyflwyniad
Does neb yn cael datblygu tir nac adeiladu arno heb ganiatâd y cyngor lleol.  Mae rôl bwysig i swyddogion rheoli datblygu ynglŷn â thrin a thrafod ceisiadau am ganiatâd a chynghori dinasyddion ac adeiladwyr am wneud y gorau o dir a'i adnoddau heb beri newid i'r amgylchedd.

Amgylchiadau'r gwaith
Mae swyddogion rheoli datblygu'n treulio peth amser yn y swyddfa a pheth amser yn yr awyr agored gan ymweld â safleoedd adeiladu arfaethedig.  37 awr yw'r wythnos safonol, fel arfer.

Gweithgareddau beunyddiol
Mae swyddogion rheoli datblygu'n cyflawni amrywiaeth helaeth o orchwylion megis: 

  • asesu ceisiadau am ganiatâd (ar y cyd â swyddogion eraill, yn aml) a gwerthuso'r canlyniadau;
  • ymweld â safleoedd i ymchwilio i ddatblygiadau cyfredol neu arfaethedig a gofalu bod yr adeiladwyr yn deall y rheoliadau ac yn cadw atyn nhw;
  • cynghori cydweithwyr, cynghorwyr a phobl eraill megis archeolegwyr am effaith ceisiadau ar safleoedd archeoleg neu dreftadaeth;
  • cydweithio ag adeiladwyr, penseiri, contractwyr, ymgynghorwyr a dinasyddion i ofalu eu bod yn gwybod am bolisïau a gweithdrefnau'r cyngor;
  • cynghori arbenigwyr allanol megis Cadw a cyrff gwirfoddol am reoliadau ac argymhellion ynglŷn â chadwraeth a datblygu;
  • cydweithio â swyddogion eraill i baratoi cynlluniau cadwraeth ar gyfer hen adeiladau a llecynnau gwledig yr ardal.

Medrau a diddordebau
Mae angen y canlynol:

  • gwerthfawrogi cefn gwlad, yr amgylchedd a chofebion hynafol a hanesyddol gan ddeall sut maen nhw'n cydblethu â datblygu ac anghenion cyfoes;
  • manwl gywirdeb a'r gallu i nodi ffeithiau pwysig;
  • deall pa wedd fyddai'n addas yng nghyd-destun adeiladau newydd;
  • medrau cyfathrebu da a'r gallu i esbonio pynciau cymhleth wrth bobl o sawl lliw a llun;
  • gallu ystyried pwnc yn ofalus a dod i benderfyniad pwyllog;
  • medrau trefnu da a'r gallu i flaenoriaethu gwaith.

Meini prawf derbyn
Diploma neu radd mae Sefydliad Brenhinol Cynllunio Trefi yn ei gydnabod ym maes cynllunio.  Mae amryw ffyrdd o astudio ar eu cyfer:

  • gradd gyntaf mae'r sefydliad hwnnw wedi'i hachredu ym maes cynllunio;
  • cymhwyster mae'r sefydliad hwnnw wedi'i hachredu ar ôl ennill gradd mewn pwnc sy'n berthnasol i gynllunio megis daearyddiaeth, daeareg, economeg neu bensaernïaeth;
  • gradd mae'r sefydliad wedi'i hachredu ar ôl dysgu o hirbell.
     

Ar gyfer swyddi uwch, bydd angen rhai blynyddoedd o brofiad perthnasol ym maes cynllunio.  Gallai fod angen trwydded yrru a cherbyd, hefyd.

Gobeithion a chyfleoedd yn y dyfodol
Mae modd cael dyrchafiad i swyddi uwch a rolau rheoli yn y gwasanaethau cynllunio ac amgylcheddol.  Ar ôl ennill cymwysterau perthnasol, gallai fod cyfleoedd i symud i feysydd eraill megis rheoli adeiladu neu fesur tir.

Rhagor o wybodaeth a gwasanaethau
Sefydliad Brenhinol Cynllunio Trefi: www.rtpi.org.uk

Mae rhagor o wybodaeth gan Gyrfaoedd Cymru (www.careerswales.com/), y llyfrgell leol a swyddfa/llyfrgell materion gyrfaoedd eich ysgol.

Related Links