Cyflwyniad
Mae pob awdurdod lleol wedi buddsoddi'n sylweddol mewn tir, eiddo
ac adeiladau ac mae syrfëwr arbenigol ar gyfer pob un o'r
swyddogaethau canlynol:
- adeiladu;
- meintiau;
- mesur tir;
- prisio;
- cynllunio a datblygu;
- arolygon technegol er cymorth i'r syrfëwr siartredig.
Mae syrfewyr meintiau'n ymwneud ag agwedd ariannol adeiladu a
pheirianneg ac mae'r swydd hon mewn awdurdodau lleol o bob math ar
wahân i gynghorau sirol. Mae'r syrfewyr yn rhan o'r
gwasanaeth ymgynghorol dros adeiladu ac, mewn rhai awdurdodau,
gallen nhw fod yn rhan o garfan y gwasanaethau technegol o dan
arweiniad uwch syrfëwr meintiau.
Amgylchiadau'r gwaith
Mae syrfewyr yn treulio amser ar safleoedd yn yr awyr agored ac
mewn cyfarfodydd allanol, ond yn y swyddfa mae syrfewyr meintiau'n
gweithio fel arfer, gan ysgrifennu adroddiadau, cyflawni
gorchwylion gweinyddol, paratoi cynlluniau a phennu costau.
37 awr yw'r wythnos safonol a does dim oriau anghymdeithasol, gan
amlaf. Dim ond wrth ymweld â safleoedd y bydd rhaid gwisgo
dillad diogelu megis hetiau caled.
Gweithgareddau beunyddiol
Mae syrfewyr meintiau'n gweithio mewn prosiectau ar ran cyfadran y
gwasanaethau eiddo ac adrannau ac asiantaethau eraill. Maen
nhw'n monitro ac yn amcangyfrif y costau ac yn ymwneud â
phrosiectau adeiladu o'r cynllunio hyd y diwedd. Mae eu
hyfforddiant wedi rhoi gwybodaeth gadarn iddyn nhw ynglŷn â dulliau
adeiladu, yn ogystal â materion ariannol a chyfrifeg. Fel
arfer, fe fydd yr awdurdod yn rhoi pob cytundeb ar gyfer gwaith ar
gynnig, ac un o orchwylion syrfewyr yw pwyso a mesur y cynigion a
chynghori'r awdurdod ar agweddau technegol y prosiect. Ar ben
hynny, byddan nhw'n cyflwyno ar ran yr awdurdod geisiadau am
gymorth ariannol allai fod ar gael ar gyfer gwelliannau penodol
(trwy Undeb Ewrop, er enghraifft) yn ogystal â chynghori trigolion
lleol ar baratoi ceisiadau am grantiau i wella eu cartrefi.
Dyma'r prif ddyletswyddau:
- pennu dichonoldeb a chostau;
- rheoli cytundebau penodol a gweithredu'n brif ymgynghorydd ar
eu cyfer;
- paratoi dogfennau ar gyfer cytundebau sydd i'w rhoi ar
gynnig;
- pennu costau cyfamserol prosiectau a rhoi tystysgrifau
cyfamserol sy'n caniatáu i adeiladwyr fwrw ymlaen â'r gwaith;
- trin a thrafod unrhyw amrywio yn y cytundebau;
- gofalu bod anfonebau'n cael eu talu yn ôl amserlenni ac amodau
eraill;
- rheoli/goruchwylio syrfewyr llai profiadol yn ystod
prosiectau;
- annog pawb sy'n ymwneud ag adeiladu i fod yn ymwybodol o
gostau.
Mae syrfewyr meintiau'n atebol i uwch syrfewyr meintiau, gan
weithio ar y cyd â nhw yn ystod prosesau cynnig/rhoi cytundebau a
mesur meintiau ym mhob prosiect.
Medrau a diddordebau
Mae angen y canlynol:
- gallu mathemategol;
- diddordeb ym maes adeiladu;
- gwybod y Dull Mesur Safonol;
- deall ffurflenni safonol Tribiwnlys y Cytundebau;
- gallu gweithio o'ch pen a'ch pastwn eich hun ac mewn tîm;
- gallu goruchwylio pobl;
- gallu defnyddio sustemau cyfrifiadurol;
- gwybod gweithdrefnau iechyd a diogelwch;
- gallu trin a thrafod pobl o bob lliw a llun;
- manwl gywirdeb;
- medrau rheoli prosiectau a'r gwydnwch i'w gorffen yn
foddhaol.
Meini prawf derbyn
Mae gradd neu gymhwyster cyfwerth ym maes mesur meintiau'n
hanfodol. Fel arfer, mae angen ymgymhwyso'n syrfëwr
siartredig, hefyd.
Mae angen o leiaf flwyddyn o brofiad ar ôl graddio, gan gynnwys
gweinyddu nifer o gytundebau canolig eu maint hyd at yr anfoneb
derfynol (pennu costau, amcangyfrif meintiau ac ati).
Gobeithion a chyfleoedd yn y dyfodol
Mae syrfewyr yn gweithio ledled byd llywodraeth leol ac mae sawl
cyfle i arbenigo, yn arbennig yn yr awdurdodau mwyaf. Y cam
nesaf yn eich gyrfa ar ôl cael rhagor o brofiad fyddai uwch syrfëwr
meintiau.
Mae hyfforddiant proffesiynol yn arwain at aelodaeth
gorfforaethol o Sefydliad Brenhinol y Syrfewyr Siartredig.
Rhagor o wybodaeth a gwasanaethau
Medrau Adeiladu: www.citb.co.uk
Sefydliad Brenhinol Syrfewyr Siartredig: www.rics.org
Ymgynghoriaeth Adeiladu: www.thebuildingconsultancy.com
Cewch chi ragor o wybodaeth am y maes hwn trwy gysylltu â
Gyrfaoedd Cymru (www.careerswales.com/), y
llyfrgell gyhoeddus, swyddfa'r gyrfaoedd neu lyfrgell gyrfaoedd
eich ysgol.
Mae Gyrfa Cymru wedi cynhyrchu Sbotolau erthygl ar yrfaoedd mewn
STEM (gwyddoniaeth, technoleg, peirianneg a mathemateg): https://www.careerswales.com/cy/golwg-ar-stem/ ac
adeiladu: https://www.careerswales.com/cy/golwg-ar-adeiladu/