Adeiladu eich cymuned

Cyflwyniad
Mae trydanwyr yn gyfrifol am osod a chynnal systemau trydanol ac electronig yn ddiogel.  Mewn awdurdodau lleol, maen nhw'n gwneud gwahanol fathau o waith:

  • gosod systemau weirio ac offer mewn adeiladau newydd (ac wrth ail wampio adeiladau);
  • gosod a chynnal systemau weirio ac offer mewn eiddo sy'n bodoli eisoes;
  • gosod a chynnal goleuadau stryd ac offer cysylltiedig
    Mae awdurdodau lleol yn gallu eu cyflogi'n uniongyrchol, neu gwmniau o gontractwyr sy'n gwneud gwaith ar ran awdurdodau lleol. Mae amryw o adrannau mewn awdurdodau lleol sydd angen gwasanaethau'r trydanwyr. Mae adrannau gwasanaethau eiddo ac adrannau tai angen trydanwyr i osod a chynnal a chadw; mae'r adrannau priffyrdd yn cyflogi trydanwyr ars gyfer goleuadau stryd. Mae tua 8,000 o drydanwyr yn gweithio i awdurdodau lleol.

Amgylchedd Waith
Gwaith Trydanwyr:

  • ar safleoedd adeiladu;
  • mewn adeiladau mewn defnydd, gwneud gwaith cynnal a chadw a thrwsio (gallen nhw fod yn gweithio, er enghraifft, mewn tai cyngor, ysgolion neu gartrefi hen bobl);
  • ar briffyrdd cyhoeddus, yn gosod a thrwsio goleuadau stryd.
    Mae'r amodau gwaith yn gallu bod yn oer, yn damp ac yn llychlyd. Efallai y bydd yn rhaid gweithio mewn mannau cyfyng ac uchel. Mae'r gwaith yn golygu teithio i wahanol safleoedd. Mae trydanwyr yn gwisgo dillad amddiffynnol, gan gynnwys oferôls, hetiau caled ac esgidiau gyda blaenau dur.

Gweithgareddau Pob Dydd
Mae trydan yn gallu bod yn beryglus ac mae'n rhaid cael ymarferion gweithio diogel.  Fel arfer mae trydanwyr yn gosod systemau weirio newydd mewn adeiladau cyn eu cysylltu â'r cyflenwad trydan. Yn gweithio o luniadau penseiri neu gontractwyr, maen nhw'n gosod rhan gyntaf y system weirio, sy'n cael ei adnabod fel y 'first fix'. Yna, unwaith y bydd y plastro wedi'i gwblhau, daw'r 'second fix', sy'n cysylltu'r gwaith weirio â'r gosodiadau golau, socedi, switshis ayb.  Wrth ail wampio adeiladau, mae trydanwyr yn  cychwyn drwy dynnu'r hen wifrau ac yna gosod rhai modern yn eu lle. Mae'r holl waith weirio, cysylltiadau ac offer yn cael eu profi cyn eu cysylltu â'r prif gyflenwad trydan.

Mae gwaith cynnal a chadw a thrwsio ar eiddo sy'n bodoli eisoes yn cynnwys yn gyntaf ynysu'r cyflenwad trydan. Drwy ddefnyddio offer profi arbennig, mae trydanwyr yn canfod namau ac yna'n eu hatgyweirio.

Mae trydanwyr goleuadau stryd yn gweithio o gerbyd sydd â lifft yn rhan ohono, ac ar lefel y ddaear. Maen nhw'n gyrru i nifer o safleoedd pob dydd. Mae trwsio goleuadau stryd yn cynnwys profi'r cylched, gwneud diagnosis a thrwsio'r nam. Mae gosod goleuadau stryd newydd yn cynnwys weirio postyn lamp newydd, gosod y llusern a chysylltu â'r cyflenwad.  Mae trydanwyr yn defnyddio nifer o fathau o offer profi trydanol ac amrywiaeth o offer llaw (wedi'u hinsiwleiddio'n arbennig at ddibenion diogelwch).  37 awr yr wythnos Llun i Gwener yw'r wythnos gwaith sylfaenol.

Sgiliau a Diddordebau
Mae trydanwyr angen:

  • Bod yn dda eu llaw ac yn gallu defnyddio gwahanol offer
  • Bod yn drefnus ac yn amyneddgar - i wneud diagnosis a phrofi am namau trydanol
  • Yn dwt ac yn daclus, yn enwedig wrth weithio mewn eiddo lle mae pobl yn byw 
  • Lefel rhesymol o ffitrwydd corfforol, gan y gallai'r gwaith gynnwys ymestyn, plygu, penlinio a sefyll am gyfnodau hir.
    Dylen nhw allu gweithio ar eu pen eu hunain, heb oruchwyliaeth uniongyrchol ac mewn tȋm bach.

Cymwysterau Mynediad i'r Swydd
Mae'r rhan fwyaf o ymgeiswyr yn dechrau trwy gymryd Prentisiaeth. Mae pedwar TGAU graddau A - C mewn mathemateg, Saesneg a gwyddoniaeth yn arwydd da o addasrwydd, ond nid yn hanfodol bob amser. Mae'n rhaid i ymgeiswyr lwyddo yn y drefn ddewis a gallu gweld lliwiau'n iawn.  Mae Prentisiaeth Uwch, sy'n arwain at NVQ Lefel 3, yn parhau fel arfer am bedair blynedd ac yn cynnwys hyfforddiant mewn coleg a phrofiad ymarferol mewn swydd.  Mae'n bosibl mynd am Brentisiaeth ar ôl cymryd lefel A (mae ffiseg yn arbennig o ddefnyddiol), neu ar ôl GNVQ e.e yn yr amgylchedd adeiledig, gwyddoniaeth neu fusnes. Yn aml, ystyrir trwydded yrru ddilys yn hanfodol.  Mae llwyddo i gwblhau Prentisiaeth Uwch neu NVQ lefel 3 yn golygu fod y deilydd yn gymwys fel trydanwr. Mae dwy flynedd bellach o brofiad yn arwain at raddfa 'trydanwr cymeradwy'.

Rhagolygon a chyfleoedd ar gyfer y dyfodol
Mae trydanwr cymeradwy'n gallu dod yn weithiwr mewn gofal neu fforman/wraig, yn gyfrifol am drefnu tȋm. Yna, mae dyrchafiad yn gallu arwain at swydd 'technegydd', y gallai fod angen hyfforddiant a chymwysterau ychwanegol ar ei chyfer.

Mae datblygiad pellach yn bosibl trwy astudio am gymwysterau megis HND, gradd neu NVQ lefel uwch. Mae'r rhain yn gallu arwain yn y pendraw at swydd fel peiriannydd trydanol neu electronig.  Mae'n bosibl i symud o swyddi gydag awdurdodau lleol i rai gyda chontractwyr preifat a vice-versa.

Summit Skills www.summitskills.org.uk
Sgiliau Ynni a Chyfleustodau www.euskills.co.uk
Gwybodaeth prentisiaeth www.apprenticeships.org.uk

Mae Gyrfa Cymru wedi cynhyrchu erthygl Sbotolau ar yrfaoedd ym maes adeiladu: https://www.careerswales.com/cy/golwg-ar-adeiladu/

Mae modd cael rhagor o wybodaeth am y maes hwn trwy wefan Gyrfaoedd Cymru (www.careerswales.com/) y llyfrgell leol, swyddfa gyrfaoedd eich bro neu lyfrgell eich ysgol.

Related Links