Pensaer

Cyflwyniad
Mae penseiri'r awdurdodau lleol yn rhoi holl amrywiaeth y gwasanaethau pensaernïol yn ôl anghenion y cyngor ac, weithiau, clientiaid preifat.  Mae natur y gwaith hwn yn amrywio'n fawr gan gynnwys: llunio a phrynu adeiladau newydd; newid ac adnewyddu rhai cyfredol; cadwraeth; arolygon; astudiaethau dichonoldeb; cynghori am gyflwr, dibenion a materion cynnal a chadw adeiladau cyfredol; gweinyddu cytundebau; ysgrifennu adroddiadau.  Mae penseiri ym mhob cyngor sirol a bwrdeistref sirol.

Amgylchiadau'r gwaith
Bydd pensaer yn treulio'r rhan fwyaf o'r dydd mewn swyddfa er bod angen ymweld â safleoedd, hefyd.  37 awr yw'r wythnos safonol, fel arfer.

Gweithgareddau beunyddiol
Mae penseiri'r awdurdodau lleol yn cydweithio ag amrywiaeth helaeth o adrannau megis tai, addysg, hamdden, gwasanaethau cymdeithasol ac eiddo yn ogystal â'r heddlu, y gwasanaeth tân a'r llysoedd mewn rhai achosion.  Dyma rai gorchwylion:

  • derbyn cyfarwyddiadau client, gan gynnwys unrhyw waith ymchwil;
  • llunio adeilad yn ôl y cyfarwyddiadau hynny;
  • cynnal trafodaethau gyda swyddogion cynllunio a rheoli adeiladu, lle bo'n briodol, i astudio dichonoldeb y prosiect;
  • paratoi cynllun a gwybodaeth berthnasol;
  • pennu faint o ddeunyddiau y bydd eu hangen, a rhoi cytundeb ar gynnig;
  • goruchwylio cytundebau adeiladu;
  • helpu i drin a thrafod yr anfonebau terfynol;
  • cynghori clientiaid am bolisïau;
  • cyflwyno adroddiadau am brosiectau gerbron rhai o bwyllgorau'r cyngor;
  • gofalu bod contractwyr yn rhoi gwerth yr arian ac yn cadw at safonau uchel.

Medrau a diddordebau
Dyma'r rhai hanfodol:

  • natur arloesol a chreadigol;
  • gwybod rheoliadau ac egwyddorion adeiladu a pheirianneg yn dda;
  • medrau negodi a chyflwyno da;
  • medrau trefnu gwaith a rheoli prosiectau;
  • gallu deall arferion pensaernïol, cyfreithiol a thechnegol newydd;
  • gallu trin a thrafod cyfrifiadur a defnyddio meddalwedd llunio adeiladau.

Meini prawf derbyn
Mae'r rhan fwyaf o benseiri'r awdurdodau lleol wedi ymgymhwyso trwy ennill gradd a diploma mewn ysgol bensaernïaeth.  I astudio ar gyfer y cymwysterau hynny, fe fydd angen Tystysgrif Safon Uwch (neu rywbeth cyfwerth) mewn dau bwnc a TGAU mewn o leiaf bum pwnc gan gynnwys Cymraeg/Saesneg, mathemateg a phynciau priodol eraill megis ffiseg a chemeg.  Bydd sawl ysgol bensaernïaeth yn derbyn cymwysterau galwedigaethol cyffredinol cenedlaethol, Bagloriaeth Ryngwladol, tystysgrifau Cyngor Busnes a Thechnoleg Prydain, cwrs mynediad a diplomâu addysg bellach, hefyd.
 
I ymgymhwyso'n bensaer, rhaid dilyn hyfforddiant am o leiaf saith mlynedd (neu'n hirach mewn cyrsiau rhan-amser) a chwblhau'r tri cham isod:

  • rhaglen bum mlynedd mewn cwrs mae Sefydliad Brenhinol Penseiri Prydain wedi'i ddilysu yn ôl gofynion Bwrdd Cofrestru'r Penseiri;
  • o leiaf dwy flynedd o brofiad proffesiynol;
  • arholiad arferion a rheoli proffesiynol Sefydliad Brenhinol Penseiri Prydain.

Gobeithion a chyfleoedd yn y dyfodol
Gallai fod modd cyrraedd swydd rheolwr.  Gyda rhagor o hyfforddiant a/neu brofiad, gallai fod cyfle i symud i adran arall yn y cyngor megis cynllunio, rheoli adeiladu ac adfywio.

Rhagor o wybodaeth a gwasanaethau
Bwrdd Cofrestru'r Penseiri: www.arb.org.uk
Sefydliad Breiniol Technolegwyr Pensaernïol: www.ciat.org.uk
Medrau Adeiladu: www.citb.co.uk
Cyngor Archeoleg Prydain: www.britarch.ac.uk
Medrau Creadigol a Diwylliannol: www.cciskills.org.uk
Sefydliad Brenhinol Penseiri Prydain: www.architecture.com

Mae Gyrfa Cymru wedi cynhyrchu erthygl Sbotolau ar yrfaoedd ym maes adeiladu: https://www.careerswales.com/cy/golwg-ar-adeiladu/ ac diwydiannau creadigol: https://www.careerswales.com/cy/golwg-ar-diwydiannau-creadigol/

Gallai fod rhagor o wybodaeth ar wefan Gyrfaoedd Cymru (www.careerswales.com/), yn llyfrgell eich bro neu yn swyddfa/llyfrgell gyrfaoedd eich ysgol.

Related Links