Swyddog monitro amgylcheddol

Cyflwyniad
Mae cynghorau yn gyfrifol am fonitro eu hamgylchedd lleol a dyfeisio ffyrdd o gael gwared ar neu leihau llygredd. Mae swyddogion monitro amgylcheddol yn swyddogion cefnogi gwyddonol sy'n cael eu cyflogi yn adrannau iechyd yr amgylchedd awdurdodau lleol i wirio lefelau sŵn, llygredd aer a halogiad tir. Maent hefyd yn cynghori ar ffyrdd o osgoi llygredd pan fo cynlluniau ar gyfer prosiectau peirianneg sifil neu adeiladu newydd yn cael eu gwneud.

Amgylchedd Gwaith
Mae swyddogion monitro amgylcheddol yn treulio'r rhan fwyaf o'u hamser tu allan yn gwneud gwaith monitro corfforol. Maent yn treulio rhywfaint o'u hamser yn y swyddfa yn ysgrifennu adroddiadau. Efallai y byddant yn mynychu rhai cyfarfodydd gyda'r nos, yn monitro sŵn yn y nos, neu yn cael eu galw allan i sefyllfaoedd brys ar unrhyw adeg.

Gweithgareddau dyddiol
Mae dyletswyddau swyddogion monitro amgylcheddol yn amrywio gan ddibynnu ar y math o lygredd maent yn fonitro a'u lleoliad. Efallai hefyd y byddant yn arbenigo mewn un maes llygredd. Gall eu gwaith gyda phob math gwahanol o lygredd gynnwys y canlynol:

  • Llygredd aer (a achosir yn aml gan nwyon yn dianc neu dagfeydd traffig). Mae gan swyddogion monitro amgylcheddol ddau ddull o wirio lefelau llygredd aer: monitro amser real, sy'n cynnwys gosod dyfeisiau monitro mewn lleoliadau penodol a lawrlwytho'r wybodaeth yn uniongyrchol i'w cyfrifiaduron swyddfa; a darlleniadau safle darlleniadau, lle maent yn cofnodi manylion ar bapur ar y fan a'r lle neu eu lawrlwytho ar liniadur.
  • Halogiad Tir Efallai bydd swyddogion monitro amgylcheddol yn delio â nifer o broblemau halogiad tir fel: safleoedd diwydiannol yn achosi llygredd trwy ollwng gwastraff organig fel olew a ffenol, adeiladau â lefelau uchel o asbestos; hen byllau glo a gynhyrchodd halogiad o ffyrnau golosg. Maent fel arfer yn cychwyn y math yma o waith monitro drwy ddefnyddio Systemau Gwybodaeth Ddaearyddol (GIS) yn seiliedig ar system fapio. Maent yn ymgynghori â mapiau a hen gofnodion ar gyfrifiadur a gwneud dadansoddiad pen desg ohonynt. Os oes angen samplau ffisegol ohonynt, maent yn ymweld â'r safle ac yn eu casglu.
  • Llygredd sŵn Mae swyddogion monitro amgylcheddol yn gwirio llygredd sŵn ar nifer o wahanol lefelau ac o amrywiaeth o ffynonellau, er enghraifft, lefelau sylweddol o lygredd sŵn o weithfeydd mawr fel meysydd awyr neu byllau glo brig, neu lefelau sŵn domestig, sy'n cael eu monitro fel arfer ar gais deiliaid aelwydydd gydag offer llaw bychan.

Pan ddeuir o hyd i dystiolaeth o lygredd neu halogiad, mae swyddogion monitro amgylcheddol cysylltu â'r rhai sy'n gyfrifol a gofyn iddyn nhw ddelio â'r broblem. Maent yn gwneud hyn yn gyntaf drwy berswâd a thrafod, ond os ydynt yn gwrthod, maent yn cyflwyno rhybudd ffurfiol ac efallai bydd rhaid ymddangos fel tyst arbenigol yn y llys.

Sgiliau a Diddordebau
Mae angen i swyddogion monitro amgylcheddol fod â:

  • cefndir gwyddonol cadarn,
  • diddordeb yn yr amgylchedd,
  • parodrwydd i weithio tu allan,
  • sgiliau cyfathrebu a thrafod da,
  • sgiliau TGCh a chyfathrebu ysgrifenedig da,
  • gallu delio â chwynion anghyfeillgar,
  • gallu egluro materion technegol yn syml i bobl anwyddonol.

Gofynion Mynediad
Efallai bydd rhai cynghorau'n gofyn am radd mewn pwnc gwyddonol neu'n ymwneud â'r amgylchedd. Efallai byddwch hefyd angen rhywfaint o brofiad blaenorol perthnasol mewn maes technegol neu wyddonol.

Rhagolygon a chyfleoedd y dyfodol
Gall swyddogion monitro amgylcheddol symud ymlaen drwy arbenigo a hyfforddi mewn meysydd penodol o fonitro a rheoli llygredd ac, er enghraifft, gallech astudio cymhwyster ôl-radd mewn acwsteg a llygredd sŵn. Mae'n bosibl y bydd cyfleoedd hefyd i hyfforddi i fod yn swyddog iechyd yr amgylchedd.

Mwy o Wybodaeth a Gwasanaethau
Gwybodaeth gyrfaoedd iechyd yr amgylchedd CIEH www.ehcareers.org
Sefydliad Diogelwch Galwedigaethol ac Iechyd y www.iosh.co.uk
Y Gymdeithas Frenhinol er Hybu Iechyd www.rsph.org
 
Mae modd cael rhagor o wybodaeth am y maes hwn trwy wefan Gyrfaoedd Cymru (www.careerswales.com/) y llyfrgell leol, swyddfa gyrfaoedd eich bro neu lyfrgell eich ysgol.

Related Links