Cyflwyniad
 Diben cynorthwywyr trwyddedu yw helpu swyddogion
trwyddedu i ofalu bod cerbydau preifat sydd ar log yn ddiogel a bod
safleoedd adloniant cyhoeddus yn gweithio yn ôl rheoliadau iechyd a
diogelwch ac is-ddeddfau lleol.  Maen nhw'n diogelu pobl rhag
cwmnïau cludo a thafarnwyr sy'n anwybyddu'r gyfraith, er
enghraifft.  Dyna'r rheswm dros alw swyddog trwyddedu'n
swyddog gorfodi weithiau.  Mae cynorthwywyr o'r fath yn
gweithio yn y cynghorau dosbarth, bwrdeistref, unedol a
dinasol.  Fel arfer, maen nhw'n ymwneud ag adran y prif
weithredwr a chlerc y dref, adran materion cyfreithiol y gyfadran
gorfforaethol neu faes diogelu cymunedau.
Amgylchiadau'r gwaith
 Bydd angen gweithio yn y swyddfa a'r tu allan iddi fel ei
gilydd am y gallai fod rhaid i swyddogion a'u cynorthwywyr
archwilio cwmni cytiau cŵn mae angen trwydded arno i fasnachu, er
enghraifft.  Os nad yw'r perchnogion yn rheoli'r cwmni'n dda,
bydd rhaid iddyn nhw ei gau nes bod y staff trwyddedu'n fodlon.
 Ar ben hynny, rhaid archwilio cerbydau mewn lleoedd megis
gorsafoedd bysiau ac arosfannau tacsis.
Gweithgareddau beunyddiol
 Mae cynorthwywyr yn helpu'r swyddogion i gyflawni
dyletswyddau gorfodi ynglŷn â rheoliadau trwyddedu'r cyngor.
 Byddan nhw'n eu helpu i drin a thrafod ceisiadau gyrwyr
tacsis am drwyddedi, cadw golwg ar y modd mae'r gyrwyr yn
cydymffurfio â'r rheolau ac ymweld â safleoedd adloniant cyhoeddus
megis disgos a lloriau sglefrio.  Gorchwyl arall yw holi'r
heddlu, y frigâd dân a swyddogion iechyd amgylcheddol a oes gyda
nhw unrhyw bryderon ynglŷn â gadael i safleoedd o'r fath
weithredu.  Pan welwch chi fod lorïau trymion yn cael eu
harchwilio ar ymyl y ffordd, swyddogion a chynorthwywyr trwyddedu
fydd yn gwneud hynny ynghyd â'r heddlu.  Wrth gyflawni eu
dyletswyddau, bydd angen iddyn nhw wneud y canlynol,
hefyd: 
- paratoi a chadw cofrestri, ffeiliau a chardiau cofnodi yn
ogystal â chyflwyno data i sustem drwyddedu'r cyngor;
 
- cydweithio â'r cyrff statudol a swyddogion cynghorau eraill
ynglŷn â materion trwyddedu;
 
- ateb ymholiadau gan y cyhoedd a chyfreithwyr preifat, a'u
cynghori nhw;
 
- paratoi adroddiadau i bwyllgorau a threfnu/mynychu eu
cyfarfodydd;
 
- mynd i lysoedd ynadon, cyfarfodydd byrddau trwyddedu a
gwrandawiadau disgyblu;
 
- bod yn effro i ddatblygiadau cyfreithiol ym maes
trwyddedu;
 
- cwrdd â chynrychiolwyr cymdeithasau masnachu, perchnogion a
thafarnwyr;
 
- canoli rhwng pobl sydd wedi cyflwyno cwyn a'r rhai sy'n destun
cwyn;
 
- paratoi gwysion.
 
 
Medrau a diddordebau
 Mae angen y canlynol: 
- medrau cyfathrebu da;
 
- medrau trefnu da;
 
- ymroi i ofalu am gwsmeriaid;
 
- agwedd dringar a chraffter;
 
- medrau goruchwylio;
 
- hyblygrwydd;
 
- gallu gweithio o dan bwysau ac ymdopi ag agweddau
ymosodol;
 
- medrau negodi;
 
- medrau ysgrifennu adroddiadau;
 
- gallu trin a thrafod symiau;
 
- gallu gweithio mewn tîm.
 
Mae profiad o'r hyn isod yn hanfodol:
- gweithdrefnau gwasanaethau cyhoeddus (ym maes trwyddedu fyddai
orau);
 
- cyswllt uniongyrchol â'r cyhoedd ynglŷn â gweinyddu;
 
- gofynion y gyfraith ym maes trwyddedu;
 
- gofynion polisïau'r cyngor, gan gynnwys cyfleoedd
cyfartal.
 
Mae disgwyl i staff trwyddedu allu trin a thrafod cyfrifiaduron
a defnyddio technoleg newydd.  Mae angen car a thrwydded yrru
ddi-farc, hefyd.
Meini prawf ymgeisio
 Bydd angen o leiaf 4 TGAU (A*-C) neu gymwysterau
cyfwerth, gan gynnwys Saesneg a mathemateg.  Fel arall, bydd y
rhan fwyaf o gynghorau'n mynnu cymhwyster sy'n gyfwerth a Rhan 1
Arholiad Sefydliad y Gweithredwyr Cyfreithiol ym maes y gyfraith
neu weinyddu cyhoeddus.  Fel arfer, bydd angen profiad o roi
tystiolaeth yn y llys a gwybodaeth ymarferol o'r gyfraith ynglŷn â
thrwyddedu cerbydau preifat sydd ar log.
Gobeithion a chyfleoedd yn y dyfodol
 Yn ôl pa mor fawr yw'r cyngor, bydd cyfle i gael eich
dyrchafu'n swyddog trwyddedu ac, wedyn, yn uwch swyddog trwyddedu
sy'n gyfrifol am waith nifer o swyddogion trwyddedu/gorfodi a staff
gweinyddu.  Mae'r galw yn y maes hwn yn cynyddu.
Rhagor o wybodaeth a gwasanaethau
 Sefydliad Breiniol y Gweithredwyr Cyfreithiol: www.ilex.org.uk 
 Cymdeithas y Swyddogion Trwyddedu a Gorfodi: www.naleo.org.uk 
 Cymdeithas y Gyfraith: www.lawsociety.org.uk/home.law
Mae modd cael rhagor o wybodaeth am y maes hwn trwy wefan
Gyrfaoedd Cymru (www.careerswales.com/)
y llyfrgell leol, swyddfa gyrfaoedd eich bro neu lyfrgell eich
ysgol.