Cyflwyniad
 Rôl draddodiadol gofalwr oedd bod yn gyfrifol am adeilad megis
fflatiau, neuadd y dref neu ganolfan gymunedol.  Mae sawl
swydd o'r fath o hyd ond mae mwy a mwy o ofalwyr y cynghorau lleol
yn gyfrifol am nifer o safleoedd.
Mae pwyslais y gwaith yn amrywio.  Bydd rhai gofalwyr yn
treulio'r rhan fwyaf o'u hamser yn glanhau ond, mewn swyddi eraill,
bydd rhagor o bwyslais ar agweddau ymarferol megis mân
atgyweiriadau ynglŷn â ffenestri, plymwaith, paentio ac offer
trydanol.  Bydd nifer yr oriau sydd i'w rhoi i ddyletswyddau
diogelu megis rheoli pwy sy'n cael mynd i mewn i adeilad neu wylio
ystâd yn amrywio, hefyd.
Amgylchiadau'r gwaith
 Mae gofalwyr tai'n gweithio ar ystadau tai'r cyngor (gan gynnwys
fflatiau).  Efallai y bydd gofalwyr sy'n gweithio mewn
gwasanaethau cymunedol eraill yn gyfrifol am gyfleuster megis
neuadd y dref, adeilad dinesig, canolfan ieuenctid a chymuned,
canolfan chwarae neu ganolfan hamdden.  Bydd gofalwyr teithiol
yn mynd i amryw safleoedd.  Y tu mewn i adeiladau y bydd y
rhan fwyaf o'r gwaith, ond mae sawl swydd yn ymwneud â gweithio yn
yr awyr agored, hefyd.  O gyflawni gorchwylion glanhau a
thrwsio, gallai fod tipyn a blygu a phen-glinio, hefyd.
Mae gwisg y gwaith yn cynnwys dillad diogelu, esgidiau blaenau
caled a menig.  Fe fydd cyflogwyr yn rhoi gwisg swyddogol, o
bosibl.  37 awr yw'r wythnos safonol er y bydd sawl swydd
ran-amser ar gael.  Gallai fod angen gweithio oriau anarferol
gan gynnwys gyda'r nos a thros y Sul, ond mae rhai swyddi'n cynnig
oriau cyson rhwng dydd Llun a dydd Gwener.
Gweithgareddau beunyddiol
 Mae gofalwyr tai'n gyfrifol am gynnal/cadw a diogelu gan gynnwys,
er enghraifft:
- atgyweiriadau sylfaenol megis trwsio tapiau, ffenestri a
phaent;
 
- diogelu'r safle gan ei wylio trwy naill ai gerdded o'i gwmpas
neu ddefnyddio teledu cylch cyfyng;
 
- tynnu sylw'r heddlu at ddigwyddiadau megis trais neu
ddifrodi;
 
- cadw llygad ar y modd mae tenantiaid, ymwelwyr a chontractwyr
yn defnyddio safle;
 
- glanhau mannau cymunedol;
 
- cynnal a chadw'r meysydd a chael gwared ar sbwriel.
 
Mae gofalwyr sy'n ymwneud â gwasanaethau cymunedol eraill megis
neuadd y dref, adeiladau dinesig a chanolfannau ieuenctid/cymuned
yn gyfrifol am gynnal a chadw, diogelu a glanhau, hefyd.  At
hynny, byddan nhw'n agor adeilad cyn ei ddefnyddio ac yn ei gau
wedyn.  Efallai y byddan nhw'n ymwneud â gweithdrefn cadw
ystafelloedd, hefyd.  Mae gofalwyr teithiol yn gyfrifol am
nifer o safleoedd ac yn defnyddio cerbyd arbennig i'r diben
hwnnw.  Mae modd ei ofalwr drefnu ei waith ei hun i ryw raddau
a phennu blaenoriaethau'r dydd.  Byddan nhw'n ymwneud ag
amrywiaeth o bobl megis y rhai sy'n defnyddio'r adeilad, gofalwyr
eraill, staff swyddfa'r cyngor, contractwyr sy'n gweithio yno a'r
heddlu.
  
 Medrau a diddordebau
 Dyma'r rhai hanfodol:
- gallu trin a thrafod pobl;
 
- medrau trefnu da;
 
- cydwybodol;
 
- dibynadwy;
 
- hyblyg o ran trefnu gwaith.
 
Byddai medrau ymarferol yn ddefnyddiol.  Rhaid bod yn
ddigon heini i blygu a chodi.
Meini prawf derbyn
 Bydd y rhan fwyaf o ymgeiswyr yn bobl aeddfed gyda phrofiad o sawl
math.  Bydd eisiau trwydded yrru i fod yn ofalwr
teithiol.  Bydd y cyflogwr yn rhoi hyfforddiant a chyrsiau
byrion (cyrsiau undydd, fel arfer) ynglŷn â phynciau megis materion
iechyd a diogelwch, defnyddio offer glanhau, rhagofalon tân a thrin
a thrafod cwsmeriaid.  Mae modd astudio ar gyfer Cymhwyster
Galwedigaethol Cenedlaethol 'Gwasanaethau Glanhau a Chynorthwyo' -
Lefel 2 (Gwaith Gofalwr), hefyd.
Gobeithion a chyfleoedd ar gyfer y
dyfodol
 Yn ôl ystadegau diweddar, mae dros 40,000 o ofalwyr yn y cynghorau
lleol.  Efallai y bydd cyfleoedd i gael dyrchafiad yn
oruchwyliwr gan ysgwyddo cyfrifoldeb am nifer o ofalwyr.  Mae
modd trosglwyddo i fathau eraill o waith gofalwr megis ysgolion neu
ysbytai, neu i faes rheoli glanhau.  Bydd rhai gofalwyr yn
symud i swyddi eraill yn y cynghorau lleol.  Er enghraifft,
mae nifer o ofalwyr tai wedi trosglwyddo i swyddfeydd adrannau tai
i wneud gwaith clercaidd.
Rhagor o wybodaeth a gwasanaethau
 Asset Skills: www.assetskills.org
 Sefydliad Gwyddorau Glanhau Prydain: www.bics.org.uk
 Gwefan y Gofalwyr: www.thecaretakers.net
Gallai fod rhagor o wybodaeth ar wefan Gyrfaoedd Cymru
(www.careerswales.com/), yn llyfrgell eich bro neu yn
swyddfa/llyfrgell gyrfaoedd eich ysgol.