Goruchwyliwr glanhau

Cyflwyniad
Mae Goruchwyliwr Glanhau, dan arweiniad neu gyfarwyddyd staff uwch, yn arwain tîm i ddarparu amgylchedd glân a glanwaith sy'n cwrdd â safonau glanhau penodedig.

Amgylchedd Gwaith
Swydd o dan do ydyw yn bennaf, a disgwylir y bydd yn gofyn am ymdrech gorfforol sylweddol a chaiff rhai tasgau eu cyflawni mewn osgo lletchwith.  Mae'n debygol hefyd y bydd deilydd y swydd yn profi amodau gwaith brwnt neu amhleserus.

Gweithgareddau Dyddiol
Bydd dyletswyddau penodol y Goruchwyliwr Glanhau'n amrywio o un sefydliad i'r llall ond gallant gynnwys:

  • glanhau pob arwyneb, y celfi a'r gosodiadau, yn cynnwys lloriau, waliau, rhaniadau a gwaith coed mewnol, ardaloedd cegin/arlwyo, toiledau, ystafelloedd newid ac ardaloedd ymolchi eraill; 
  • glanhau offer wedi'u defnyddio;
  • mynd i'r afael â rhaglenni glanhau arbennig yn ôl y gofyn;
  • easglu a gwaredu ar wastraff mewn dulliau priodol a glanhau a chynnal biniau sbwriel;
  • eynnal cofnodion yn ôl y gofyn;
  • sicrhau bod offer a deunydd glanhau ar gael i staff;
  • monitro a rheoli deunydd glanhau o fewn cyllideb a gytunwyd, catalogio adnoddau a chynnal archwiliadau fel bo angen; 
  • ail-lenwi a chyfnewid nwyddau traul; 
  • hysbysu'r person priodol am offer diffygiol ac unrhyw anghenion cynnal eraill;
  • cynnal diogelwch yr adeilad drwy ddiogelu mynedfeydd/allanfeydd fel bo'n briodol ac adrodd ar unrhyw fygythiadau potensial i ddiogelwch;
  • sicrhau bod goleuadau ac offer arall wedi eu diffodd fel bo'n briodol;
  • hyrwyddo a sicrhau iechyd a diogelwch staff ac ymwelwyr ar bob achlysur;
  • montiro a rheoli stoc a chyflenwadau, a chatalogio yn ôl yr angen;
  • helpu'r gwaith o recriwtio, hyfforddi a datblygu staff glanhau yn ôl yr angen;
  • goruchwylio staff sydd wedi'i neilltuo'n arbennig ar eich cyfer a sicrhau bod y gwaith glanhau'n cael ei gwblhau yn unol â'r fanyleb a gytunwyd;
  • trefnu'r gwaith glanhau i gyd-fynd â safonau penodedig;
  • sicrhau eich bod chi ac eraill yn cydymffurfio â phob polisi a gweithdrefn iechyd a diogelwch; 
  • sicrhau eich bod chi ac eraill yn defnyddio offer a deunydd mewn modd diogel;
  • helpu eraill i ddefnyddio offer/deunydd arbenigol yn effeithiol a diogel;
  • cydgysylltu â'r rheolwr llinell a mynychu cyfarfodydd yn ôl yr angen;
  • bod yn ymwybodol o - a chydymffurfio â - pholisïau a gweithdrefnau yn ymwneud â diogelu plant, iechyd, diogelwch a chyfrinachedd, gan hysbysu person priodol am bob testun gofid;
  • adnabod eich cryfderau a'ch arbenigeddau eich hun a defnyddio'r rhain i gynghori a chefnogi eraill;
  • helpu i oruchwylio, hyfforddi a datblygu staff;
  • sicrhau eich bod chi ac eraill yn cydymffurfio â phob polisi a gweithdrefn iechyd a diogelwch;
  • sicrhau eich bod chi ac eraill yn defnyddio offer a deunydd yn ddiogel;
  • sefydlu perthnasau a dulliau cyfathrebu adeiladol gyda chontractwyr ac asiantaethau neu weithwyr proffesiynol eraill;
  • mynychu a chyfranogi mewn cyfarfodydd rheolaidd.

Sgiliau a Diddordebau
Bydd y sgiliau canlynol gan Oruchwylwyr Glanhau:

  • gwybodaeth am weithdrefnau a rhagofalon iechyd a diogelwch;
  • ymwybyddiaeth o Reoliadau Rheoli Sylweddau Peryglus i Iechyd (COSHH);
  • ymwybyddiaeth o weithdrefnau iechyd a glanweithdra;
  • sgiliau llythrennedd a rhifedd da;
  • sgiliau TG sylfaenol;
  • profiad o ddefnyddio offer ac adnoddau perthnasol;
  • profiad o waith glanhau cyffredinol;
  • gallu i ymateb yn dda i blant ac oedolion;
  • parodrwydd i gymryd rhan mewn cyfleoedd hyfforddi a datblygu;
  • hallu i weithio ar eich liwt eich hun neu fel rhan o dîm;
  • parodrwydd i weithio yn unol â'r Code of Safe Working Practice for Caretaking and Premises Staff;
  • hallu i adnabod eich anghenion hyfforddi a datblygu eich hun, a chydweithredu er mwyn mynd i'r afael â hwy.

Gofynion Mynediad
Profiad mewn maes perthnasol a'r parodrwydd i dderbyn hyfforddiant anwytho.

Cyfleoedd a Rhagolygon ar gyfer y Dyfodol
Gall Goruchwylwyr Glanhau ddatblygu eu sgiliau a'u rhagolygon ar gyfer y dyfodol drwy weithio tuag at dderbyn Tystysgrif Sgiliau Goruchwylio Glanhau'r 

British Cleaners Association www.britishcleanersassociation.co.uk
British Institute of Cleaning Science www.bics.org.uk
Cleaning & Support Services Association www.cleaningindustry.org

Gallwch gael gwybodaeth bellach ar y maes gwaith hwn drwy Gyrfa Cymru (www.gyrfacymru.com) neu yn eich llyfrgell leol, y swyddfa yrfaoedd neu lyfrgell yrfaoedd eich ysgol.