Cyflwyniad
 Fe gafodd Rhaglen Gwella Cymru ei chyflwyno yn 2002 i ddisodli
Rhaglen y Gwerth Gorau.  Hanfod y rhaglen yw bod pob cyngor
lleol yn cael asesu a gwella ei gyflwr corfforaethol a
gwasanaethol.  Wrth wneud hynny, rhaid ymgynghori â'r
trigolion er mwyn deall eu hanghenion nhw.
Rôl swyddog Rhaglen Gwella Cymru yw hwyluso a chydlynu
polisïau'r rhaglen trwy'r cyngor i gyd, gan helpu i ledaenu a
defnyddio'r arferion gorau a chadw golwg ar safonau, polisïau a
mentrau.
Amgylchiadau'r gwaith
 Yn swyddfeydd y cyngor y byddwch chi'n gweithio.  Byddwch
chi'n ymwneud â phob un o'i wasanaethau.
Gweithgareddau beunyddiol
Hanfod y gwaith yw cydlynu Rhaglen Gwella Cymru ledled y cyngor,
gan gynnwys:
- helpu'r rhai sy'n adolygu materion yn ôl meini prawf Rhaglen
Gwella Cymru;
 
- cydlynu trefniadau casglu gwybodaeth am yr hyn sydd wedi'i
gyflawni;
 
- hwyluso a chydlynu proses cyhoeddi Cynllun Cyflawni Rhaglen
Gwella Cymru;
 
- helpu i ddatblygu strwythurau rheoli cyflawniad y cyngor.
 
Medrau a diddordebau
 Prif gyfrifoldeb swyddogion materion gwella yw dehongli'r gyfraith
mewn modd y gall gweithwyr eraill y cyngor ei ddeall.  Felly,
mae angen meddwl creadigol a strategol ynghyd â'r gallu i ddyfeisio
syniadau a dewisiadau a llunio strategaethau ymarferol.
Meini prawf ymgeisio
 Does dim meini prawf statudol ar gyfer y maes hwn, er bod gradd
prifysgol neu gymhwyster cyfwerth gan y rhan fwyaf o
swyddogion.
Rhaid gwybod a deall polisïau a strwythurau llywodraeth leol ac
mae angen profiad ac amgyffred ynglŷn â rheoli prosiectau. 
Byddai profiad o lunio strategaethau a pholisïau corfforaethol o
fantais, hefyd.
Gobeithion a chyfleoedd yn y dyfodol
 Dyma swydd arbenigol ym maes polisïau corfforaethol.  Felly,
gallai arwain at swyddi corfforaethol uwch.
Rhagor o wybodaeth a gwasanaethau
 Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru: www.wlga.gov.uk
 Asiantaeth Gwella a Datblygu: www.idea.gov.uk
 Cymdeithas Llywodraeth Leol Lloegr: www.lga.gov.uk
 Cydffederasiwn Awdurdodau Lleol yr Alban: www.cosla.gov.uk
  
 Rhagor o wybodaeth a gwasanaethau
 Mae modd cael rhagor o wybodaeth am y maes hwn trwy wefan
Gyrfaoedd Cymru (www.careerswales.com/), y llyfrgell leol, swyddfa
gyrfaoedd eich bro neu lyfrgell eich ysgol.