Swyddog datblygu economaidd
Cyflwyniad
Mae datblygu economaidd mewn llywodraeth leol yn ymwneud â gwella
economi ardal drwy ddenu busnesau newydd, annog cyfleoedd
buddsoddi, cynyddu cyfleoedd swydd, hyrwyddo hamdden a thwristiaeth
a nodi cyfleoedd ar gyfer twf a datblygu cynaliadwy. Mae
Swyddogion Datblygu Economaidd yn llunio strategaethau datblygu
economaidd ac yn gweithredu camau i gyflawni hyn.
Amgylchedd Gwaith
Mae Swyddogion Datblygu Economaidd yn gweithio mewn swyddfeydd,
ond maent yn treulio llawer o amser yn teithio i gyfarfodydd gyda
chynrychiolwyr busnes lleol neu sefydliadau partner.
Gweithgareddau Dyddiol
Gall rôl Swyddog Datblygu Economaidd mewn cyngor lleol fod yn
amrywiol, ac mae'n cynnwys gwaith ar lefel strategol a
gweithredol. Gall y dyletswyddau gynnwys rhywfaint o'r
canlynol, os nad pob un ohonynt:
- cynnal arolygon, gwaith ymchwil ac ymgynghoriadau er mwyn
llunio strategaeth datblygu economaidd leol;
- creu cynllun gweithredu er mwyn gweithredu'r strategaeth
datblygu economaidd a monitro ei chynnydd;
- ceisio cyfleoedd am gyllid allanol a chyflwyno cynigion;
- rheoli projectau mewn perthynas â datblygiad economaidd a
chynlluniau adnewyddu;
- gweithio'n agos mewn partneriaeth â sefydliadau eraill, gan
gynnwys y Cyngor Sgiliau Sector, Llywodraeth Cymru, cynghorau
cyfagos, y Siambr Fasnach a'r Ganolfan Byd Gwaith;
- cynnig cyngor i entrepreneuriaid lleol a busnesau newydd;
- gweithredu fel pwynt cyswllt cyntaf ar gyfer ymholiadau
buddsoddi;
- hyrwyddo datblygiad twristiaeth yn yr ardal;
- annog arferion busnes cynaliadwy.
Gall rhai cynghorau mwy gyflogi Swyddogion Datblygu Economaidd
mewn meysydd gwaith mwy arbenigol, fel mewnfuddsoddi, cyllid
Ewropeaidd neu ddatblygu/cyngor busnes.
Sgiliau a Galluoedd
Mae angen y canlynol ar swyddogion datblygu economaidd
llywodraethau lleol:
- sgiliau busnes;
- gallu ariannol;
- sgiliau cyfathrebu;
- gallu i feithrin perthnasau a rhwydweithio â sefydliadau
partner;
- sgiliau rheoli project;
- dealltwriaeth o ddatblygiad ac adfywio;
- dealltwriaeth o gyfeiriad strategol.
Gofynion Mynediad
Nid oes unrhyw ofynion penodol, ond mae'r rhan fwyaf o gynghorau
lleol yn gofyn am radd mewn pwnc perthnasol fel economeg,
cynllunio, astudiaethau busnes, daearyddiaeth neu reoli
ystadau. Gall rhai cynghorau lleol ofyn am brofiad blaenorol
ym maes datblygu economaidd neu o lunio cynigion cyllido.
Cyfleoedd yn y Dyfodol
Gall Swyddogion Datblygu Economaidd llywodraeth leol symud i rôl
fel cynorthwy-ydd datblygu economaidd neu ddatblygu busnes.
Gall fod cyfleoedd i symud i swyddi rheoli ym maes datblygu
economaidd neu gyllid.
Rhagor o Wybodaeth a Gwasanaethau
Siambrau Masnach Prydain www.britishchambers.org.uk
Ffederasiwn Sgiliau a Safonau'r Sector Diwydiant www.sscalliance.org
Sefydliad Datblygu Economaidd www.ied.co.uk
Llywodraeth Cymru www.wales.gov.uk/topics/businessandeconomy/?lang=cy
Gallwch gael rhagor o wybodaeth am y maes gwaith hwn drwy Yrfa
Cymru (www.gyrfacymru.com)
neu yn eich llyfrgell leol, swyddfa gyrfaoedd neu lyfrgell
gyrfaoedd eich ysgol.
Related Links