Cyflwyniad
 Mae cynorthwywyr domestig yn helpu pobl â thasgau yn y
cartref.  Cyflogir cynorthwywyr domestig gan adrannau
gwasanaethau cymdeithasol awdurdodau lleol yng Nghymru a Lloegr.
Drwy gynnig gwasanaeth domestig i bobl sydd mewn angen, maent yn
galluogi pobl i aros yn eu cartrefi a bod mor annibynnol â
phosibl.  Mae eu cleientiaid yn aml yn bobl hŷn neu'n bobl ag
anableddau corfforol a meddyliol nad ydynt yn gallu gofalu am eu
hunain ac y byddai'n rhaid iddynt fynd i ysbyty neu ofal preswyl
heb gymorth o'r fath.
Amgylchedd Gwaith
 Rhoddir 'grŵp' o gleientiaid i gynorthwywyr domestig sy'n golygu
eu bod yn dod i nabod eu cleientiaid unigol yn dda iawn. Maent yn
ymweld â phobl yn eu cartrefi ac yn cyflawni tasgau domestig
angenrheidiol, a gallant fynd i'r siopau lleol ar eu rhan. 
Gallant hefyd fynychu cyfarfodydd a chyrsiau hyfforddi gyda
chydweithwyr yn swyddfeydd y cyngor.
Oherwydd risgiau iechyd, cynigir dillad ac offer arbennig -
menig, tabardau, tortshis, larymau diogelwch personol a dyfeisiau
cylched gweddilliol (i'w defnyddio gyda chyfarpar
trydanol). 
Gall yr oriau fod yn hyblyg; unrhyw beth o 10 i 37 awr yr
wythnos, yn dibynnu ar anghenion y gwasanaeth ac amgylchiadau
deiliad y swydd.  Fel arfer mae'r gwasanaeth ar gael rhwng
8.00am a 5.00pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.  Efallai y bydd
angen gweithio ar benwythnosau o bryd i'w gilydd.
Gweithgareddau Dyddiol
 Mae cynorthwywyr domestig yn helpu cleientiaid i fyw mor
annibynnol â phosibl.  Ymysg eu dyletswyddau mae glanhau,
newid dillad gwely, golchi, siopa neu fynd â'r cleient i siopa, a
pharatoi prydau bwyd.  Caiff unrhyw faterion iechyd a
diogelwch, megis offer trydanol ac offer coginio, eu profi yn yr
asesiad risg cychwynnol o'r cleient a'i gartref.  Cyfrifoldeb
y cynorthwy-ydd domestig yw adrodd unrhyw ddiffygion neu
atgyweiriadau angenrheidiol i'r rheolwr gofal cartref.
Sgiliau a Galluoedd
 Mae angen y sgiliau canlynol:
- sgiliau cyfathrebu;
 
- y gallu i ddeall anghenion pobl;
 
- y gallu i goginio a glanhau'n effeithiol;
 
- y gallu i weithio ar eich liwt eich hun ac yn rhan o dîm;
 
- ffitrwydd corfforol.
 
Gofynion Mynediad
 Nid oes unrhyw gymwysterau mynediad penodol ar gyfer y
swydd.  Mae nodweddion personol yn aml yn bwysicach (gweler
uchod).  Mae rhai cynghorau'n cynnig hyfforddiant sy'n arwain
at unedau NVQ/SVQ mewn Gofal.  Rhoddir hyfforddiant ar
hylendid bwyd, paratoi bwyd, cymorth cyntaf a chodi a chario.
Cyfleoedd yn y Dyfodol
 Mae'n bosibl symud o swydd fel cynorthwy-ydd domestig i fod yn
gynorthwy-ydd gofal cartref.  Mae hyn fel arfer yn dibynnu ar
gyfweliad ac asesiad cymhwysedd, a gall arwain at hyfforddiant
pellach at NVQ/SVQ Lefel 2 mewn Gofal Uniongyrchol.
Rhagor o Wybodaeth a Gwasanaethau
 Cyngor Gofal Cymru www.ccwales.org.uk
 Gofal Cymunedol 
 Gwirfoddolwyr Gwasanaethau Cymunedol www.csv.org.uk/socialhealthcare
 Yr Adran Iechyd www.dh.gov.uk
 Cyngor Iechyd a Phroffesiynau Gofal www.hpc-uk.org
 Asiantaeth Cartrefi a Chymunedau www.homesandcommunities.co.uk
 Sgiliau Gofal www.skillsforcare.org.uk
 Cymdeithas Gofal Cymdeithasol www.socialcareassociation.co.uk
Gallwch gael rhagor o wybodaeth am y maes gwaith hwn drwy Yrfa
Cymru (www.gyrfacymru.com)
neu yn eich llyfrgell leol, swyddfa gyrfaoedd neu lyfrgell
gyrfaoedd eich ysgol.