Cyflwyniad
Mae'r cynghorau lleol yn berchen ar nifer sylweddol o
adeiladau. Mae technolegwyr pensaernïol yn gweithio ar y cyd
â phenseiri ynglŷn ag elfennau technegol adeiladau, yn bennaf - yn
hytrach na'r llunio.
Amgylchiadau'r gwaith
Mae technolegwyr pensaernïol yn gweithio yn swyddfeydd y cyngor er
y bydd angen mynd i gyfarfodydd, cynnal arolygon ac ymweld â
safleoedd weithiau, hefyd. Ar y safleoedd adeiladu, rhaid
gwisgo het galed a dillad diogelu. 37 awr yw'r wythnos
safonol, fel arfer.
Gweithgareddau beunyddiol
Yn aml, bydd technolegwyr pensaernïol yn gweithio mewn prosiectau
yn rhan o dîm ynghyd â phenseiri, peirianwyr trydanol, mecanyddol a
strwythurol a dylunwyr y tu mewn.
Bydd y gwaith yn amrywio yn ôl natur y cyngor ond mae awdurdodau
unedol Cymru yn berchen ar amrywiaeth helaeth o adeiladau megis
tai, ysgolion, sefydliadau gofal preswyl, canolfannau oriau dydd,
orielau celf, llyfrgelloedd ac adeiladau cyhoeddus.
Efallai y bydd technolegydd pensaernïol yn ymwneud â phrosiect
o'r cyfarfod cyntaf â chlient hyd adeg cyflwyno adeilad
gorffenedig. Y camau cyntaf yw cwrdd â'r client i drafod y
gofynion a'r gyllideb, ystyried goblygiadau cyfreithiol a
chynllunio, a pharatoi cynllun. Ar ôl i'r client dderbyn y
cynllun bras, fe fydd y technolegwyr yn paratoi rhai manylach o
lawer sy'n pennu'r mesuriadau, y deunyddiau a'r dodrefn. Yna,
byddan nhw'n rheoli gweithwyr adeiladu ac yn ymweld â'r safle yn
aml i ofalu bod y gwaith yn dderbyniol. Byddan nhw'n
cydweithio'n agos â pheirianwyr, mesurwyr maint, rheolwyr adeiladu,
dylunwyr y tu mewn ac, weithiau, penseiri tirlunio.
Ar y llaw arall, pensaer allai wneud y gwaith dechreuol a
pharatoi cynllun yr adeilad. Byddai technolegydd pensaernïol
yn rhan o dîm y prosiect ac yn cyfrannu yn ystod y cyfarfodydd
datblygu, ond dim ond pan fo angen paratoi gwybodaeth y byddai ei
waith yn dechrau, mewn gwirionedd. O'r adeg honno, gallai
naill ai'r pensaer neu'r technolegydd reoli'r prosiect.
Mae rhai technolegwyr pensaernïol yn arbenigo mewn mathau
penodol o adeiladau - megis ysgolion - ac yn cydweithio'n agos ag
athrawon ac ymgynghorwyr addysgol ynglŷn â'r gofynion. Gallai
fod arnyn nhw gyfrifoldebau arbennig yn eu hadrannau hefyd, megis
cynnal ymchwil i newidiadau cyfreithiol ym maes adeiladu a hysbysu
cydweithwyr am y rheiny.
Medrau a diddordebau
Dyma'r rhai hanfodol:
- diddordeb mewn dylunio;
- gallu dehongli cynlluniau pobl eraill;
- gallu tynnu lluniau technegol;
- medrau mathemategol;
- gallu datrys problemau;
- gwybod technoleg adeiladu;
- gwybod y deddfau a'r rheoliadau ym maes adeiladu;
- medrau cyfathrebu ardderchog a'r gallu i esbonio gwybodaeth
dechnegol a phroblemau dylunio i bobl eraill;
- gallu gweithio'n dda mewn tîm.
Meini prawf derbyn
Bydd rhai cynghorau'n cyflogi graddedigion sydd wedi astudio
technoleg bensaernïol. Mae 27 prifysgol yn y Deyrnas Gyfunol
yn cynnig cyrsiau sydd wedi'u cymeradwyo gan Sefydliad Breiniol y
Technolegwyr Pensaernïol. Ar y llaw arall, gallai cynghorau
gyflogi rhai sydd wedi ennill Uwch Dystysgrif Genedlaethol ym maes
adeiladu. Gallai fod modd ymuno â'r cyngor yn weithiwr o dan
hyfforddiant a naill ai astudio ar gyfer cymhwyster galwedigaethol
cenedlaethol neu fwrw prentisiaeth. Ar ben hynny, mae
cymhwyster newydd ar gyfer technegwyr pensaernïol bellach.
Dyma rôl wahanol ac mae rhagor o wybodaeth gan Sefydliad Breiniol y
Technolegwyr Pensaernïol.
Gobeithion a chyfleoedd yn y dyfodol
Mewn cyngor bychan, gallai fod un neu ddau dechnolegydd.
Gallai fod mewn cyngor mawr ryw 20. Mae modd cyrraedd swyddi
uchelradd sy'n ymwneud â rheoli staff.
Rhagor o wybodaeth a gwasanaethau
Bwrdd Cofrestru'r Penseiri: www.arb.org.uk
CADW www.cadw.wales.gov.uk
Sefydliad Breiniol Technolegwyr Pensaernïol: www.ciat.org.uk
Medrau Adeiladu: www.citb.co.uk
Cyngor Archeoleg Prydain: www.britarch.ac.uk
Medrau Creadigol a Diwylliannol: www.cciskills.org.uk
Sefydliad Brenhinol Penseiri Prydain: www.architecture.com
Gallai fod rhagor o wybodaeth ar wefan Gyrfaoedd Cymru
(www.careerswales.com/), yn llyfrgell eich bro neu yn
swyddfa/llyfrgell gyrfaoedd eich ysgol.
Mae Gyrfa Cymru wedi cynhyrchu Sbotolau erthygl ar yrfaoedd mewn
STEM (gwyddoniaeth, technoleg, peirianneg a mathemateg): https://www.careerswales.com/cy/golwg-ar-stem/ ac adeiladu:
https://www.careerswales.com/cy/golwg-ar-adeiladu/