Astudiaeth achos

Neil Jones sy'n sôn am ei rôl yn weithiwr cymdeithasol i oedolion.  Er bod pob diwrnod yn wahanol, rhaid cyflawni amryw orchwylion arferol megis paratoi cynlluniau gofal, helpu defnyddwyr i ddatrys problemau, adolygu achosion ac ymateb i ambell argyfwng.  Mae astudiaeth fer wedi'i chynnwys hefyd.  Mae Neil yn gweithio dros Gyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf ac mae'n ystyried ei swydd yn un werthfawr iawn sy'n rhoi llawer o foddhad iddo.

Mae'r Brifysgol Agored wedi llunio adnodd rhyngweithiol am ddiwrnod ym mywyd gweithiwr cymdeithasol: http://www.open.edu/openlearn/body-mind/social-care/social-work/try-day-the-life-social-worker

Mae'r Brifysgol Agored yn cynnig mae fideos am waith cymdeithasol yng Nghymru - cyfraniadau gan Gyngor Sir Gâr a Dinas a Sir Abertawe: http://www.open.edu/openlearnworks/course/view.php?id=1747