Swyddog gofal dydd

Cyflwyniad
Mae Swyddogion Gofal Dydd yn cynnig cymorth mewn canolfannau dydd i bobl hŷn.  Maent hefyd yn cynnig cymorth i'r rheini sy'n byw ag anableddau dysgu a/neu gorfforol neu anghenion iechyd meddwl. Hefyd, gallant gynnig gofal seibiant - gan ofalu am gleientiaid fel y gall gofalwyr gael saib.   Cyflogir Swyddogion Gofal Dydd gan wasanaethau oedolion awdurdodau lleol yng Nghymru. Eu rôl yw helpu pobl i gadw eu hannibyniaeth ac arwain bywyd mor llawn â phosibl.  Mae llawer o gleientiaid yn byw ar eu pen eu hunain, ac maent ond yn cael cyfle i gwrdd â phobl eraill yn y ganolfan, felly mae gweithgareddau cymdeithasol yn chwarae rhan fawr yn y rhaglenni gofal.

Amgylchedd Gwaith
Mae Swyddogion Gofal Dydd yn gweithio mewn canolfannau dydd. Mae rhai o'r rhain ar agor 7 diwrnod yr wythnos ac eraill ar agor 5 diwrnod yr wythnos.  Gall canolfannau dydd amrywio o rai bach sy'n darparu ar gyfer grŵp cleientiaid penodol i rai amlbwrpas mawr sy'n darparu ar gyfer pobl o oedrannau amrywiol ac anableddau neu anawsterau dysgu.

Mae Swyddogion Gofal Dydd yn gweithio fel rhan o dîm, gan oruchwylio cynorthwywyr gofal ac adrodd i reolwr. Gall oriau amrywio gan fod rhai Swyddogion Gofal Dydd yn gweithio diwrnodau sesiynol - dim ond boreau neu brynhawniau; gall eraill weithio o 9am i 5pm bob dydd (37 awr) neu am ran o'r wythnos.  Yn dibynnu ar y ganolfan, gallai fod angen gweithio ar y penwythnos weithiau. Mae rhai cynghorau yn cynnig cyfleoedd rhannu swyddi a gweithio hyblyg.  Darperir dillad ac offer diogelwch fel menig, tabardau a larymau diogelwch personol mewn rhai achosion.

Gweithgareddau Dyddiol
Cyfrifoldeb y Swyddogion Gofal Dydd yw sicrhau bod y ganolfan ddydd yn rhedeg yn ddidrafferth. Maent yn cysylltu â'r gyrwyr sy'n cludo cleientiaid i'r ganolfan ac oddi yno a'r staff arlwyo sy'n cyflenwi ciniawau a lluniaeth arall. Maent hefyd yn goruchwylio ac yn trefnu llwyth gwaith cynorthwywyr gofal. Gallant gymryd rhan yn y gwaith o baratoi a chynnig gweithgareddau, ac yng ngofal personol cleientiaid pan fo'n briodol.  Mae gofal personol cleientiaid yn cynnwys defnyddio'r toiled, defnyddio'r bath, golchi dillad ac, mewn rhai achosion, help i fwyta.

Gall y rhaglen o weithgareddau cymdeithasol gynnwys therapi symudedd/corfforol fel gemau bwrdd a phêl, ac ysgogiadau meddyliol fel cwisiau, croeseiriau a gemau geiriau/rhifau eraill. Gall gweithgareddau eraill gynnwys celf a chrefft neu ddelio â chleientiaid ar sail un i un. Mae rhai canolfannau'n trefnu i gleientiaid fynd ar dripiau i'r theatr neu fannau o ddiddordeb.  Mae'r Swyddog Gofal Dydd yn chwarae rôl arweiniol yn y gwaith o ddylunio rhaglenni gofal unigol i gleientiaid, gan weithio'n agos gyda'r rheolwr a'r gofalwr a chysylltu â therapyddion galwedigaethol neu weithwyr cymdeithasol.  Mae gwaith papur hefyd yn rhan fawr o ddiwrnod gwaith y Swyddog Gofal Dydd. Mae llawer o ffurflenni gwahanol i'w llenwi ac adroddiadau i'w hysgrifennu i fonitro ac adolygu proses y cleient. Bydd Swyddog Gofal Dydd hefyd yn cwrdd yn rheolaidd â'r rheolwr a chynorthwywyr gofal i asesu cleientiaid.

Sgiliau a Galluoedd

  • Mae amynedd a sensitifrwydd yn hanfodol - yn arbennig wrth ddelio â rhywun sydd â chlefyd Alzheimer neu broblemau iechyd meddwl eraill.
  • Mae dychymyg a chreadigrwydd hefyd o fudd - i sicrhau bod y rhaglenni gweithgarwch yn ysgogol ac yn diwallu anghenion cleientiaid.
  • Bydd unrhyw un sy'n gallu cynnig cymorth mewn ffordd sensitif i staff a chleientiaid, ac sy'n meddu ar sgiliau trefnu da, yn addas ar gyfer y swydd hon.

Gofynion Ymgeisio
Nid oes unrhyw ofynion ymgeisio penodol.  Fel arfer caiff nodweddion personol eu hystyried yn fwy na chymwysterau.  Gall profiad blaenorol o weithio gyda phobl mewn lleoliad gofal cymdeithasol/cymorth fod yn ddefnyddiol iawn.  Gall rhai cynghorau gynnig cyfle i weithio tuag at NVQ/SVQ mewn modiwlau Gofal Uniongyrchol.

Cyfleoedd yn y Dyfodol
Mae'n debygol y bydd angen cymwysterau a phrofiad o waith cymdeithasol neu ofal ar swyddi uwch, megis Uwch Swyddog Gofal Dydd neu Reolwr Gofal Cynorthwyol.

Rhagor o Wybodaeth a Gwasanaethau
Cyngor Gofal Cymru www.ccwales.org.uk
Gwirfoddolwyr Gwasanaeth Cymunedol www.csv.org.uk/socialhealthcare
Cyngor Iechyd a Phroffesiynau Gofal www.hpc-uk.org
Gwybodaeth am yrfaoedd Gweithwyr Cymdeithasol www.socialcarecareers.co.uk

Gallwch ddod o hyd i ragor o wybodaeth am y maes gwaith hwn drwy Yrfa Cymru yn www.gyrfacymru.com neu yn eich llyfrgell leol, swyddfa gyrfaoedd neu lyfrgell gyrfaoedd eich ysgol.

Related Links