Swyddog ymchwil twyll

Cyflwyniad
I lawer o bobl, mae buddion y wladwriaeth yn gallu gwneud y gwahaniaeth rhwng safon barchus o fyw a thlodi.  Ond mae yna rai sy'n cam-drin y system, lleiafrif bychan sy'n hawlio lwfansau yn groes i'r rheolau - yn daliadau nawdd cymdeithasol, budd-dal tai neu dâl diweithdra.

Mae swyddogion ymchwil twyll yn gyfrifol am rwystro a chanfod pob math o weithgareddau twyllodrus gan gynnwys afreoleidd-dra ariannol yn y cyngor ei hunan.  Mae'n swydd sydd ym mhob awdurdod lleol.

Amgylchedd Waith
Bydd y swyddog, fel arfer, yn rhan o dîm bychan yn gweithio i uwch swyddog yn Uned Archwilio ac Adolygu neu Wasanaeth Budd-daliadau'r cyngor.  Mae'r gwaith yn cael ei wneud yn y swyddfa, mewn cartrefi pobl, mewn gwahanol asiantaethau allanol ac mewn llysoedd barn.  Gallai swyddogion wynebu ymddygiad ymosodol a bygythiol.  Mae'r swydd yn golygu gweithio oriau afreolaidd (telir lwfans fel arfer ar gyfer hynny) mewn wythnos waith enwol o 37 awr.

Gweithgareddau Pob Dydd
Yn gyffredinol, bydd ymchwilio i honiadau o dwyll, paratoi ffeiliau erlyn a rhoi tystiolaeth mewn llys barn yn golygu y bydd y swyddog ymchwil twyll yn dod i gysylltiad â gwahanol asiantaethau'n rheolaidd.   Yn fewnol, bydd hyn yn golygu gweithio gydag unedau Archwilio ac Adolygu, Refeniw a Budd-daliadau, Trwyddedau ac Etholiadau.  Yn allanol, bydd swyddogion yn cysylltu â'r Heddlu, yr Asiantaeth Budd-daliadau, Tollau a Chyllid Ei Mawrhydi a busnesau lleol.

Amcan cyffredinol y swyddogion yw talu sylw a datrys unrhyw broblem ynghylch twyll neu afreoleidd-dra, rhwystro unrhyw ddrwg effeithiau ar gyllid y cyngor a sicrhau chwarae teg.  Bydd swyddogion yn gweithio'n agos â'r heddlu, yn cynnal ymchwiliadau, yn cyfweld tystion a'r rhai o dan amheuaeth a gallai hynny arwain at arestio.  Bydd hyn yn golygu gwaith cudd wyliadwriaeth wrth gasglu tystiolaeth yn erbyn troseddwyr honedig ac wynebu sefyllfaoedd a allai fod yn beryglus.  Bydd hefyd yn golygu y bydd yn rhaid i swyddogion helpu'r uwch swyddog ymchwilio a fydd yn cynrychioli'r Cyngor mewn Gwrandawiadau Llys Barn ac mewn adolygiadau Panel Apêl.  Eu dyletswydd yw sicrhau bod ymchwiliadau'n cael eu cynnal yn briodol, yn unol â deddfwriaeth Nawdd Cymdeithasol, Deddf Rheoleiddio Pwerau Ymchwilio 2000, Deddf Hawliau Dynol 1998, Deddf yr Heddlu a Thystiolaeth Droseddol 1984 a'r Ddeddf Dwyn 1968.

Mae hefyd yn rhan o'u dyletswydd i baratoi adroddiadau ysgrifenedig ynghylch darganfod gweithgareddau twyllodrus ac ynghylch newidiadau mawr i ddeddfwriaeth, er budd yr uwch swyddog / ymchwilydd a Rheolwr y Gwasanaeth.

Sgiliau a Diddordebau
I wneud y swydd hon yn dda, bydd yn rhaid i chi fod yn gallu:

  • Trefnu, cyfathrebu (ar lafar ac ar bapur), ymchwilio a gweinyddu'n dda
  • Deall cyfrifiaduron
  • Deall y ddeddfwriaeth berthnasol
  • Cynrychioli'r awdurdod mewn gwrandawiadau llys
  • Bod ag agwedd amyneddgar a phroffesiynol 
  • Bod yn ddigon aeddfed i ddygymod â sefyllfaoedd a allai fod yn fygythiol
  • Yn gallu gweithio ar ei ben ei hunan neu fel rhan o dȋm.

Cymwysterau Mynediad i'r Swydd
Mae'n rhaid bod â chefndir academaidd da (addysg i safon lefel A) a phrofiad o waith adain budd-daliadau neu debyg.  Mae'n ddymunol bod wedi cael hyfforddiant yn y Ddeddf Hawliau Dynol a bod yn deall deddfwriaeth berthnasol megis Deddf yr Heddlu a Thystiolaeth Droseddol a pheth profiad o weithdrefnau ymchwilio i dwyll ac o waith yr heddlu.  Gallai rhai cwmnïau / awdurdodau ofyn am gymhwyster Swyddog Gwrth Dwyll Achrededig megis PINS (Professionalism in Security)

Rhagolygon a chyfleoedd ar gyfer y dyfodol
Mewn uned Archwilio ac Adolygu, gellid anelu at swydd archwilydd ac, o fod yn Uwch Swyddog Ymchwil Twyll, gallech symud ymlaen i fod yn Rheolwr Archwilio ac Adolygu ac yna, efallai, yn Bennaeth Cyllid, gyda phrofiad a chymwysterau pellach.
Yn ogystal â chyfleoedd am swyddi rheoli yn sector corfforaethol yr awdurdod, mae yna swyddi yn y gyfarwyddiaeth Eiddo, ac, yn y Gwasanaethau Cymdeithasol, gallech gael swydd Swyddog Hawliau Lles.   Yn allanol, efallai y bydd yna gyfleoedd gyda'r Heddlu.

Gwybodaeth a Gwasanaethau Pellach
Cymdeithas Archwilwyr Mewnol www.iia.org.uk
Cymdeithas Archwilwyr Twyll Ardystiedig www.acfeuk.co.uk/#
Cymdeithas y Gyfraith www.lawsociety.org.uk/home.law

Mae modd cael rhagor o wybodaeth am y maes hwn trwy wefan Gyrfaoedd Cymru (www.careerswales.com/) y llyfrgell leol, swyddfa gyrfaoedd eich bro neu lyfrgell eich ysgol.