Swyddog rheoli adeiladu

Adeiladu'ch cymuned

Cyflwyniad
Mae swyddogion rheoli adeiladu yn gweithio ym maes adeiladu i ofalu bod pawb yn cadw at y rheoliadau ynglŷn ag iechyd y cyhoedd, diogelwch, arbed ynni a mynediad i bobl anabl. Mae tua 3,000 o swyddogion rheoli adeiladu'n gweithio ym myd llywodraeth leol neu mewn cyrff arolygu cymeradwy ledled y DG.

Amgylchiadau'r gwaith
Bydd y swyddogion yn treulio peth amser yn y swyddfa i ysgrifennu adroddiadau a gofalu bod cynlluniau'n cyd-fynd â rheolau adeiladu ac yn treulio gweddill yr amser ar amryw fathau o safleoedd adeiladu, gan arolygu'r gwaith yno yn rheolaidd i ofalu bod yr adeiladwyr yn cadw at y rheoliadau.

Gweithgareddau beunyddiol
Mae angen sêl eu bendith ar y rhan fwyaf o adeiladau newydd ac addasiadau o ran rheoliadau adeiladu.  I gael sêl bendith o'r fath ynghyd â chaniatâd cynllunio, rhaid cyflwyno cais i'r awdurdod lleol neu arolygydd preifat cymeradwy ym maes rheoli adeiladu.  Unwaith bod yr awdurdod yn fodlon bod y cynllun yn unol â rheoliadau adeiladu a bod caniatâd wedi'i roi i fwrw ymlaen â'r prosiect, rôl swyddogion rheoli adeiladu yw arolygu'r gwaith ar adegau penodol.  Yn ogystal â'r gorfodi ynglŷn â rheoliadau adeiladu a materion iechyd a diogelwch, gall swyddogion roi cyngor am nifer o faterion i helpu'r adeiladwyr i arbed arian ac amser.

Mae gyda nhw hawl i erlyn adeiladwyr a phobl gysylltiedig eraill os nad yw'r gwaith yn cyd-fynd â rheoliadau adeiladu, er mai dim ond ar ôl i bopeth arall fethu y byddan nhw'n gwneud hynny, fel arfer.  Byddan nhw'n cynnal y rhan fwyaf o arolygiadau ar y safle tra bo'r adeiladu'n mynd rhagddo.  Gall swyddogion rheoli adeiladu edrych ar brosiectau o bob math boed estyn cegin neu ailadeiladu canol y dref.  Fel arfer, fe fyddan nhw'n cofnodi'r cynnydd ym mhob prosiect ac yn rhoi tystysgrif ar ôl iddo ddod i ben.

Er bod y rhan fwyaf o waith yn ymwneud ag adeiladu, bydd adran rheoli adeiladu'r cyngor yn rhoi caniatâd i ddymchwel adeilad ac yn archwilio'r rhai y gallai eu cyflwr fod yn beryglus.  Mae'n bosibl y byddan nhw'n gwneud hynny yn sgîl sylwadau pobl y fro, swyddogion tân neu blismyn sydd o'r farn bod adeilad yn beryglus neu ei fod yn wan yn sgîl damwain, tân neu dywydd garw.  Mae hynny'n tueddu i ddigwydd yn aml ar ôl stormydd a thywydd eithriadol.

Medrau a diddordebau
Rhaid bod yn gyfarwydd â phob elfen o adeiladu yn ogystal â rheoliadau a deddfau cymhleth y maes hwnnw.  Mae angen gwybodaeth dechnegol er mwyn siarad yn hyderus â phenseiri, asiantau/rheolwyr safleoedd adeiladu, adeiladwyr a'r cyhoedd.  Mae'r gallu i gyfathrebu'n dda (ar lafar a thrwy lythyr fel ei gilydd), ynghyd â medrau trefnu a gweinyddu rhagorol, yn hanfodol.  At hynny, mae eisiau diddordeb ym maes adeiladu, y gallu i drin a thrafod pobl a ffordd resymegol o ddatrys problemau.

Meini prawf ymgeisio
Mae angen o leiaf bum TGAU (gradd C neu'n uwch) gan gynnwys mathemateg, un o'r gwyddorau a thystiolaeth o'ch gallu yn y Saesneg.  Bydd sawl cyflogwr yn mynnu gradd prifysgol, fodd bynnag.  Mae ffordd amgen trwy Gymhwyster Galwedigaethol Cenedlaethol 'Rheoli Adeiladu' (Lefel 4).

Bydd cyfnod yr hyfforddi'n amrywio yn ôl eich cefndir.  Os nad oes gradd prifysgol gyda chi, byddwch chi'n dilyn cwrs astudiaethau adeiladu ar gyfer diploma uwch neu dystysgrif - naill ai un diwrnod yr wythnos neu dri mis y flwyddyn mewn coleg.  Wedi hynny, rhaid sefyll arholiadau trwy Gymdeithas y Peirianwyr Adeiladu neu Sefydliad Brenhinol y Syrfewyr Siartredig.  Mae'n bosibl y bydd graddedigion yn cael eu heithrio rhag rhai camau.

Gobeithion a chyfleoedd yn y dyfodol
Gall swyddog rheoli adeiladu gael ei ddyrchafu'n uwch swyddog rheoli adeiladu ac, wedyn, yn bennaeth y gwasanaeth.  Fel arfer, bydd swyddogion yn symud i gyngor arall i gael eu dyrchafu, er na fydd angen gwneud hynny bob tro, o reidrwydd.

Rhagor o wybodaeth a gwasanaethau
Cymdeithas y Peirianwyr Adeiladu: www.abe.org.uk 
Rheoli Adeiladu'r Awdurdodau Lleol: www.labc.uk.com 
Medrau adeiladu: www.citb.co.uk

Mae modd cael rhagor o wybodaeth am y maes hwn trwy wefan Gyrfaoedd Cymru (www.careerswales.com/) y llyfrgell leol, swyddfa gyrfaoedd eich bro neu lyfrgell eich ysgol.

Related Links