Rheolwr cludiant

Cyflwyniad
Mae adrannau cludiant cynghorau lleol yn cynnig dewis o gludiant cyhoeddus i deithwyr yn ôl polisi sy'n ceisio:

  • rhoi gwasanaethau cludo ar gael i bawb;
  • gwella a diogelu'r amgylchedd;
  • hwyluso penderfyniadau synhwyrol am gludiant.

Mae rôl hanfodol i reolwyr cludiant cynghorau lleol ynglŷn â chynnig gwasanaeth cludo diogel ac effeithlon i bobl y fro.

Amgylchiadau'r gwaith
Mae rheolwyr cludiant cynghorau lleol yn gweithio mewn swyddfeydd er y gallai fod angen iddyn nhw ymweld â safleoedd neu fynd i gyfarfodydd.  Mae'r rhan fwyaf yn gweithio yn ôl wythnos safonol, sef 37 awr.

Gweithgareddau beunyddiol
Mae rheolwyr cludiant cynghorau lleol yn gyfrifol am drefnu, cynnal ac adolygu pob gwasanaeth sy'n ymwneud â chludiant, ffyrdd a meysydd parcio yn yr ardal.  Maen nhw'n gyfrifol am ofalu bod gwasanaethau cludo'n gweithio'n esmwyth gan gynnwys:

  • casglu a dadansoddi data a gwybodaeth arall am wasanaethau cludo, a llunio adroddiadau i gynghorwyr, adrannau gwladol ac asiantaethau ariannu;
  • nodi problemau cyfredol a rhai allai godi ynglŷn â chludiant, a chynnal ymchwil i ddichonoldeb cludiant amgen;
  • llunio trefniadau cludo a phrofi a gwerthuso'r dewisiadau mewn ardal;
  • paratoi polisi cludiant y cyngor lleol a hel gwybodaeth ar gyfer amrywiaeth o ddogfennau ac adroddiadau strategol;
  • goruchwylio materion iechyd a diogelwch, addysg, hyfforddiant a chysylltiadau cyhoeddus ynglŷn â chludiant;
  • cyflwyno trefniadau newydd ar gyfer rheoli cludiant;
  • cynghori am daliadau parcio ceir;
  • llunio cynigion ar gyfer ffyrdd pwysig newydd yn yr ardal;
  • paratoi cynllun busnes ar gyfer gweithgareddau parcio ceir;
  • monitro cyllidebau a thargedau ariannol;
  • llunio gweithdrefnau i ddibenion gwella;
  • cynghori am ddeddfau, canllawiau a rheoliadau ynglŷn â chludiant;
  • rheoli a goruchwylio staff.

Medrau a diddordebau
Dyma'r rhai hanfodol:

  • medrau cyfathrebu da - ar lafar ac ar bapur;
  • medrau da ynglŷn â chynnal ymchwil, ynghyd â'r gallu i ddadansoddi a dehongli data;
  • gallu esbonio materion cymhleth ynglŷn â chludiant i'ch cydweithwyr ac i'r rhai nad ydyn nhw'n gwybod llawer am gludiant;
  • gallu penderfynu'n ddoeth;
  • medrau da ynglŷn â threfnu gwaith a defnyddio cyfrifiadur;
  • deall materion strategol ynglŷn â chludiant.

Meini prawf derbyn
Mae gan y rhan fwyaf o ymgeiswyr radd mewn pwnc perthnasol megis astudiaethau cludiant, cynllunio a rheoli cludiant, cludiant neu beirianneg sifil a chludiant.

Mae rhagor o wybodaeth am gyrsiau i ôl-raddedigion ar wefan Cymdeithas Cynllunio Cludiant: www.tps.org.uk/main/masters-courses/

I astudio ar gyfer gradd, bydd angen TGAU (A*-C) mewn pum pwnc a Thystysgrif Safon Uwch mewn dau bwnc (neu gymwysterau cyfwerth).

Gobeithion a chyfleoedd yn y dyfodol
Mae modd i reolwr cludiant cyngor lleol gyrraedd lefel uwch reolwr yn y cyngor.  Fe allai ddefnyddio ei fedrau a'i brofiad mewn adrannau eraill megis yr amgylchedd neu gynllunio.

Rhagor o wybodaeth a gwasanaethau
Sefydliad Breiniol Priffyrdd a Chludiant: www.iht.org
People 1st: www.people1st.co.uk
Cymdeithas Cynllunio Cludiant: www.tps.org.uk/

Gallai fod rhagor o wybodaeth ar wefan Gyrfaoedd Cymru (www.careerswales.com/), yn llyfrgell eich bro neu yn swyddfa/llyfrgell eich ysgol.

Related Links