Rheolwr arlwyo

Cyflwyniad
Mae cynghorau o bob maint yn darparu gwasanaethau bwyd a diod i wahanol bobl. Rheolwyr arlwyo sy'n gyfrifol am y gwasanaethau hyn. Mae eu 'cwsmeriaid' yn cynnwys pobl hŷn neu anabl sy'n mynychu canolfannau dydd, plant sy'n bwyta prydau bwyd ysgol, pobl sy'n byw mewn cartrefi preswyl, pobl sy'n defnyddio canolfannau chwaraeon a chanolfannau hamdden, ymwelwyr y mae'r maer neu arweinydd y cyngor yn eu derbyn, pobl bwysig yn y ddinas, neu eu staff eu hunain yn bwyta mewn bwytai staff.  Mae rhai cynghorau yn gosod eu gwasanaethau arlwyo ar gontract ac mae rhai yn gweithredu gwasanaethau sy'n gwneud elw, gan arlwyo ar gyfer priodasau sifil, cynadleddau a digwyddiadau mawr a rhedeg bwytai yng nghanol dinasoedd ar gyfer y cyhoedd yn gyffredinol.

Amgylchedd Gwaith
Mae Uwch Reolwyr Arlwyo yn gweithio yn swyddfeydd y cyngor ac maent yn aml yn gyfrifol am weithlu o gannoedd o bobl sy'n gweithio mewn nifer fawr o sefydliadau arlwyo. Fel arfer, byddant yn ceisio treulio amser mewn mannau bwyta pan weinir prydau bwyd - i reoli safonau ac asesu ymateb y cwsmeriaid. Byddant o bosibl yn treulio amser yn teithio rhwng sefydliadau gwahanol i gyfarfod â phenaethiaid ysgolion, rheolwyr canolfannau, prif gogyddion ac ati.

Gweithgareddau Dyddiol
Mae rheolwyr arlwyo yn sicrhau bod ystafelloedd bwyta, bwytai a bariau y mae'r cyngor yn eu gweithredu yn gweini'r math o brydau bwyd y mae cwsmeriaid yn galw amdanynt. Rhaid ystyried dewisiadau'r cwsmeriaid a rhaid gweini'r prydau bwyd am brisiau cystadleuol ond proffidiol.  Mewn ysgolion, cartrefi preswyl a chanolfannau dydd rhaid i'r prydau bwyd fod o ansawdd uchel ond wedi eu paratoi o fewn cyllideb benodedig. Rhaid i reolwyr arlwyo gynllunio'r cyllidebau hyn o fewn canllawiau bwyta'n iach a safonau maeth.

Mae rheolwyr arlwyo ardal yn gyfrifol am nifer o unedau arlwyo ac am hyfforddi eu staff mewn sgiliau coginio a sgiliau gwasanaeth cwsmeriaid. Maent yn darparu hyfforddiant cychwynnol pan fo staff yn ymuno â'u hadran ac yn monitro eu datblygiad. Eu cyfrifoldeb nhw hefyd yw sicrhau bod prif gogyddion yn eu sefydliadau yn cynnal gweithdrefnau iechyd, hylendid a diogelwch.

Mewn rhai swyddi, mae gan uwch reolwyr arlwyo swyddogaeth farchnata, gan hybu sefydliadau'r cyngor yn yr ardal. Byddant hefyd o bosibl yn ymwneud â llunio cytundebau lefel gwasanaeth neu dendrau gan roi manylion am wasanaethau eu hadrannau a'r costau arfaethedig, gan fod rhaid i'r adrannau gystadlu â chwmnïau allanol am gontract y cyngor.  Byddai uwch reolwyr arlwyo'n cynnal rhaglen rheoli asedau i gynllunio ar gyfer adnewyddu ac ailwampio offer a safleoedd i wella ansawdd profiad y cwsmer.  Mae'n bosibl y disgwylir i uwch reolwr arlwyo gyfrannu at gynlluniau argyfwng sifil y cyngor a sefydlu strategaethau ar gyfer defnyddio safleoedd yr awdurdod lleol i fwydo pobl mewn argyfwng.

Sgiliau a Diddordebau
Mae angen i reolwyr arlwyo:

  • fod â sgiliau arwain a rheoli; 
  • bod â phrofiad mewn paratoi a gwasanaethu bwyd a diod; 
  • bod â phersonoliaeth hyderus; 
  • bod â sgiliau cyfathrebu da; 
  • gallu cynllunio/trefnu; 
  • bod â sgiliau rhifedd da; 
  • gallu bod yn ddigynnwrf dan bwysau.

Gofynion Mynediad
Mae'r rhain yn amrywio yn dibynnu pa mor uchel yw'r swydd.  Fel lleiafswm, bydd cynghorau'n disgwyl bod gan ymgeiswyr brofiad perthnasol a chymwysterau perthnasol megis NVQ/SVQ neu gymwysterau City & Guilds mewn arlwyo. Gellir ennill y rhain wrth weithio mewn amgylchedd cegin rheng flaen.  Yn aml mae gan uwch reolwyr ddiploma uwch, gradd neu gymhwyster proffesiynol y Gymdeithas Reoli Ryngwladol Gwestai ac Arlwyo.

Cyfleoedd a gobeithion yn y dyfodol
Mae cynghorau'n cyflogi nifer o reolwyr arlwyo ar wahanol lefelau (rheng flaen, ardal neu uwch) mewn gwahanol sefydliadau - er bod uwch gogydd neu gogydd yn gwneud y math hwn o waith o bryd i'w gilydd mewn sefydliadau unigol llai.  Mae gobaith o gael dyrchafiad i swydd rheolwyr gwasanaethau adloniant, a chyfleoedd i symud i waith hamdden a thwristiaeth.

Mwy o Wybodaeth a Gwasanaethau
Sefydliad Arlwywyr Awdurdodau Lleol www.laca.co.uk
Springboard UK Ltd http://springboarduk.net/
sefydliad o letygarwch  www.instituteofhospitality.org/
 People 1st www.people1st.co.uk

Mae modd cael rhagor o wybodaeth am y maes hwn trwy wefan Gyrfaoedd Cymru (www.careerswales.com/), y llyfrgell leol, swyddfa gyrfaoedd eich bro neu lyfrgell eich ysgol.

Related Links