Swyddog anghenion tai

Cyflwyniad
All neb ofyn i'r cyngor am gartref a chael un yn syth.  Ar wahân i'r cynghorau sirol, mae gan bob awdurdod lleol swyddogion sy'n rheoli tai mae'r awdurdod yn berchen arnyn nhw.  Er bod tuedd gynyddol i gymdeithasau tai a chwmnïau preifat ysgwyddo cyfrifoldeb am dai newydd, yr awdurdodau lleol sy'n rhoi'r rhan fwyaf o dai a fflatiau hŷn ar osod.  Maen nhw'n rheoli tai lloches a hostelau, hefyd.  Mae rheoli tai'n faes cymhleth ac iddo sawl elfen wahanol.  Mae un o'r rheiny'n ymwneud â swyddogion anghenion tai sy'n asesu ceisiadau am dai a llety ac yn cynnig gofal a chymorth.

Amgylchiadau'r gwaith
Yn y swyddfa y byddwch chi'n gweithio gan amlaf er y gallai fod angen ymweld â thenantiaid, archwilio tai a mynd i gyfarfodydd.  Ar adegau, gall fod yn anodd asesu cyflwr corff a meddwl pobl ac arnyn nhw anghenion arbennig ac efallai y bydd rhai ymgeiswyr dig yn ymosodol.  37 awr yw'r wythnos safonol, gan gynnwys shifftiau anghymdeithasol, o bosibl.

Gweithgareddau beunyddiol
Ymhlith dyletswyddau mae ymweld â chwsmeriaid yn eu cartrefi, asesu a oes angen symud yn ddiymdroi (o achos anawsterau ariannol, er enghraifft) a gweld a oes gan y cyngor neu gymdeithas dai anheddau sy'n gweddu i'r sefyllfa.  Gwaith amryfal yw asesu anghenion tai lleol ac anghenion carfanau penodol megis hen bobl, pobl anabl, merched sy'n agored i niwed, pobl ddigartref a phobl o dras leiafrifol.  Yn aml, bydd swyddogion anghenion tai'n arbenigo mewn maes o'r fath neu ragor.  Er enghraifft, swyddog ailgartrefu fydd yn asesu ceisiadau am dai lloches a thai ar gyfer y rhai sy'n gaeth i gadair olwynion, gan gynghori pobl hŷn ac anabl.  Ar y cyfan, fodd bynnag, bydd y swyddog yn gwirio a yw pawb sy'n gofyn am gartref yn cael gwneud hynny, yn helpu pobl i baratoi eu ceisiadau ac yn cynnig gofal a chymorth penodol i bobl ddigartref gan alluogi'r cyngor i wneud y gorau o'r dewisiadau sydd ar gael i bawb.  I'r perwyl hwnnw, rhaid cydweithio â sefydliadau a swyddogion eraill ym maes tai megis y rhai sy'n arbenigo mewn trefniadau dros dro.  Mae'n bwysig nodi tai sy'n gweddu i anghenion yr unigolyn, hefyd.  Er enghraifft, oes dodrefn addas a digonol ynddyn nhw?  Ydyn nhw mewn cyflwr da, glân a diogel?  Swyddog anghenion tai yw'r gweithiwr allweddol ynglŷn â gofalu bod anghenion client yn cael eu hasesu'n gywir a'u diwallu.  Dyma gyfrifoldebau eraill:

  • gofalu bod pobl yn hawlio budd-daliadau'n briodol;
  • helpu i fonitro pethau wedyn, megis talu'r rhent, a chynghori cydweithwyr lle bo angen cymryd camau i gywiro sefyllfa;
  • ymweld â chwsmeriaid i gynnig cymorth a chynghorion;
  • cadw cofnodion;
  • helpu pobl i symud i gartref amgen lle bo'n briodol;
  • cydweithio â gwasanaethau cymdeithasol, byrddau iechyd, mudiadau bro, staff budd-daliadau a gwasanaethau cynghori;
  • gofalu bod cynghorion a gwybodaeth ar gael trwy asiantaethau eraill, tynnu sylw pobl at y gwasanaethau hynny, anfon pobl i asiantaethau lle bo'n briodol a chydweithio â'r asiantaethau hynny i ofalu bod y cymorth gorau ar gael;
  • cyflwyno achosion i wasanaeth digartrefedd y cyngor pan fo pob dewis arall a phob ymdrech i osgoi digartrefedd wedi methu.

Medrau a diddordebau
Dyma'r rhai hanfodol:

  • cyfathrebu'n dda (ar lafar ac ar bapur) â chwsmeriaid, cydweithwyr ac asiantaethau allanol (gallai fod gofyn i gyfathrebu'n ddwyieithog, hefyd);
  • cydweithio'n effeithiol ag amryw asiantaethau;
  • rhoi cymorth a chefnogaeth i bobl mae angen tai arnyn nhw;
  • gweithio mewn tîm;
  • datrys problemau'n adeiladol;
  • gweithio o'ch pen a'ch pastwn eich hun;
  • ysgrifennu adroddiadau eglur a chryno;
  • cynghori pobl wrth eu cyfweld;
  • parchu pobl sy'n agored i niwed, heb eu barnu nhw;
  • agwedd hyblyg, cadernid a'r gallu i ymaddasu.

Dyna'r gofynion sylfaenol a, heb eu hateb, fydd ymgeisydd ddim yn cael ei ystyried ar gyfer y swydd, fel arfer.  Byddai'r rhinweddau canlynol o fantais, hefyd:

  • gallu trefnu a pharatoi llety i'w roi ar osod;
  • gwybod rheoliadau ariannol yn dda;
  • adnabod mudiadau gwirfoddol lleol sy'n ymwneud ag anghenion arbennig;
  • gwybod pa wasanaethau mae adrannau eraill y cyngor yn eu cynnig;
  • deall sut mae trefn y budd-daliadau'n gweithio;
  • deall gwaith sylfaenol megis cadw cofnodion, rheoli stoc a chasglu rhenti;
  • profiad o weithio ym maes tai;
  • gwybod materion iechyd a diogelwch, gweithdrefnau ariannol, prosesau cwyno a chynigion Llywodraeth Cymru ynglŷn â thai.

Meini prawf derbyn
Gan fod cyfrinachedd yn hollbwysig, mae profiad o weithio gyda phobl ddigartref, y rhai sy'n hawlio budd-daliadau a'r cyhoedd yn werthfawr iawn yn ogystal â phrofiad o weithio ym meysydd gofal cymdeithasol, cynghori, gofal preswyl, cymorth yn y gymuned, cwnsela a denu a dethol staff.  Byddai o fantais pe baech chi'n gyfarwydd â gofynion y gyfraith ynglŷn â thai a digartrefedd, hefyd.  Mae nifer o lwybrau i'r yrfa hon, ac mae llawer o swyddogion tai'n dechrau'n weithwyr dan hyfforddiant neu'n gynorthwywyr ac yn astudio ar gyfer cymwysterau proffesiynol yn eu hamser rhydd.  Mae gan sawl ymgeisydd radd mewn pwnc megis tai, astudiaethau busnes, rheoli ystadau, gweinyddu cyhoeddus, gwyddorau cymdeithasol neu'r gyfraith.  Mae gan eraill dystysgrifau Safon A neu gymhwyster cyfwerth.  Bydd sawl awdurdod lleol yn derbyn ymgeiswyr aeddfed a chanddyn nhw brofiad yn hytrach na chymwysterau (er enghraifft, profiad o weithio gyda mudiad Shelter neu mewn lloches i ferched).  Bydd y rhan fwyaf o awdurdodau'n disgwyl i'w swyddogion tai ennill Diploma Sefydliad Breiniol Tai trwy gwrs rhan-amser dros ddwy flynedd.

Gobeithion a chyfleoedd yn y dyfodol
Mae dilyniant eglur o ran dyrchafu - swyddog tai, uwch swyddog, prif swyddog, is gyfarwyddwr a chyfarwyddwr.  Gallai fod rhaid symud i awdurdod arall i ddatblygu'ch gyrfa.  Mae cyfleoedd i weithio mewn cymdeithasau tai neu arbenigo mewn elfennau penodol o'r maes yn y sector cyhoeddus a'r tu allan iddo, hefyd.
 
Rhagor o wybodaeth a gwasanaethau
Cymdeithas Rheolwyr Tai Ymddeol: www.arhm.org
Sefydliad Breiniol Tai: www.cih.org
Asiantaeth Cartrefi a Chymunedau: www.homesandcommunities.co.uk
Inside Housing www.insidehousing.co.uk

Cewch chi ragor o wybodaeth am y maes hwn trwy gysylltu â Gyrfaoedd Cymru (www.careerswales.com/), y llyfrgell gyhoeddus, swyddfa'r gyrfaoedd neu lyfrgell gyrfaoedd eich ysgol.

Related Links