Cyflwyniad
Prif ddiben cynllunwyr yw defnyddio tir ac adnoddau naturiol yn y
modd gorau wrth ddiogelu'r amgylchedd. Y gamp yw penderfynu a
ddylai'r tir gael ei ddefnyddio ar gyfer tai, diwydiannau,
manwerthu ac ati a gorfodi pawb i gadw at amodau cynllunio lle bo
angen a modd. Mae rhaid i gynllunwyr drin a thrafod
dyletswyddau a gofynion yn ôl Deddf 'Cynllunio Gwlad a Thref' a
deddfau cysylltiedig. Dylai'r rhai a hoffai godi adeilad,
datblygu tir neu newid ei ddibenion yn ardal awdurdod lleol gael
caniatâd yr awdurdod cynllunio lleol gyntaf oni bai bod modd bwrw
ymlaen yn unol â Gorchymyn Caniatáu Datblygu Cyffredinol Deddf
'Cynllunio Gwlad a Thref' 1995. Trwy gyfrwng y fframwaith
hwnnw y bydd swyddogion cynllunio'n cynorthwyo eu huwch swyddogion
ym mhob un o awdurdodau Cymru.
Amgylchiadau'r gwaith
A chithau'n swyddog cynllunio, byddwch chi'n treulio peth amser o
dan do - mewn swyddfa, yn bennaf, ond mewn ambell ganolfan
gymunedol neu neuadd dref pan fo achlysuron megis cyfarfodydd
cyhoeddus, hefyd - a pheth amser yn yr awyr agored i ymweld â
safleoedd beth bynnag fo'r tywydd. Byddwch chi'n gweithio yn
ôl yr oriau safonol fel arfer, er y gallai fod angen cwrdd â
phreswylwyr neu adeiladwyr y tu allan i oriau'r swyddfa
weithiau.
Gweithgareddau beunyddiol
Mae gweithgareddau swyddog cynllunio bob dydd yn ymwneud â diwallu
anghenion uwch swyddogion cynllunio a thrin a thrafod achosion
unigol. Er enghraifft:
- gwirio dilysrwydd ceisiadau sydd wedi'u cyflwyno a chydgysylltu
ag asiantau ac ymgeiswyr ynglŷn â'r wybodaeth sydd i'w chyflwyno
gyda chais, unrhyw wallau ac ati;
- gofalu bod ceisiadau'n ddilys, bod yr ymgynghori wedi cynnwys
pob un o'r bobl berthnasol, bod hysbysiadau perthnasol ar safleoedd
ac ati;
- ymchwil, gwerthuso ac adroddiadau ynglŷn â cheisiadau yn ôl y
targedau y cytunwyd arnyn nhw, fframwaith polisïau'r awdurdod a
chyfyngiadau'r safle;
- paratoi cynghorion i gwsmeriaid a hoffai gyflwyno
cais;
- cynghori cwsmeriaid dros y ffôn, trwy lythyr/ebost ac yn
bersonol ynglŷn â materion cynllunio a'r datblygu sydd wedi'i
ganiatáu;
- casglu, sganio a chofnodi gwybodaeth am ymholiadau cyn cyflwyno
cais a'r amryw geisiadau am ganiatâd cynllunio;
- cydweithio â chontractwyr, awdurdodau lleol, cyrff ac
asiantaethau allanol, ymgynghorwyr cynllunio, cynghorwyr,
adeiladwyr a'r cyhoedd;
- ychwanegu at ansawdd datblygu a dylunio trwy broses cyflwyno
ceisiadau am ganiatâd cynllunio;
- cydlynu a mynychu cyfarfodydd yn y ganolfan ddinesig ac ar
safleoedd i drin a thrafod cynigion datblygu, mynegi barn a negodi
newidiadau lle bo angen;
- gwirio ac asesu cynigion datblygu yn ôl y gyfraith ynglŷn ag
asesu effeithiau ar yr amgylchedd;
- monitro prosiectau sydd wedi'u cwblhau i ofalu eu bod wedi cadw
at amodau cynllunio;
- ymchwilio i unrhyw achosion a chyhuddiadau o dorri
amodau;
- cynorthwyo yn ystod proses cyflwyno apêl;
- cymryd camau gorfodi yn ôl yr angen (dan oruchwyliaeth uwch
swyddogion cynllunio).
Medrau a diddordebau
Dyma'r rhai pwysicaf:
- bod yn fanwl gywir;
- gallu trin a thrafod cyfrifiadur;
- gallu gweithio'n hyblyg gan ymateb i amryw geisiadau a'u
prosesu nhw yn ôl amserlen benodol;
- cyfathrebu'n dda â phobl o bob lliw a llun - gan esbonio
materion cynllunio mewn modd eglur a chryno yn ogystal â llunio
adroddiadau;
- gallu gweithio'n dda mewn tîm;
- agwedd dringar, negodi'n dda a gallu pwyso a mesur amryw
safbwyntiau;
- gallu darllen, deall ac esbonio cynlluniau a chynigion;
- diddordeb ym mhob rhan o'r amgylchedd - gwledig a threfol fel
ei gilydd;
- gallu rheoli amser yn effeithiol a phrosesu ceisiadau, ateb
llythyrau, ffonio pobl yn ôl ac ati yn ôl y targedau
perthnasol;
- trwydded yrru.
Meini prawf derbyn
I fod yn swyddog cynllunio, mae angen cymhwyster cydnabyddedig
megis Diploma Cenedlaethol Uwch, Tystysgrif Genedlaethol Uwch a
Chymhwyster Galwedigaethol Cenedlaethol (Lefel 4) ym maes cynllunio
trefol neu bwnc cysylltiedig. Ar y llaw arall, byddai gradd
neu ddiploma ym maes cynllunio neu gyfuniad o wybodaeth am y maes
hwn a rhai blynyddoedd o brofiad ynddo yn dderbyniol. Rhaid
dangos eich bod chi'n gyfarwydd â threfn y cynllunio a'r deddfau
sy'n berthnasol iddi, yn arbennig y rhai sy'n ymwneud â rheoli
datblygu.
Gobeithion a chyfleoedd yn y dyfodol
Mae trefn ddyrchafu mewn adrannau cynllunio a chyfleoedd i fod yn
uwch swyddog er y gallai fod angen i symud i awdurdod arall i gael
eich dyrchafu. Mae swyddi y tu allan i fyd llywodraeth leol,
hefyd. Fe gewch chi ymuno â'r Sefydliad Brenhinol dros
Gynllunio Trefi ar ôl ei fodloni bod gyda chi'r cymwysterau a'r
profiad perthnasol (fel arfer, un o'r cymwysterau sydd wedi'u
crybwyll uchod ac o leiaf ddwy flynedd wrth y gwaith). Mae
modd cael hyfforddiant i fod yn gynlluniwr proffesiynol, hefyd.
Rhagor o wybodaeth a gwasanaethau
Sefydliad Brenhinol y Cynllunio Trefi: www.rtpi.org.uk
Cymdeithas y Swyddogion Cynllunio: www.planning officers.org.uk
Cewch chi ragor o wybodaeth am y maes hwn trwy gysylltu â
Gyrfaoedd Cymru (www.careerswales.com/), y
llyfrgell gyhoeddus, swyddfa'r gyrfaoedd neu lyfrgell gyrfaoedd
eich ysgol.