Gweithiwr ffordd

Rhagarweiniad
Ydych chi'n mwynhau:

  • gweithio yn yr awyr agored?
  • gwneud gwaith corfforol?
  • bod yn aelod o dîm?
  • helpu i gynnal a gwella eich ardal leol?

Os felly, efallai mai bod yn weithiwr ffordd fydd y swydd i chi. Mae gweithwyr ffordd yn helpu i osod ffyrdd newydd; gwella ffyrdd sy'n bodoli eisoes, fel ymledu ffyrdd ac atgyweirio tyllau a holltau yn arwynebau'r ffordd. Maent hefyd yn gwneud gwaith ar lwybrau troed ac ardaloedd parcio. Efallai hefyd y caiff gweithwyr ffordd eu galw'n weithredwyr priffordd.

Amgylchedd Gwaith
Mae gweithwyr ffordd yn gweithio yn yr awyr agored ym mhob math o dywydd. Efallai y bydd angen gweithio goramser o bryd i'w gilydd ar y penwythnos a chyda'r nos, er mwyn osgoi tarfu ar draffig. Mae'r gwaith yn gorfforol iawn ac mae'n gofyn am lawer o gerdded, plygu, codi a chario. Fel arfer, mae'r safle yn fudr ac yn llychlyd, a gallai fod anweddau cryf o ddeunyddiau poeth, fel tarmac. Mae dillad amddifynnol yn cynnwys oferôls, hetiau caled, amddiffynwyr clust, siacedi fflworoleuol, esgidiau gwaith, menig a gogls, gan ddibynnu ar y gwaith. Mae gweithio ar briffyrdd yn cynnwys bod yn gyson ymwybodol o berygl traffig. Mae'r gwaith yn cynnwys teithio o amgylch yr ardal leol i weithio ar brosiectau gwahanol.

Gweithgareddau o Ddydd i Ddydd
Mae gweithwyr ffordd yn tueddu i weithio mewn criwiau o ddau neu fwy, o dan gyfarwyddyd fforman neu asiant safle. Mae'r gwaith yn amrywio o brosiect i brosiect ond mae'n cynnwys:

  • llwytho unrhyw ddeunyddiau sydd eu hangen o fan storio'r depo; 
  • gosod arwyddion rhybudd ac atalfeydd yn y gweithle; 
  • rheoli traffig ar ffurf cerddwyr a cherbydau sy'n agos at y safle; 
  • gwacáu ffordd gerbydau i'r lefel ofynnol, gan ddefnyddio ceibwyr mecanyddol ac offer llaw, fel rhaw a chaib; 
  • gosod draeniau - ceibio ffosydd, gosod rhannau o bibwaith yn eu lle a'u selio at ei gilydd; 
  • gosod tyllau archwilio; 
  • gosod ymylfeini yn unionsyth a'u gosod yn eu lle; 
  • gwneud palmentydd drwy dorri slabiau i'r maint priodol, yna eu gosod ar gymysgedd o dywod a sment
  • paratoi deunyddiau fel concrit a tharmac; 
  • gosod y ffordd gerbydau gyda haenau o ddeunyddiau a defnyddio peiriannau sy'n dirgrynu ac yn rholio i'w gwastatáu a'u llyfnhau; 
  • adeiladu ac atgyweirio waliau cynnal; 
  • ceibio ffyrdd i atgyweirio pibellau sydd wedi torri; 
  • codi arwyddion ffordd a lampiau stryd; 
  • marcio ffyrdd â llinellau gwyn a melyn; 
  • lledaenu grut ar ffyrdd yn ystod y gaeaf a chlirio eira; 
  • defnyddio pob math o offer mecanyddol, gan gynnwys jac codi baw, lorïs, rholeri, driliau, ceibwyr; 
  • gwaith cyffredinol i gadw'r safle yn daclus ac yn ddiogel e.e. ysgubo deunydd rhydd.

Sgiliau a Diddordebau
Mae angen y canlynol ar weithwyr ffordd:

  • gallu ymarferol; 
  • ffitrwydd corfforol a stamina; 
  • gweithio'n dda fel rhan o dîm; 
  • gallu gweithio heb oruchwyliaeth gyson; 
  • sgiliau da o ran pobl - gan eu bod yn gweithio'n agos i'r cyhoedd a gweithwyr eraill.

Efallai y bydd angen trwydded yrru neu drwydded cerbyd trwm ddilys ar gyfer rhai swyddi.

Gofynion Mynediad
Nid oes unrhyw ofynion mynediad penodol. Fel arfer, ystyrir bod agwedd gadarnhaol, sgiliau da o ran pobl a stamina corfforol yn bwysicach na chymwysterau academaidd. Mae rhai awdurdodau lleol yn cynnig cwrs ymsefydlu ar gyfer hyfforddeion. Mae hyn yn galluogi pobl heb brofiad i ddysgu rhai sgiliau pan fyddant yn y swydd, cael hyfforddiant ffurfiol a dod yn weithwyr ffordd. Caiff hyfforddiant ei roi yn y swydd o dan oruchwyliaeth gweithwyr profiadol fel arfer. Yn ogystal, mae awdurdodau lleol yn gyffredinol yn cefnogi gweithwyr sydd am wella eu sgiliau drwy fynd i'r coleg am ddiwrnod astudio. Mae cymwysterau NVQ/SVQ mewn Gosod Ffyrdd ar gael ar lefel 1 a 2. Efallai hefyd y bydd cymwysterau City and Guilds a BTEC/SQA mewn adeiladau ar gael hefyd.

Posibiliadau a chyfleoedd ar gyfer y dyfodol
Mae cyfleoedd ar gyfer gweithwyr ffordd ar hyd a lled y wlad.
Wrth i weithwyr ffordd ddysgu mwy o sgiliau a chael hyfforddiant pellach, gall gweithwyr ffordd ddod yn weithwyr lefel uwch neu arbenigo, fel seiri maen neu balmantwyr, er enghraifft. Yna gallant barhau i ddod yn arweinydd tîm, yn fforman neu'n oruchwyliwr.

Rhagor o Wybodaeth a Gwasanaethau
Sgiliau Adeiladu www.citb.co.uk

Mae modd cael rhagor o wybodaeth am y maes hwn trwy wefan Gyrfaoedd Cymru (www.careerswales.com/), y llyfrgell leol, swyddfa gyrfaoedd eich bro neu lyfrgell eich ysgol.

Related Links