Cyflwyniad
Dyma swydd sydd wedi'i chyflwyno yn ddiweddar i wella ansawdd ein
bywydau trwy gwtogi ar fygwth troseddau a mathau eraill o ymddygiad
gwrthgymdeithasol Mae rheolwyr cynlluniau gwarchod cymdogaeth
yn rhoi cymorth i weinyddwyr sy'n gyfrifol am gynnal cynlluniau
amddiffyn dinasyddion pob cymuned. Maen nhw'n rhan o staff
sifil yr heddluoedd gan helpu i gwtogi ar droseddu, anrhefn ac ofn
ar y cyd â phobl y gymuned. Mae pob heddlu wedi ymrwymo i roi
gwasanaeth tringar a phroffesiynol.
Amgylchiadau'r gwaith
37 awr yw'r wythnos safonol. Gan fod heddlu ar ddyletswydd
drwy'r amser, fe allai fod angen gweithio amser ychwanegol y tu
allan i'r fro - yn arbennig pe bai trosedd difrifol, trychineb neu
ymgyrch eithriadol. Byddai disgwyl ichi weithio gyda'r
nos.
Gweithgareddau beunyddiol
Prif ddiben y swydd yw hybu ac ehangu cynlluniau gwarchod amryw
gymdogaethau ym mro'r cyngor. Rhaid asesu pa mor dda maen
nhw'n gweithio, helpu i benodi staff a bod yn llefarydd cyhoeddus
i'r cynlluniau trwy areithiau, erthyglau, cyfweliadau yn y
cyfryngau ac ati. Mae siarad yn gyhoeddus yn rhan bwysig o'r
swydd. Rhaid i bob rheolwr fanteisio ar bob cyfle i
ymgysylltu â'r gymuned. Nhw sy'n bennaf cyfrifol am ofalu bod
gorchwylion ac amcanion penodol wedi'u cyflawni, llunio adroddiad
am y cynnydd bob blwyddyn a'i roi gerbron swyddogion uchelradd yr
heddlu, awdurdod yr heddlu, cynghorwyr lleol a chynrychiolwyr
etholedig eraill. Gallai cynllun gwarchod y gymdogaeth
gynnwys dinasyddion yn ogystal â gwardeiniaid y cyngor lleol.
Bydd y gwaith yn cynnwys:
- cadw llygad ar yr ardal (yn ystod y prynhawn, gyda'r nos a
thros y Sul gan amlaf);
- cynorthwyo preswylwyr sy'n agored i niwed (yr hen ddyn drws
nesaf, y wraig anabl gyferbyn ac ati);
- cymryd rhan yng ngweithgareddau'r gymuned;
- tynnu sylw'r heddlu ac awdurdodau perthnasol eraill at
droseddau, ymddygiad gwrthgymdeithasol a materion
amgylcheddol;
- cadw llygad ar adeiladau gwag;
- cynorthwyo asiantaethau eraill megis gwasanaethau cymdeithasol,
mudiadau hen bobl, eglwysi a chlybiau i'r ifainc.
Dyletswydd rheolwr cynllun gwarchod cymdogaeth yw gofalu bod y
drefn yn gweithio a bod yr awdurdodau'n rhoi pob cymorth priodol
iddi.
Medrau a diddordebau
Dyma'r rhai hanfodol:
- cymhelliant cryf a'r gallu i weithio heb lawer o
oruchwyliaeth;
- gallu cyfathrebu'n dda - ar lafar ac ar bapur fel ei
gilydd;
- ymroi i ddyletswydd ddinesig;
- bod yn effro i'r angen i feithrin hyder trigolion;
- bod yn oddefgar ond yn deg, gan barchu hawliau'r unigolyn;
- gallu cyd-dynnu â phobl o sawl lliw a llun;
- gallu rheoli pobl a threfnau yn dda.
Meini prawf derbyn
Mae angen TGAU mewn pynciau megis mathemateg a'r Gymraeg/Saesneg
yn ogystal â medrau bysellfwrdd da. Gan fod angen siarad yn
gyhoeddus yn aml, dylech chi fod yn un hyderus a huawdl.
Byddai profiad o warchod cymdogaeth neu atal troseddu o
fantais. Mae cerbyd yn hanfodol, hefyd. Byddech chi ar
brawf am chwe mis ac mae pob ymdrech i benodi pobl ddibynadwy a
gonest. Gallai fod angen sefyll prawf ynglŷn â medrau megis
blaenoriaethu gwaith, teipio, ysgrifennu a thrin a thrafod symiau
er y bydd y rhan fwyaf o awdurdodau heddlu yn rhoi hyfforddiant
trwy gyfrwng:
- cyfarwyddo yn y swydd;
- cyrsiau mewnol ac allanol;
- noddi astudiaethau;
- cymwysterau galwedigaethol cenedlaethol mewn meysydd megis
gofalu am gwsmeriaid, hyfforddi/datblygu a gweinyddu.
Gobeithio a chyfleoedd ar gyfer y dyfodol
Mae swyddi uwch reolwyr ar gael mewn cynlluniau o'r fath ac mewn
rhannau eraill o wasanaethau plismona. Mae canfod ac atal
troseddau yn faes sydd ar gynnydd, ac mae pob heddlu wastad yn
chwilio am ffyrdd newydd o gydweithio â chymunedau.
Rhagor o wybodaeth a gwasanaethau
Asset Skills: www.assetskills.org
Cymdeithas Diwydiant Diogelu Prydain: www.bsia.co.uk
Sefydliad y Ddinas a'r Urddau: www.city-and-guilds.co.uk
Sefydliad Rheoli Gweinyddol: www.instam.org
Gwarchod Cymdogaethau: www.neighbourhoodwatch.net
Medrau diogelu: www.skillsforsecurity.org.uk
Awdurdod eich heddlu:
Gallai fod rhagor o wybodaeth ar wefan Gyrfaoedd Cymru
(www.careerswales.com/), yn llyfrgell eich bro neu yn
swyddfa/llyfrgell gyrfaoedd eich ysgol.