Cyflwyniad
Mae syrfewyr siartredig sy'n gweithio mewn llywodraeth leol yn
gyfrifol am reoli, gwerthuso, datblygu a mesur tir, eiddo ac
adeiladau. Rhyw 8,000 sy'n cael eu cyflogi mewn llywodraeth
leol ar draws y D.U., a byddant yn gweithio i bob math o
awdurdodau.
Amgylchedd Gwaith
Er y bydd syrfewyr yn treulio rhywfaint o amser ar safleoedd
allanol, byddant ran fynychaf yn y swyddfa'n ysgrifennu
adroddiadau, yn gweinyddu ac yn darparu cynlluniau. Bydd
disgwyl iddynt deithio i gyfarfodydd hefyd, o bryd i'w gilydd.
Gweithgareddau Dyddiol
- Bydd syrfewyr adeiladau'n gyfrifol am gynnal a chadw, trwsio a
gwella pob math o eiddo sy'n perthyn i'r cyngor. Bydd rhai
syrfewyr adeiladau'n arbenigo mewn gweinyddu rheoliadau iechyd
cyhoeddus, is-ddeddfau a grantiau gwella.
- Bydd syrfewyr meintiau'n rheoli costau prosiectau adeiladu a
pheirianegol y cyngor - o'r gwaith cynllunio hyd ddiwedd y
prosiect. Bydd pob darn o waith fel arfer yn cael ei osod ar
gynnig, a'r syrfewyr meintiau'n ei archwilio ac yn cynghori'r
cyngor ynglŷn ag agweddau technegol ar y prosiect. Byddant
hefyd yn gweithredu ar ran y cyngor pan fydd ceisiadau'n cael eu
gwneud am grantiau neu gymorthdaliadau ar gyfer gwaith gwella
penodol.
- Bydd tirfesurwyr yn mesur ac yn nodi union le nodweddion tir ar
gyfer mapiau a chynlluniau. Gan ddefnyddio offer manwl,
byddant hefyd yn cydweithio â mapwyr proffesiynol eraill i
ddadansoddi a dehongli mapiau, darparu data a chynghori ynglŷn â
materion technegol.
- Bydd syrfewyr prisio'n trafod telerau gwerthu, prynu a
phrydlesi ac yn cynghori'r awdurdod ynglŷn â gwerth tai, tir,
swyddfeydd, siopau a safleoedd diwydiannol a masnachol.
- Bydd syrfewyr cynllunio a datblygu'n arbenigo mewn pob math o
waith cynllunio trefol a gwledig ac yn penderfynu sut y dylid
defnyddio tir ac eiddo.
- Bydd syrfewyr technegol yn cydweithio â syrfewyr siartredig, er
mwyn llunio adroddiadau a chwilio am wybodaeth.
Sgiliau a Diddordebau
Mae angen meddwl trefnus a rhesymegol a gallu i drin rhifau a
lluniadu'n fanwl ar gyfer bod yn syrfëwr. Bydd disgwyl i chi
allu cyfathrebu a chyd-dynnu'n dda â phobl eraill (aelodau o'r
cyhoedd, cydweithwyr proffesiynol eraill, adeiladwyr, contractwyr
ac ati. Bydd disgwyl hefyd i chi allu gweithio fel rhan o dîm
amlddisgyblaethol, dibynnu ar eich adnoddau eich hun a gweithio yn
yr awyr agored.
Gofynion Derbyn
Nod yr hyfforddiant proffesiynol yw eich cymhwyso ar gyfer
aelodaeth gorfforaethol o Sefydliad Brenhinol y Syrfewyr
Siartredig. Er mwyn cofrestru, bydd angen gradd a'r
cymwysterau derbyn canlynol: pum TGAU/Gradd Safonol (graddau A-C) a
dwy Safon Uwch/Radd Uwch neu gymhwyster cyfatebol. Os oes
gennych radd gydnabyddedig berthnasol (mewn arolygu meintiau neu
reoli stadau, er enghraifft) bydd angen o leiaf dwy flynedd o
brofiad gwaith strwythuredig arnoch hefyd. Os nad yw eich
gradd yn berthnasol, bydd disgwyl i chi ddilyn cwrs cydnabyddedig
ar gyfer graddedigion un ai am flwyddyn (amser llawn) ynteu dwy
flynedd (rhan-amser).
Bydd angen un ai tystysgrif o'r Cyngor Addysg Busnes a
Thechnoleg neu Awdurdod Cymwysterau'r Alban ynteu Tystysgrif neu
Ddiploma Cenedlaethol Uwch mewn pwnc perthnasol fel eiddo, yr
amgylchedd adeiledig neu adeiladu, o leiaf, er mwyn cael eich
derbyn. Os mynnwch, cewch ddysgu bod yn syrfëwr technegol -
am fwy o wybodaeth am hyn, cysylltwch â Sefydliad Brenhinol y
Syrfewyr Siartredig. Ar ôl dod yn syrfëwr technegol, bydd y
ffordd yn glir wedyn i chi symud ymlaen at gwrs syrfewyr
siartredig.
Rhagolygon a Chyfleoedd yn y dyfodol
Bydd syrfewyr yn cael eu cyflogi'n helaeth ar draws llywodraeth
leol. Serch hynny, y mae mwy o gyfle arbenigo mewn awdurdodau
mawr.
Rhagor o Wybodaeth a Gwasanaethau
Sefydliad Brenhinol y Syrfewyr Siartredig www.rics.org
Sgiliau Adeiladu www.citb.co.uk
Mae Gyrfa Cymru wedi cynhyrchu erthygl Sbotolau ar yrfaoedd ym
maes adeiladu: https://www.careerswales.com/cy/golwg-ar-adeiladu/
Cewch fwy o wybodaeth am y maes hwn, drwy gysylltu â Gyrfa Cymru
(www.careerswales.com/)
eich llyfrgell leol, eich swyddfa yrfaoedd neu lyfrgell yrfaoedd yr
ysgol.