Cyflwyniad
Mae Cynghorau'n gweithio mewn partneriaeth ag asiantaethau allanol
i ariannu rhai mentrau. Y person sy'n gyfrifol am ganfod lle
mae'n bosibl cael arian, sicrhau eu hymrwymiad a chynghori pobl
eraill yw'r swyddog ariannu allanol.
Amgylchedd Waith
Mae swyddogion ariannu allanol yn gweithio mewn swyddfeydd yn
bennaf ond hefyd yn mynychu cyfarfodydd mewn gwahanol fannau y tu
allan i'r cyngor.
Gweithgareddau Pob Dydd
Mae swyddogion ariannu allanol yn datblygu ceisiadau am arian gan
sefydliadau allanol, megis adrannau'r Llywodraeth neu'r Undeb
Ewropeaidd. Maen nhw'n paratoi gwybodaeth gyfoes ar
ffynonellau arian ac adnoddau eraill - a sut i'w cael - mewn da
bryd i'r cyngor ffurfio ei geisiadau a datblygu bidiau am
arian. Gallai prif gyfrifoldebau swyddog ariannu allanol
gynnwys:
- ymchwilio i ffynonellau posibl o arian gan sefydliadau ariannu
allanol a mynychu cyfarfodydd gyda phartïon â diddordeb;
- datblygu prosiectau a allai fod yn addas ar gyfer eu
hariannu;
- casglu gwybodaeth berthnasol - megis amcanion, meini prawf,
terfynau amser - a'u cyflwyno i bwyllgorau perthnasol y
cyngor;
- datblygu partneriaethau rhwng gwahanol sectorau er mwyn cael
arian ar gyfer mentrau aml asiantaeth;
- cydlynu'n rheolaidd â gwahanol adrannau a sefydliadau gan
gynnwys: adrannau eraill y cyngor, Swyddfa Ranbarthol y
Llywodraeth, sefydliadu gwirfoddol yn gweithio mewn partneriaeth
gyda'r cyngor, cynrychiolwyr yr Undeb Ewropeaidd, Swyddfa Cyllid
Ewropeaidd Cymru, Llywodraeth Cymru ac Arolygaeth Wledig Cymru
ayb;
- cadw a diweddaru basdata cynhwysfawr o holl gysylltiadau a
phartneriaid allanol sy'n berthnasol i ariannu allanol.
- cynghori staff a phartneriaid y cyngor sy'n chwilio am arian
ynghylch pethau megis sut i gyflwyno bidiau;
- sefydlu rhedeg y broses ceisiadau arian cyfatebol;
- monitro cynnydd ceisiadau ac ysgrifennu adroddiadau.
Sgiliau a Diddordebau
Mae'n rhaid i swyddogion ariannu allanol fod yn:
- gyfathrebwyr gwych gyda sgiliau trafod da,
- gallu rhoi cyflwyniadau a pharatoi adroddiadau da
- drefnwyr da sy'n gallu cynllunio a blaenoriaethu eu gwaith i
gyfarfod â therfynau amser,
- yn gallu gweithio'n dda o dan bwysau
- deall cyfrifiaduron
- yn gallu dehongli a chyflwyno dadansoddiadau
ystadegol,
- yn gallu meddwl yn ochrol ac yn arloesol,
- yn gallu gweithio ar eu liwt eu hunain.
Gofynion Mynediad i'r Swydd
Mae'n rhaid i'r rhan fwyaf o swyddogion ariannu allanol fod â
phrofiad o gyflwyno ceisiadau am arian allanol ac efallai y bydd
angen gwybodaeth o wahanol brosesau bidio am arian. Mae'n
debyg y bydd yn rhaid i chi fod â gradd neu gyfwerth mewn
disgyblaeth gyda chysylltiadau ariannol cryf ac mae'n debyg hefyd y
byddwch angen cymhwyster ariannol proffesiynol, er enghraifft o
Sefydliad Siartredig Cyllid Cyhoeddus a Chyfrifyddiaeth
(CIPFA). Mae yna hefyd swyddi dechrau gyfra yn y maes
hwn megis Swyddog Hawliadau sydd angen NVQ Lefel 3 / 4 mewn
disgyblaeth berthnasol.
Rhagolygon a chyfleoedd ar gyfer y
dyfodol
Efallai y bydd yna gyfle i gael dyrchafiad i swyddi ariannol a
rheolaethol uwch mewn cyfrifeg, archwilio neu fonitro cyllidebau yn
y cyngor. Efallai hefyd y bydd yna gyfle i gael profiad o
feysydd eraill mewn llywodraeth leol, megis datblygu ac adfywio
economaidd.
Gwybodaeth a Gwasanaethau Pellach
Sefydliad Datblygu Economaidd www.ied.co.uk
Sefydliad Siartredig Cyllid a Chyfrifeg Cyhoeddus www.cipfa.org.uk
Mae modd cael rhagor o wybodaeth am y maes hwn trwy wefan
Gyrfaoedd Cymru (www.careerswales.com/) y
llyfrgell leol, swyddfa gyrfaoedd eich bro neu lyfrgell eich
ysgol.
Related Links