Syrfëwr adeiladau

Cyflwyniad
Mae gan bob awdurdod lleol fuddsoddiad sylweddol mewn eiddo tiriog - tir, eiddo ac adeiladau - ac mae angen iddo gael ei reoli gan y syrfëwr siartredig. Pan fydd galwad am fynediad i gadeiriau olwyn mewn adeilad cyhoeddus neu gais am ganiatâd cynllunio er mwyn adeiladu archfarchnad ar dir cyhoeddus, bydd y syrfëwr wrth wraidd y mater. Ceir syrfëwr arbenigol ar gyfer pob un o'r swyddogaethau canlynol:

  • adeiladau;
  • meintiau;
  • mesur tir;
  • prisio;
  • cynllunio a datblygu;
  • arolygon technegol i gefnogi'r syrfëwr siartredig.

Mae'r cyntaf o'r rhain, syrfewyr adeiladau, yn gyfrifol am gynnal a chadw, atgyweirio a gwella holl eiddo'r cyngor ac mae'r swydd i'w chanfod ym mhob math o awdurdod. Maent yn rhan o'r Gwasanaethau Ymgynghori Adeiladau.

Amgylchedd Gwaith
Mae syrfewyr yn treulio tua hanner eu hamser ar safleoedd yn yr awyr agored ac yn mynd i gyfarfodydd allanol, ac maent hefyd yn gweithio mewn swyddfa yn ysgrifennu adroddiadau, gwneud gwaith gweinyddol a pharatoi cynlluniau. Darperir dillad amddiffynnol ar gyfer ymweliadau â safleoedd.

Gweithgareddau Dyddiol
Mae syrfewyr adeiladau yn gweithio mewn tîm, yn monitro ac yn cynnal a chadw eiddo'r cyngor. Maent yn arbenigo mewn cynnal a chadw eiddo'r cyngor a sicrhau bod yr holl asedau cyhoeddus mewn cyflwr da, eu bod addas at ddiben darparu gwasanaeth a'u bod yn cydymffurfio â'r ddeddfwriaeth. Maent yn atebol i bennaeth y gwasanaethau ymgynghori adeiladau ac yn gweithio dan arweiniad y prif syrfëwr i sicrhau gwasanaeth effeithiol a darbodus i drigolion yr ardal leol. Bydd hyn yn cynnwys rhoi cyngor am ddeddfwriaeth gysylltiedig o fewn fframwaith o fodlonrwydd cwsmeriaid. Mae defnyddio meddalwedd cyfrifiadurol yn rhan fawr o'r gwaith. Mae gan syrfewyr adeiladau gyfrifoldeb llawn am y canlynol:

  • asesu cyflwr adeilad a darparu manylebau manwl ar gyfer gwaith cysylltiedig; 
  • archwilio gwaith adeiladu a chymryd camau ynglŷn â: rheoli contractau; cydymffurfiad â deddfwriaeth; gwaith dymchwel; sgaffaldiau a ffensys; tân/ynni, neu faterion diogelwch cyhoeddus eraill; mynediad i bobl anabl; 
  • marchnata a hyrwyddo'r gwasanaeth; 
  • ysgrifennu cofnodion ac adroddiadau manwl a chywir; 
  • gweithredu mentrau newydd sydd wedi eu cynllunio i wella ansawdd y gwasanaeth; 
  • cymryd rhan mewn gwerthusiadau datblygu staff; 
  • hyfforddi staff newydd mewn swyddi syrfewyr adeiladau neu swyddi technegwyr; 
  • bod wrth law i ddarparu unrhyw wasanaeth 'y tu allan i oriau swyddfa' i ymdrin ag argyfyngau mawr.

Sgiliau a Diddordebau
I wneud y swydd hon yn dda rhaid i chi:

  • fod yn berson deinamig a threfnus iawn sy'n gallu rheoli eich amser eich hun a llwythi gwaith a bodloni terfynau amser; 
  • bod â sgiliau rhyngbersonol da, a gallu gweithio ar eich liwt eich hun; 
  • bod â sgiliau cyfathrebu a sgiliau ymdrin â chwsmeriaid; 
  • gallu gweithio dan bwysau; 
  • bod â sgiliau bysellfwrdd da; 
  • bod â gwybodaeth ymarferol dda am reoliadau adeiladu a deddfwriaeth gysylltiedig;
  • bod â gwybodaeth ymarferol am gronfeydd data; 
  • bod yn frwdfrydig, hyblyg, cwrtais, yn barod i gynorthwyo cwsmeriaid ac yn gallu cymell eich hun; 
  • bod â dull rhagweithiol o ddatblygu technegau newydd; 
  • gallu gweithio'n gytûn mewn tîm.

Gofynion Mynediad
Y gofynion mynediad isaf yw BTEC/SQA HNC/D mewn pwnc perthnasol megis eiddo, yr amgylchedd adeiledig neu adeiladu.  Neu, dylai fod gennych radd BSc mewn pwnc cysylltiedig ag adeiladu neu gymhwyster cydnabyddedig cysylltiedig ag adeiladu, neu fod yn gweithio tuag at radd neu gymhwyster o'r fath.  Dylai fod gennych o leiaf blwyddyn o brofiad o weithio mewn swyddfa arolygu adeiladau a bod yn hyderus i ddefnyddio rhaglenni Microsoft Office. Yn ddelfrydol, bydd gennych brofiad o AutoCAD ac NBS.  Mae rhai colegau yn cynnig Prentisiaethau mewn Arolygu Adeiladu.

Cyfleoedd a gobeithion yn y dyfodol
Cyflogir syrfewyr yn eang drwy lywodraeth leol ac mae llawer o gyfleoedd i arbenigo mewn canghennau eraill o'r swydd, yn enwedig mewn awdurdodau mwy. Gallwch fynd i fyny'r graddau o fewn y swydd gyda rhagor o gymwysterau a phrofiad. Y cam nesaf i fyny yw prif syrfëwr. Mae hyfforddiant proffesiynol yn arwain at aelodaeth gorfforaethol o Sefydliad Brenhinol y Syrfëwyr Siartredig (RICS).  Swyddi eraill i anelu atynt yw Technegydd Arolygu, Pensaer a Thechnolegydd Pensaernïol.

Swyddi Perthynol
Dilynwch y ddolen hon i weld rhestr o'r holl alwedigaethau perthynol yn Building Your Community.  Neu, dilynwch y ddolen hon i weld yr holl broffiliau gyrfa sydd wedi eu gosod yn y maes swyddi hwn.

Mwy o Wybodaeth a Gwasanaethau
Sefydliad Brenhinol y Syrfëwyr Siartredig (RICS) www.rics.org
Sefydliad Prydeinig y Technolegwyr Pensaernïol www.ciat.org.uk
Sgiliau Adeiladu www.citb.co.uk
Gwybodaeth am brentisiaethau www.apprenticeships.org.uk

Mae modd cael rhagor o wybodaeth am y maes hwn trwy wefan Gyrfaoedd Cymru (www.careerswales.com/) y llyfrgell leol, swyddfa gyrfaoedd eich bro neu lyfrgell eich ysgol.

Mae Gyrfa Cymru wedi cynhyrchu Sbotolau erthygl ar yrfaoedd mewn STEM (gwyddoniaeth, technoleg, peirianneg a mathemateg): https://www.careerswales.com/cy/golwg-ar-stem/ ac adeiladu: https://www.careerswales.com/cy/golwg-ar-adeiladu/

Related Links